top of page

Bwrw Glaw yn Sobor Iawn... Be Gai Wneud?!

Oes rhywbeth gwell ‘na gwrando ar sŵn y glaw yn taro’r ffenest? Wel, oes, a hynny ydi gwrando ar sŵn y glaw yn taro’r ffenest, tithau yn dy wely’n swatio ac yn gwybod nad oes gen ti ddim byd pwysig i wneud y diwrnod hwnnw! Ond, rhag ofn dy fod yn gweld hi’n anodd dod o hyd i rywbeth i wneud ar ddiwrnod glawiog, dyma ychydig o syniadau i ti:
 

glaw.jpg

1. Llyfr llafar. Cer draw i Borrow Box, ond bydda’n barod ar gyfer treulio amser maith yn dewis ymhlith yr opsiynau lu!

2. Creu bwrdd ysbrydoliaeth. Efallai dy fod yn hen law ar Pinterest ar gyfer curadu dy syniadau, ond beth am wneud bwrdd go iawn? Casgla ychydig o gylchgronau, cer i nôl y glud a siswrn a rho gyfres dda ymlaen yn y cefndir.

3. Sôn am gyfresi, mae diwrnod glawiog yn gyfle perffaith i ti ddal i fyny os wyt ti wedi methu cyfres!

4. Oes gen ti ffilm ar dy restr gwylio sy’n ofnadwy o hir? Ffilm ti wedi bod yn ei gadw nes cei di gyfle i eistedd a’i wylio yn iawn? Wel, dyma’r cyfle! Popcorn yn barod ac amdani!

5. Os nad wyt ti ffansi popcorn, yna beth am wneud picnic y tu mewn ar gyfer gwylio’r ffilm? Blanced bicnic, clustogau moethus a digonedd o snacs i dy gadw’n brysur...

 

6. Pobi rhywbeth newydd, neu hen rysáit arbennig. Os wyt ti am fod yn sownd yn y tŷ, yna mae bod yn sownd yn y tŷ gyda chacen ac oglau da drwy’r tŷ cyfan yn llawer gwell.

7. Wedi bod yn meddwl sortio dy ddillad ers tro byd? Heddiw ydi’r dydd! Cer draw i’r gadair ‘na sydd wedi bod yn hafan i dy wardrob ers sbel a’i daclo!

8. Tra byddi di wrthi’n sortio dy ddillad, wyt ti wedi meddwl rhoi ychydig o bethau ar Vinted i’w gwerthu? Pwy â ŵyr, efallai y byddi di’n gwneud ychydig o siopa arno dy hun.

9. Ysgrifennu! Boed hynny’n cerdd ar bwnc sy’n pigo dy gydwybod neu’n llythyr i ti’r dyfodol, unwaith y byddi di’n cychwyn ysgrifennu bydd dim stop arnat!

10. Os nad wyt ti’n un am ysgrifennu, ond yn ysu i fod yn greadigol, beth am roi cynnig ar ddarn o gelfwaith?

 

Kneading Dough
glaw 3.jpg

11. Sortio’r lluniau sy’n eistedd ar dy ffôn. Y dyddiau yma, mae gan rywun miloedd ar filoedd o luniau, does?! Cer drwy’r cyfan er mwyn dileu’r dibwys (fel screenshots hollol random) a gwna nodyn o’r rhai arbennig rwyt ti am ei brintio.

12. Rhoi cynnig ar wneud bara. Mae’n gofyn am lot o amser aros, ond ar ddiwrnod glawiog does dim brys, nag oes?

13. Trwsio tyllau mewn sanau. Ia, go iawn! Mae’n debyg bod gen ti bâr ym mherfeddion dy ddrôr, felly cer i’w nôl a cher ar y we er mwyn darganfod fideo â chyfarwyddiadau. Bydd gen ti sanau newydd mewn dim!

14. Ffonio ffrind. Na, dim rhannu nodyn llais, ond siarad gyda rhywun go iawn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad yda chi wedi cael dal fyny am sbel.

15.  Glanhau’r brwsh colur. Yndi, mae’n ffaff, ond mae’n bwysig - ac yn talu ar ei ganfed!

 

bottom of page