top of page
m3_edited.jpg

 🧵 Colofn Maisey 🧵 

Cyngor
Ffasiwn Lily

Ffasiwn, fel ni'n nabod o, ydi un o'r ffyrdd gorau o fynegi pwy ydan ni. A nawr bod yr haf wedi cyrraedd, mae'r trends yn dod yn fwy a mwy cyffrous! O liwiau llachar a phatrymau trawiadol, i'r elfen finimaliaeth, mae digon o ysbrydoliaeth i ddiweddaru'r cwpwrdd dillad.

Yn y golofn yma, 'dw i wedi cael sgwrs efo cyn-fyfyrwraig Ysgol Ffasiwn Polimoda a steilydd, Lily Prygodzicz, sy'n rhannu ei barn ar dueddiadau diweddaraf, ynghyd o’i chyngor ar sut i edrych yn ‘lysh’ drwy'r tymor.

 

01.png

Aeth Lily i'r Eidal i ddilyn ei breuddwyd o weithio ym myd ffasiwn, gan astudio yn Ysgol Ffasiwn Polimoda. Yn ystod ei chyfnod yno, cafodd y cyfle i weithio ochr yn ochr â steilwyr proffesiynol mewn sioeau adnabyddus, gan gynnwys sioeau Diesel.

Yr hyn wnaeth i Lily sefyll allan oedd ei gwreiddiau Cymreig. Yn hytrach na dilyn pawb arall, fe wnaeth Lily gadw Cymru a'i threftadaeth yn agos i’w chalon a dyma oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei gwaith. Drwy gydol ei gradd, roedd tirweddau hardd Cymru yn dylanwadu ar ei gwaith, gan gymysgu'r elfennau hynny â ffasiwn fodern. 

Ers graddio, mae Lily bellach yn gweithio fel steilydd yn Mint Velvet. Yn ei hamser hamdden, mae hi hefyd yn dylunio ac yn creu dillad, gyda'r nod o lansio ei brand ffasiwn ei hun yn y dyfodol.


Fel steilydd, mae Lily'n treulio ei dyddiau yn helpu pobl i deimlo'n hyderus yn eu dillad. Felly, cyn siarad am beth sy'n trendio'r haf yma, roeddwn i eisiau gwybod beth yw'r cyngor steilio gorau y gallai hi ei roi.“Y peth cyntaf ydy gwybod beth sy'n gweithio i chi. Beth ydych chi eisiau i'ch gwisg ei ddweud amdanoch chi? Oes gennych chi steil mwy ‘streetwear’, rhywbeth cyfforddus, neu ydych chi'n hoffi look mwy chic a glam? Dyna le mae popeth yn dechrau,” eglurai.

Yn ôl Lily, mae lliw yn llawer pwysicach nag mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli.

 

"Mae dewis y lliwiau cywir yn gallu newid gwisg yn llwyr. Edrychwch ar eich tôn croen, lliw eich gwallt a'ch llygaid. Pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r palet sy'n gweithio i chi, mae popeth arall yn syrthio i'w le."

Mae hi hefyd yn pwysleisio bod ffit y dilledyg yr un mor bwysig. Boed hynny'n jîns high-rise neu low-rise, neu dop sy'n siwtio siâp eich corff, mae dod o hyd i'r dillad sy'n gweithio i chi'n gwneud byd o wahaniaeth.

"Steil, lliw a ffit yw'r sylfaen. Wedyn gallwch adeiladu gyda gemwaith, haenau ac ategolion."

Fel mae hi'n ei ddisgrifio, "Mae steilio fel paentio llun - rydych chi'n dechrau gyda'r sylfaen ac yna'n adeiladu arni."

Felly… be yw’r tueddiadau i edrych mas am yr haf yma?  Ar ôl clywed cyngor Lily ar steilio, roedd hi'n amser cael yr inside scoop ar dueddiadau'r haf. 

Yn ôl Lily, mae siorts les yn un o'r trends mwyaf ar hyn o bryd, ochr yn ochr â sgertiau hir a setiau co-ord mismatch. Mae'r esthetig boho wedi dychwedlyd hefyd, gyda'r vibes Coachella yn ôl.

Mae pawb eisiau edrych yn trendi heb dorri'r banc, a'r newyddion da yw nad oes rhaid gwario ffortiwn. Mae Lily'n dweud bod trends wastad yn dod yn ôl, felly mae'n debyg bod gennych chi rywbeth yn eich cwpwrdd dillad sy'n ôl mewn ffasiwn yn barod!

 

02.png

"Y peth gorau am ffasiwn yw bod modd trawsnewid bron unrhyw ddilledyn. Does dim rhaid iddo aros yn union beth oedd e i ddechrau."

Bydd Lily'n gwneud yn union yr hyn mae hi wedi'i gynghori drwy gydol y sgwrs - cadw pethau'n syml, adeiladu o’r sylfaen ac ychwanegu pop o liw i wneud i'r wisg sefyll allan.

A'i chyngor olaf i unrhyw un sy'n edrych i ddiweddaru eu cwpwrdd dillad yr haf yma?

"Paid â gor-feddwl pethau. Dechreua gyda’r sylfaen a gad i dy bersonoliaeth wneud y gweddill." 

 

bottom of page