top of page
Crefftau'r Hydref
Ydi, mae'r nosweithiau wedi ymestyn a'r oerni wedi dychwelyd go iawn y tro hwn. Wyt ti'n gweld hi'n anodd dod o hyd i rywbeth i wneud gyda'r nos pan fo'r tywyllwch wedi dwyn y dydd? Rhywbeth OND sgrolio, hynny yw? Yna beth am gychwyn meddwl am grefftau i dy ddiddanu...
![1[1].png](https://static.wixstatic.com/media/e13a61_da8823ca684b4dd0854abde7f6c2fb05~mv2.png/v1/crop/x_0,y_36,w_900,h_557/fill/w_451,h_273,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/1%5B1%5D.png)
Torch
Bellach, nid dim ond y Nadolig sy'n hawlio traddodiad y torch. Edrycha yn y siopa a fyddi di'n siŵr o ddod ar draws torch ar gyfer bob achlysur! Y newyddion da ydi does dim rhaid i ti wario ffortiwn ar blastig er mwyn addurno dy ddrws ffrynt.
Wyt ti'n cofio mynd o gwmpas yn hel dail a thrysorau naturiol pan o ti'n blentyn? Wel, dyma grefft sy'n gofyn i ti ddychwelyd i'r meddylfryd yna a chrwydro dy ardal leol er mwyn fforio am addurniadau. O foch coed i fwyar, oes rhywbeth gwell 'na thorch sy'n gallu dychwelyd i'r tir ar ôl ei fwynhau? Er, mae'n bwysig cofio os nad wyt ti'n gwybod beth yw planhigyn neu fwyar mae'n well ei adael fel y mae, rhag ofn!
Paentio Gwydr
Mae hwn yn grefft sydd wedi bod yn boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf gan ei fod yn hawdd iawn ei gyflawni gyda phethau sydd yn y tŷ yn barod!
Os oes gen ti hen ffrâm, ffelt pen du, paent a glud PVA, yna cer amdani. Gwna lun ar wydr y ffrâm gyda ffelt pen du (fel Sharpie) cyn meddwl am ei baentio. Cymysga baent gyda glud PVA a phaentia'r llun. Paid â phoeni os mae pethau'n mynd yn flêr, achos fydd hynny ddim i'w weld yr ochr arall!
Ar ôl i'r cyfan sychu, rho'r gwydr yn ôl yn y ffrâm a'i osod ar sill ffenest er mwyn gweld y golau yn tywynnu drwy dy waith!
![2[1].png](https://static.wixstatic.com/media/e13a61_af12597c31174fe0aba53695a4b54226~mv2.png/v1/crop/x_7,y_0,w_887,h_630/fill/w_409,h_286,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/2%5B1%5D.png)
![3[1].png](https://static.wixstatic.com/media/e13a61_2b9c4a5a2c1d48c2b333dbc8d765c8c6~mv2.png/v1/crop/x_60,y_2,w_840,h_628/fill/w_402,h_298,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/3%5B1%5D.png)
Paentio Crochenwaith
Os nad wyt ti wedi cael digon o baentio, yna beth am baentio crochenwaith? Dyma grefft wych er mwyn tawelu’r meddwl, neu hyd yn oed gyda chriw o ffrindiau.
Mae angen offer ychydig yn fwy arbenigol ar gyfer y grefft yma ac efallai bydd rhaid prynu ambell i beth, ond mae cit arbennig, gydag offer a'r holl gyfarwyddiadau, ar gael dros y we.
Yr hyn sy'n wych am baentio crochenwaith ydi, yn wahanol i'r torch naturiol, mae'n mynd i gadw a dy atgoffa o hydref llawn creu - ac yn dy atgoffa i arafu’n iawn pan fo pethau'n dechrau prysuro!
bottom of page
