top of page

Cydbwyso’r Cymdeithasu

Gyda bwrlwm yr haf yn teimlo’n bell i ffwrdd bellach, efallai byddi di’n teimlo dy fod wedi setlo’n ôl i mewn i drefn reolaidd. Er bod y dyddiau poeth a phrysur wedi hen fynd heibio, dydi hynny ddim yn golygu bod y dyddiau oer o’n blaenau yn llai prysur o bell ffordd! Rhwng gweithgareddau hydrefol, Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt a pharatoadau Nadolig sydd yn ein cyrraedd yn gynt bob blwyddyn, mae trio gwneud bob dim yn teimlo’n amhosib. Mewn gwirionedd, mae gwneud bob dim yn teimlo’n amhosib, gan ei fod o’n amhosib!
 

Sunset Walk

Gwneud Bob Dim

Does dim posib i ti allu gwneud bob dim! Ocê, efallai bysa derbyn bob gwahoddiad a mynychu bob digwyddiad yn ddelfrydol, ond dydi hynny ddim wastad yn bosib, hyd yn oed i’r unigolion mwyaf egnïol yn ein cymdeithas. Os oes gen ti draethawd sydd angen ei gwblhau erbyn diwedd yr wythnos neu os wyt ti wedi gado helpu rhywun gyda phrosiect, rhaid ystyried y flaenoriaeth a cheisio dod o hyd i gydbwysedd. Rhaid cymdeithasu rhywfaint, heb os, gan ein bod hi’n anifeiliaid cymdeithasol! Ond rhaid hefyd sicrhau amser er mwyn cwblhau dy waith a dy addewidion.

Ar y llaw arall, efallai dy fod yn ffafrio gwneud cyn lleied o ryngweithio cymdeithasol â phosib, gan fod yr hydref wedi cael ei greu ar gyfer aros adref gyda phaned, blanced a llyfr da, dydi?! Wel, erbyn gweld, mae cymdeithasu gydag eraill yn gallu bod o les i ti. Rhaid cofio ein bod ni’n agosáu ar gyfnodau tywylla’r flwyddyn, ble mae’r bwystfil “iselder tymhorol” yn byw. Os wyt ti’n gallu, paid â gwrthod bob gwahoddiad am ddiwrnod allan neu i fynd am dro un prynhawn - dewis a dethol y rhai sydd yn fwy cyfforddus i ti.

 

Amseru

Un ffordd o sicrhau bod gen ti ddigon o amser i wneud “bob dim” ydi gosod oriau penodol ar gyfer yr hyn sydd rhaid i ti wneud, boed hynny’n ychydig o waith adolygu neu gwblhau prosiect arall. Mae cwblhau traethawd yn yr amser rhydd sydd gen ti rhwng dy weithgareddau eraill yn gallu gweithio o bryd i’w gilydd (mae bywyd yn gallu prysuro dros nos yn fyr rybudd, dydi?), ond yn amlach na pheidio mae eistedd i lawr ar gyfer cyfnod ble does dim rhaid i ti ganolbwyntio ar ddim byd arall ond y dasg sydd gen ti wedi ei glustnodi yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

Pryd ydi’r amser gorau i osod oriau canolbwyntio, a pa mor hir yw’r cyfnodau yna? Wel, mae hynny i fyny i chi yn llwyr. Does neb yn gweithio union yr un fath a'i gilydd! Mae rhai yn gallu, ac yn ffafrio, eistedd i lawr am oriau ar y tro a ddim yn codi nes bod y dasg wrth law wedi cwblhau, tra bod eraill yn gweithio orau mewn pocedi o amser fan yma a fan draw. Tra bo rhai yn gweithio orau gyda’r wawr, mae eraill yn dylluanod y nos - does dim ateb cywir!

​

Notice Board
Autumn Vibes

Cofia Hunanofal

Wrth i ti drio cydbwyso cymdeithasu ac astudio neu weithio, mae’n rhaid i ni gofio dy fod yn bwysig hefyd. Rwyt ti’n haeddu amser i edrych ar ôl dy hun. Wedi’r cyfan, os nad wyt ti’n edrych ar ôl dy hun does dim posib i ti adolygu’n effeithiol ‘na chwblhau gwaith i’r safon gorau posib! Felly, edrycha ar hunanofal fel rhyw fath o fuddsoddiad amser.

Dydi hunanofal ddim yn gorfod bod yn gymhleth o gwbl. Weithiau, hunanofal ydi coginio dy hoff swper, neu roi dy hoff raglen deledu ymlaen. Mae’n gallu golygu rhoi cerddoriaeth ymlaen yn y cefndir, neu brynu nwyddau newydd i olchi dy wallt. Yn y pen draw, ti sydd yn gwybod beth sydd orau i ti ac, er mae’n bosib iddo gymryd ychydig bach o ymarfer, ti fydd yn gwybod sut oriau i gydbwyso popeth!

 

bottom of page