top of page
Crwydro’r Gorllewin:
Llantwd a Thu Hwnt

Wedi holl gyffro'r Sioe, mae’n hen bryd troi at ddigwyddiad pwysig arall yng Nghalendr y Cymry, sef yr Eisteddfod Genedlaethol! Eleni, bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Sir Benfro am y tro cyntaf ers 2002 a’r dathliadau yn cymryd lle ym mhentref bach Llantwd.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol a’i thuedd o grwydro o amgylch y wlad yn cynnig cyfle arbennig i ddarganfod mwy o beth sydd ar ein stepen ddrws. Mae hyn yn wir eto eleni, gyda chymaint i’w weld, gwneud a bwyta rhwng Llantwd ac Aberteifi a’r ardaloedd hyfryd o’u cwmpas, wrth gwrs!
Ffansi archwilio’r ardal a dianc rhag y “ti yma am yr wythnos?” am ychydig o oriau? Yna darllena ymlaen am ysbrydoliaeth...
Am y Môr
Un o atyniadau’r ardal yw ei chyfoeth naturiol, gydag arfordir anhygoel boed glaw neu hindda!
Draw ym Mwnt, mae lan môr arbennig gyda gweithgareddau i siwtio pawb. Gyda thywod i ymlacio a thorheulo (gydag eli haul, heb os) mae’n le perffaith i gychwyn darllen y nofel ‘na sydd wedi bod ar dy restr ddarllen am sbel! Os wyt ti awydd mynd ar fach o antur, yna cer am wâc dros Foel y Mwnt am olygfeydd godidog. Ffansi mwy o anturio? Mae’r lan môr yma yn cael ei ffafrio gan nifer ar gyfer ymdrochi yn y môr.

Delwedd: © Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris

Tamaid Bach
Wedi laru ar sglods (drud) y maes? Mae digonedd o ddewis o fwytai a chaffis o gwmpas.
Mae’n bosib y byddi di wedi clywed am fwyty Crwst, ac mae hynny am reswm da. Dyma leoliad sydd ar restr ymweld nifer sy’n ymweld â’r ardal, a hynny’n ddiolch i brydau hyfryd gan ddefnyddio cynnyrch lleol o safon arbennig.
Trysor cudd arall ydi Bara Menyn, becws sy’n cynnig danteithion amrywiol a choffi heb ei ail, ac os wyt ti’n gallu cerdded o hyd ar ôl yr holl wledda, mae'r Fricsan yn cynnig prydau cartref cysurus ac, yn ôl bob sôn, opsiynau llysieuol gorau’r ardal.
Cestyll a chestyll
Beth yw ymweliad i’r Eisteddfod heb gymryd sbec ar y cestyll ger llaw?
Os byddi di’n mynd ar y bws o’r maes i Aberteifi, yna byddi di’n siŵr o ddod ar draws Castell Aberteifi. Yma yn y castell cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf i ni wybod amdani, a hynny nôl yn 1176 dan nawdd yr Arglwydd Rhys, felly mae’n werth ymweld â hi yn ystod yr wythnos!
Hefyd ar lan yr Afon Teifi mae Castell Cilgerran, ac os yda chi awydd ymdrochi yn hyd yn oed mwy o hanes yr ardal yna mae Castell Henllys, pentref o Oes yr Haearn, ac Abaty Llandudoch werth eu hymweld.

Delwedd: © Patrick Olner
bottom of page
