top of page

Costau Byw

British Pound Notes

Mae rhywbeth bach yn poeni pawb. O broblemau perthynas i bwysau gwaith neu addysg, mae gan bawb broblemau eu hunain, boed nhw’n rhai bach neu’n rhai mawr.

Un broblem sy’n perthyn i ni gyd fel cenedl bellach ydi’r her costau byw. Mae popeth wedi cynyddu mewn pris, hyd yn oed tins sbagetti. Ffansi tost i frecwast? Neu beth am cereal? Wel, byddwch yn barod i wario mwy! 1.9% yn fwy, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nid oes unrhyw beth yn ddiogel rhag y codiad mewn pris! Wrth i ni ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn arbed arian yn yr haf drwy beidio rhoi’r gwres ymlaen, mae’r carped yn cael ei dynnu o dan ein traed wrth i ni geisio, ac weithiau methu, siopa bwyd heb orwario.

Gyda chymaint o bwysau ar ein cyllideb, mae’n gallu cael effaith andwyol ar ein bywydau. Yn ôl arolwg ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, mae 85% o’r rhai gymerodd rhan yn yr arolwg yn dweud fod y cynnydd mewn costau byw yn cael effaith ddirywiol ar ansawdd eu bywydau. 

 

Dydych chi ddim ar eich dy hun

Efallai eich bod chi’n gwneud pob dim o fewn eich gallu i arbed arian a bod clywed hynafiaid breintiedig ar y newyddion yn cynnig argymhellion ‘clyfar’ (sydd ddim mor glyfar â hynny wedi’r cyfan) i wresogi’ch tÅ· yn y gaeaf yn eich gyrru chi o’ch co'.

Hawdd yw dechrau meddwl mai chi sydd ar fai. Pan fyddwch chi’n rhoi eich pen i lawr i wneud y syms i weithio allan sut i gael morgais neu roi deposit ar dÅ· rhent, mae’n rhwydd mynd ati i ddwrdio’ch hun am beidio cychwyn safio pres yn gynt a dechrau difaru mynd ar wyliau gyda’ch ffrindiau pan ddyliwch chi fod wedi bod yn fwy doeth a safio’r arian.

Y gwirionedd syml ydi; mae’n debyg nad chi sydd ar fai. Mae ambell i beth mewn bywyd y tu hwnt i’ch rheolaeth -  a dyma un ohonyn nhw ar y foment ac mae’r un peth yn wir i nifer fawr iawn o bobl yng Nghymru. Felly, peidiwch yn bod yn rhy galed ar eich hun. Os ydych chi’n gwneud y eich gorau, dyna sy’n cyfri.

 

Stacks of Coins
Holding Hands

Cefnogi ein gilydd

Pan mae pethau’n teimlo allan o’n rheolaeth ni, dyma gyfle i edrych am y pethau y gallwn ni eu rheoli. Mae hyn yn wir am bron bob sefyllfa y byddwn ni’n ei hwynebu. Felly, dewch i ni droi at yr hyn gallwn ni wneud wrth i ni gyd wynebu’r her costau byw gyda’n gilydd.

Rydym ni i gyd yn gwybod fod gweithred o garedigrwydd yn gallu cael effaith arbennig, heb bwys ar faint y weithred. Gweithred syml ond pwerus ydi i beidio barnu.

Mae arian a chyllid yn bwnc sensitif. Anodd iawn yw enwi unrhyw un cyffredin sy’n hoff o drafod y fath dopig! Mae’n bwnc personol, yn enwedig pan nad ydi’ch balans yn edrych mor ddeniadol a fysech chi’n dymuno. Wrth deimlo’n rhwystredig am gyllideb dynn, mae teimlo fel bod rhywun yn eich barnu chi am eich sefyllfa a’ch penderfyniadau yn pwyso ar eich calon.

 

Gyda gwyliau’r haf ar droed, mae’n debyg fod amryw o gynlluniau mewn lle gan ambell un. Ac, wrth reswm, mae ambell weithgaredd yn costio. Mae hyd yn oed picnic wedi mynd yn ddrud y dyddiau yma! Wrth i chi edrych ymlaen at greu atgofion, rhwystredig yw cael ffrind yn canslo planiau os maent yn teimlo bod eu cyllideb yn rhy dynn i gyfiawnhau gwario ar bethau sydd ddim yn hanfodol. A chithau wedi mynd i’r fath drafferth i drefnu, mae canslo cynlluniau’n gadael i rywun i deimlo’n chwithig braidd. Ond, cofiwch, nid oes angen barnu ac nid yw atal eich barn yn costio dim.
 

bottom of page