top of page

Bwyta’r Calendr

Fresh Vegetables Display

Wyt ti erioed wëid clywed y term “bwyta’r calendr”? Na, dim llowcio papur mis ar ôl mis fel Ceridwen! Mae’n derm sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio bwyta’n dymhorol a gwneud y mwyaf o’r llysiau a ffrwythau sydd yn barod i’w bwyta yn naturiol - ac mae’n llawer haws cynnwys ffrwythau a llysiau tymhorol i mewn i dy ddeiet na’r hyn ti’n dychmygu!

Yn nhymor y Gwanwyn, mae digonedd o ddewis ar gael (er mai dim ond rŵan mae’r tir yn dechrau deffro) ac mae mwy nag un fantais. Mae bwyta yn y tymor cywir yn golygu bod llysiau a ffrwythau yn barod yn naturiol - hynny yw, pan maen nhw’n fwyaf blasus! A’r hyn sydd yn eu gwneud yn fwy blasus fyth ydi eu bod nhw’n dueddol o fod yn rhatach pan maen nhw’n barod yn naturiol, gan nad oed prosesau ychwanegol wedi bod mewn lle er mwyn eu tyfu’n artiffisial.

Sôn am yr artiffisial, mae bwyta’n dymhorol yn llawer fwy caredig i’r blaned i gymharu gyda bwyta bwydydd sydd ddim i fod yn barod (fel asbaragws ym mis Rhagfyr, er enghraifft). Dydi’r ffrwythau a llysiau sydd yn cael ei dyfu’n artiffisial ddim yn dueddol o dyfu’n lleol, chwaith, ac felly mae’r gost amgylcheddol o gludo’r nwyddau ar draws y byd yn uchel iawn i’r blaned.

1.     Rhiwbob
2.    Bresych deiliog
3.    Cennin
4.    Moron
5.    Betys
6.    Brocoli Piws
7.    Pannas

 

Garden Fresh Produce
Simple Frosted Cake

Mae uchod yn grêt, ond beth wyt ti i fod i wneud efo’r fath restr o gynhwysion?! Yn enwedig os nad yda chi’n y ffan fwyaf o bannas neu foron, oes ffordd o guddio’r cynhwysion mewn danteithion melys? Oes, wrth gwrs!

Melys
1.     Cacen Moron
2.    Cacen Pannas
3.    Crymbl Rhiwbob
4.    Cacen Bresych a Mefus
5.    Brownies Bresych
6.    Tarten Rhiwbob
7.    Jam Rhiwbob

 

Wedi cael llond bol o bethau melys? Wel, mae digonedd o syniadau o brydau sawrus ar gael, hefyd!

Sawrus
1.    Cawl Pannas
2.    Pannas wedi ei rhostio
3.    Moron wedi’r rhostio
4.    Salad Bresych deiliog
5.    Cennin Menyn
6.    Cawl Moron a Sinsir
7.    Hwmws Bresych


Felly, cer amdani i ymchwilio am ryseitiau a chofia rhannu dy brydau gyda ni ar ein cyfrifon cymdeithasol!
 

Butternut Squash Soup
bottom of page