top of page
Croeso i Fôn
Daeth yr awr! Mae Eisteddfod yr Urdd wedi dychwelyd i Ynys Môn ac mae’r pontydd yn barod i’ch croesawu... Wel, o leiaf un bont!
Mae teithio i’r fam ynys yn bell iawn i’r rhan helaeth o ieuenctid Cymru sydd wedi bod yn paratoi am fisoedd er mwyn cystadlu. Wedi’r cyfan, mae Ynys Môn reit yng nghornel gogledd orllewin y wlad, felly mae angen gwneud y mwyaf o’r cyfle i archwilio’r ardal.

Delwedd: © Croeso Cymru
Ynys Llanddwyn
Dyma leoliad sydd ar restr nifer fawr iawn, iawn o bobl - ac felly mae angen paratoi! Mae’n debyg bod yr ynys eiconig yma yn y byd chwedlonol ar dy restr di o lefydd i ymweld â nhw yn barod, felly wnawn ni ddim gwastraffu amser yn esbonio’r atyniad, ond mae yna gwpwl o fanylion hanfodol os yda chi am gyrraedd - a gadael - yr ynys mewn un darn.
Yn ystod cyfnodau prysur, fel gwyliau ysgol neu benwythnosau hafaidd, mae’r maes parcio yng nghoedwig Niwbwrch yn mynd yn llenwi mewn chwinciad. Er mwyn cyrraedd y maes parcio, mae’n rhaid i chi yrru ar hyd lôn gul, a phan fo’r lle’n llawn a mannau troi yn brin, allwch chi ddychmygu’r helynt a’r anrhefn sy’n datblygu. Mae mynd mewn da bryd, ymhell cyn 10 o’r gloch, yn syniad da.
Paid â thynnu dy lygaid oddi ar y cloc, gan fod rhaid ystyried y llanw! Pan fo’r llanw i mewn, does dim modd cerdded rhwng Llanddwyn a Môn a rhaid aros am ychydig oriau. Edrycha ar amseroedd y llanw cyn i ti fentro - all arbed traed gwlyb!
Mynydd Parys
Na, nid trip i Ffrainc bell sydd ar ein rhestr, ond yn hytrach trip i gloddfa gopr ger Amlwch sydd. Dechreuwyd cloddio am gopr yn y man yma oddeutu 4,000 mlynedd yn ôl ac yn ystod y 18fed ganrif dyma oedd y gloddfa gopr mwyaf yn y byd. Bellach, mae’r cloddio wedi ildio a gadael tirwedd arallfydol gyda lliwiau sydd rhaid eu gweld er mwyn credu’r peth.
Os wyt ti awydd mynd am dro mewn lleoliad tra gwahanol i’r arfer, dyma’r lle i ti! Mae taith gerdded gylchol yn cynnig golygfeydd arbennig o’r gloddfa a’r dirwedd o’i amgylch ond cofia bod rhaid aros ar y llwybrau nodedig!

Delwedd: © Croeso Môn

Delwedd: © Cyngor Sir Ynys Môn
Melin Llynnon
Y felin olaf sy’n gweithio yng Nghymru, sydd weithiau’n cael ei ystyried fel eicon yr ynys. Gyda’r holl wynt (fel y byddwch chi’n siŵr o brofi yn ystod yr wythnos), roedd degau o felinau ar hyd yr ynys. Weli di’r hoelion hyd heddiw, gyda melinau di-hwyl yn adfeilion neu wedi cael eu trawsnewid i fod yn dai, heb anghofio enwau strydoedd yn dyst i felinau sydd bellach wedi dymchwel.
Nid dim ond leoliad o bwysigrwydd hanesyddol ydi Melin Llynnon bellach, gyda busnes llwyddiannus yn gwerthu donuts mwyaf blasus yr ynys. Yn debyg i drip Llanddwyn llwyddiannus, mae’n fater o gyntaf i’r felin (yn llythrennol), gan fod y donuts arbennig yn dueddol o werthu’n gyflym!
Parciau Natur
Os yda chi am ychydig bach o dawelwch, mae digon o le ar yr ynys er mwyn cerdded a mwynhau bywyd natur yr ardal.
Tafliad carreg o faes yr Eisteddfod mae Nant y Pandy, a hynny yng nghalon tref Llangefni. Fedri di gerdded dow-dow ar hyd yr afon a chwilio am y gwiwerod coch, neu os wyt ti am antur fedri di ddilyn yr afon yr holl ffordd at Lyn Cefni... a cherdded o gwmpas hwnnw os oes gen ti ddigon o amser (ac amynedd).
Tafliad carreg o faes yr Eisteddfod mae Nant y Pandy, a hynny yng nghalon tref Llangefni. Fedri di gerdded dow-dow ar hyd yr afon a chwilio am y gwiwerod coch, neu os wyt ti am antur fedri di ddilyn yr afon yr holl ffordd at Lyn Cefni... a cherdded o gwmpas hwnnw os oes gen ti ddigon o amser (ac amynedd).

Delwedd: © Gwefan Gogledd Ddwyrain Cymru
bottom of page
