top of page
COVER SGWAR BYDD LYSH HEADPHONES.png

Bydd Lysh

Megan Angharad Hunter

LBF bio photo Megan Angharad Hunter.JPG

Os wyt ti wedi tanysgrifio i gylchlythyr Lysh, fyddi di wedi bod yn aros yn eiddgar ers clywed y newyddion mawr. Mae gan Lysh bodlediad newydd!

Dros y gyfres gyntaf, byddwn yn sgwrsio gyda chriw bach brwdfrydig o wynebau sy’n newydd i Lysh a hefyd hen ffrindiau.

Welest ti ar ein Stories ar Instagram ein bod wedi bod yn holi am gwestiynau? Wel, dyma pam! Mae eich cwestiynau chi wedi cael eu rhoi i’r gwesteion! Cafwyd sawl cwestiwn heriol, yn arbennig y cwestiwn sy’n holi Megan Hunter am ei hoff lyfr! Felly, os wyt ti am ddarganfod yr ateb a chlywed am hanes Megan ar ei theithiau dramor gyda’i gyrfa lenyddol, cer i wrando nawr!

 

Fedri di wrando isod, ar Spotify, drwy ymweld â gwefan Y Pod neu drwy agor Apple Podcasts, ble bynnag wyt ti’n gwrando ar dy hoff bodlediadau!
 

Bydd Lysh - 01. Megan Angharad HunterLysh Cymru
00:00 / 20:01
bottom of page