top of page

Cyfresi Cysurus

Digital Media Grid

Wyddost di, mae hi dal yn fis Ionawr?! Wir! Mae’n debyg ein bod ni 20 wythnos i mewn i’r mis erbyn hyn... neu felly mae’n teimlo, beth bynnag.

I ddweud y gwir, dylai mid Ionawr fod yn fis o orffwys. Wedi holl wledda gwyliau’r gaeaf, ‘da ni’n haeddu cyfnod go dda er mwyn ymlacio go iawn (achos dydi ymlacio dros y Nadolig ddim yn ymlacio go iawn!) er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n barod am y Gwanwyn i ddod.

Felly, pa ffordd well o orffwys ‘na gyda chyfres neu dri?

 

Stâd

Gyda sawl cymeriad, bob un gyda hanes maith a gweithgareddau drygionus, heb anghofio cliffhanger y degawd nôl ar ddiwedd y gyfres gyntaf yn 2022, mae’n bryd neidio nôl i Faes Menai i fwynhau’r ail gyfres o’r ailddyfodiad.

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd gyda’r gyfres, mae Stâd yn dilyn y gyfres wreiddiol Tipyn o Stad a gafodd ei ddarlledu rhwng 2002 a 2008. Yr un teulu sydd ynghlwm a’r holl ddrama, sef teulu’r 'Gurkha' o Faes Menai. Yn Stâd, mae nifer o’r hen gymeriadau yn dychwelyd i’n diddanu ac, yn wir, mae’n rhaid i chi wylio’r gyfres i’w choelio hi!

 

Stad.jpg

© S4C / Cwmni Da

Dal y Mellt.jpg

© S4C / Vox Pictures

Dal y Mellt

Dyma gyfres arall sy’n dychwelyd ar ôl cyfres gyntaf llwyddiannus... Barod i ddychwelyd i fyd Carbo?

Er nad oes yr un cymeriad yn y gyfres yn ddiniwed o gwbl, mae’n gyfres ble mae’n anodd peidio closio at ambell i gymeriad a dewis ffefryn. Mae’n gyfres sydd wedi cael ei selio ar nofel o’r un enw gan yr awdur Iwan ‘Iwcs’ Roberts ond, wedi dweud hynny, does dim rhaid i chi ddarllen y llyfr yn gyntaf er mwyn deall be ‘di be.

Yr hyn sy’n wych am Dal y Mellt ydi bod bob un o dy ffrindiau, hyd yn oed dy ffrindiau o’r brifysgol sy’n byw i ffwrdd, yn gallu joio gan fod y gyfres hefyd ar gael ar Netflix. Awgryma’r gyfres yn dy sgwrs grŵp, cerwch ati i fwynhau a dadlau am yr holl ddrama!

​

Tanwen & Ollie

Dyma gyfres rydym wedi argymell o’r blaen, ond bellach mae’r ail gyfres ar gael! Y tro diwethaf, roeddwn i’n dilyn stori’r cwpwl ifanc i ddod yn rhieni am y tro cyntaf - wel, mae Neli fach wedi hen gyrraedd a gwneud ei hun yn gartrefol!

Y tro hwn, cawn fewnwelediad i fywyd y tri fel teulu newydd sbon, o baratoi bryd o ginio Nadolig i garreg filltir arall, sef dyweddïad. Ffansi gwylio’r cyfan? Cer draw i wefan S4C Clic!

Mae’r cyfresi uchod i gyd ar gael i ti i’w fwynhau ar wefan S4C Clic. A chofia, os oes gen ti argymhellion eraill, rho wybod i ni!

 

Tanwen ac Ollie.jpg

© S4C / Hansh

bottom of page