Cymuned y Cwrls
Bellach, gyda dros 1,000 o ddilynwyr, mae gennym ni gymuned o gwrls ar instagram yn rhannu awgrymiadau, triciau, technegau, adolygiadau ac argymhellion. Bydden i’n awyddus iawn i herio unrhyw un sy’n meddwl mai rhywbeth ‘arwynebol’ yw’r dudalen - nid dyma’r lle i ddathlu delweddau “perffaith” ond yn hytrach i ddathlu ein bod ni oll yn wahanol, bod pob cwrl yn wahanol, a bod hynny yn rhywbeth i’w glodfori. Mae ein gwallt yn rhan annatod o’n hunaniaeth ni - ac mae derbyn eich gwallt naturiol o oedran ifanc - waeth pa bynnag wallt sydd gennych chi - yn holl bwysig, yn angenrheidiol y bydden i’n ei ddadlau nid yn unig i’r hunan hyder ond hefyd i greu byd sy'n llawer mwy derbyniol.
I fi yn bersonol, fel y soniais ar y dechrau, treuliais flynyddoedd o oedran ifanc yn casáu fy ngwallt, yn meddwl bod gen i wallt anffodus. Ond dydych chi ddim yn gallu fy meio am fod wedi meddwl hynny wrth ystyried y negeseuon mae cymdeithas yn ei rhoi am wallt cwrl. Rydych chi ond yn gorfod rhoi mewn i Google, er enghraifft, beth y dylech ei wneud a’ch gwallt ar gyfer cyfweliad neu gyflwyniad proffesiynol, ac yn fwy aml na pheidio, yr hyn sy’n dod lan yw y dylid sythu’ch gwallt ac osgoi ei adael yn ei stad naturiol oherwydd yr ystyron mae cymdeithas wedi’u benodi iddo. Ond, diolch i’r drefn, mae’r negeseuon rheiny yn dechrau newid. Boed yn ginc, yn donnau, yn ringlets neu’n afro, mae gennym ni wallt sy’n wahanol bob dydd, gwallt sy’n gwbl unigryw i ni, ac mae’n bwysig i ddysgu i ddathlu ac i garu ein cwrls.