top of page

🧵 Colofn Maisey 🧵
Ffasiwn â Phwrpas:
Dangos y Pod

Pam cuddio’r pod? Mae’n rhan ohonot ti, felly pam ddim ei ddangos fel rhan o’ch arddull? Mae ffasiwn yn hygyrch ac yn addasu i ti - nid i guddio, ond i ddathlu’r hyn sy’n dy gadw’n fyw.
Yn y golofn hon, byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio ffasiwn i groesawu clefyd siwgr i’r byd, ac i rymuso’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr. Dangosa’r pod, dathla dy hunaniaeth, a phrofa i’r byd bod y rhai sy’n byw gyda chlefyd siwgr yn archarwyr!
Cyngor Lowri
Mae Lowri Jones, ffrind i mi a myfyriwr o brifysgol Abertawe sy’n byw gyda chlefyd siwgr, yn gwybod yn iawn sut mae hi’n teimlo wrth geisio cuddio ei phod. Wrth agor y cwpwrdd dillad, mae’n haws mynd am hwdi neu grys llewys hir - unrhyw beth i guddio’r hyn sy’n teimlo fel eu hansicrwydd mwyaf. Ond defnyddio ffasiwn i guddio’r hyn sy’n dy gadw’n fyw? Dyle ti ddim gorfod gwneud hynny. Mae’r pod yn rhan o berson, yn rhan o’r cryfder, ac mae’n haeddu cael ei ddangos.
Nawr mae’r gwanwyn yma, mae’r tywydd yn cynhesu, a’r nosweithiau’n braf arnaf i’n dod. Amser perffaith i groesawu dillad newydd i’r cwpwrdd i dangos y pod! Gyda dillad tymor newydd, crysau byr, topiau cefn agored, jîns isel... does rheswm i guddio mwyach.
Cyngor Lowri? “Paid â chasáu’r corff am bethau nad ydyw’n gallu rheoli a dechreua ddathlu beth yw e. Dy phod, dy gorff, dy arddull. Dangosa’r pod, gyda balchder, trwy ffasiwn.”
Yn y byd ffasiwn heddiw, mae mwy o bwyslais nag erioed ar hunanfynegiant. Nid yw ffasiwn bellach yn ymwneud â dilyn rheolau caeth neu guddio - mae’n ymwneud â dangos pwy wyt ti mewn gwirionedd. Dyna pam gall y pod ddod yn rhan naturiol o steil rhywun. Yn hytrach na’i guddio o dan haenau o ddillad, gall fod yn rhywbeth sy’n ychwanegu at yr edrychiad cyfan. Mae llawer o bobl sy’n byw gyda chlefyd siwgr yn dechrau gweld eu pod fel rhan o’u steil personol, yn union fel ategolyn neu ddarn unigryw o ffasiwn.


Mynegi Drwy Ffasiwn
Gall ffasiwn hefyd fod yn ffordd o dynnu sylw cadarnhaol at y pod. Mae rhai pobl yn dewis paru lliwiau eu dillad gyda lliw’r pod neu ei addurno gyda sticeri neu batrymau bach gan droi rhywbeth meddygol yn rhywbeth creadigol. Yn yr un ffordd ag y mae pobl yn defnyddio bagiau, esgidiau neu emwaith i gwblhau gwisg, gall y pod fod yn rhan o’r arddull honno hefyd.
Yn bwysicaf oll, mae ffasiwn yn ymwneud â hyder. Pan fydd rhywun yn teimlo’n gyfforddus yn eu dillad, mae hynny’n dangos. Drwy ddewis dillad sy’n dathlu’r corff yn hytrach na’i guddio, gall pobl sy’n byw gyda chlefyd siwgr adennill rheolaeth dros eu hunaniaeth. Nid yw’r pod yn rhywbeth sy’n tynnu oddi wrth arddull rhywun a gall fod yn rhan o’r hyn sy’n ei wneud yn unigryw.
Felly, wrth i’r tywydd gynhesu a’r cwpwrdd dillad newid gyda’r tymor, mae’n werth cofio nad yw ffasiwn yn ymwneud â chuddio pwy wyt ti. Yn hytrach, mae’n ymwneud â dangos pwy wyt ti gyda balchder. Dy gorff, dy pod, dy arddull, a’r rhyddid i’w wisgo fel rwyt ti eisiau.
Ddim yn siŵr sut i fynd ati i bersonoli dy pod di? Dyma fy nghynigion i, wedi ei ysbrydoli gan Lowri:

.png)
bottom of page
