top of page
m3_edited.jpg

 🧵 Colofn Maisey 🧵 

O Lundain i Lysh

m2.png

Haia! Maisey ydw i, a chroeso i fy ngholofn gyntaf!

Yn ddiweddar ces i’r cyfle i fynd i Wythnos Ffasiwn Lundain 2026 i weld y sioe Upcoming Designers, ac wrth gwrs roedd hi’n brofiad anhygoel. O siacedi cwiltiog i ffrogiau midi chic oedd yn llifo lawr y llwyfan hir, roedd hi’n amlwg bod rhai tueddiadau mawr ar y ffordd ar gyfer y tymor nesaf.

Felly yn y golofn yma rydw i’n mynd i rannu rhai o’r edrychiadau wnaeth sefyll allan i fi - a’r rhan gorau? Sut gallet ti ail-greu’r steiliau yma heb orfod gwario llwyth o arian!

Wrth edrych ar yr edrychiadau oedd yn cael eu harddangos, roedd hi’n amlwg bod lliwiau beiddgar a siacedi cwiltiog ar fin dod gyda’r gwanwyn. Un o’r looks cyntaf wnaeth sefyll allan oedd y siaced gwiltiog blodeuog. Yn y llun yma, mae’r model yn gwisgo siaced gyda phadin sy’n rhoi golwg cysurus heb aberthu’r elfen ffasiynol. Mae’r fath yma o siaced yn teimlo’n ymarferol ond hefyd yn stylish ar yr un pryd, sy’n ffordd hawdd o droi aros yn dy glydfan wrth blethu i mewn i’r edrychiadau ffasiwn fwyaf diweddar.

 

Ar lwyfan y sioe, roedd edrychiad dau ddarn coch llachar yn sefyll allan ar unwaith, ac mae’n profi un peth: mae lliwiau beiddgar nôl! Roedd y lliw cryf yn dod â chymaint o egni i’r llwyfan, ac yn gwneud yr edrychiad sefyll allan yn syth. Mae’n amlwg y gallai’r math yma o liwiau beiddgar ymddangos ar brif lwyfannau LFW hefyd. Ond yn y wisg yma mae’r thema flodeuog yn cael ei chymryd gam ymhellach - mae’r blodau’n ganolog i bopeth.

Wedi i mi ddychwelyd o fwrlwm y sioe, cefais gyfle i ddal i fyny gyda’r prif sioeau. Roedd edrychiadau yn sioe Conner Ives. Os wyt ti'n chwilio am ysbrydoliaeth o wisgoedd achlysurol a hawdd i’w gwisgo ond sydd dal yn sefyll allan gyda lliwiau deniadol a manylion blodeuog, dyma fan cychwyn da!

Côt trench? Yn oesol. Gellir ei wisgo dros unrhyw beth a thynnu unrhyw edrychiad i’r lefel nesaf! Mae Burberry wedi gwneud hyn eto gyda’u casgliad LFW 2026 - vibes clasurol, egni gwanwyn llawn, a thueddiad sy’n para am byth. Mae’r gôt yn fuddsoddiad, ac fe gei bwyntiau bonws os wyt ti’n dod o hyd i un safon wych yn ail law!

Wrth gwrs, mae’r dyluniadau ar y llwyfannau'r wythnosau ffasiwn yn wreiddiol ac yn unigryw, ac mae llawer o waith caled wedi mynd iddynt. Ond does dim rhaid i ti wario llawer i gael edrychiad tebyg! Gellir ail-greu’r steiliau yma a bod yn rhan o’r tueddiadau diweddaraf trwy siopa’n lleol a defnyddio’r hyn wyt ti’n ei weld ar y modelau i lywio dy sgrolio ar yr ap dillad ail law.

 

m1.png

Ffansi mwy o ysbrydoliaeth, yn syth o fy mhrofiad i o’r wythnos ffasiwn? Clicia yma am syniadau steilysh!
https://pin.it/2cDPrrDrT 

 

bottom of page