top of page
Blwyddyn Newydd, yr Un Hen Fi
O'r Archif
Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio ac wrth i ni edrych ymlaen i'r hyn sydd i ddod, dewch i ni yn gyntaf edrych yn ôl ar erthygl sylfaenydd Lysh, Llinos Dafydd.
Ar drothwy blwyddyn newydd arall, dwi yma i rannu un neges fach gyda chi. Cyfrinach, a dweud y gwir. Blwyddyn newydd, fi newydd? Pfft - dim diolch!
"Blwyddyn newydd, yr un hen fi."
Amdani!
Does ‘na ddim ‘fi newydd’ yn 2022 - a byswn i wir yn eich annog chi gyd i beidio â rhoi pwysau ar eich hun i newid, jyst achos mai dyna ydy’r ‘norm’.
Wrth gwrs, os ydy newid yn angenrheidiol - ewch amdani. Ond i fi - dwi’n sylweddoli ‘mod i’n ddigon, fel ydw i. Er gwaetha pawb a phopeth, dwi’n ddigon.
Er nad ydw i’n teimlo felly bob un dydd, a rhaid crafu’r gwaelodion weithiau er mwyn teimlo’n ddigon, rhaid ceisio dysgu byw gyda’r da a’r drwg o fod yn bod dynol yn yr hen fyd yma.
​
Mae yna heriau, mae yna bleserau. Mae yna rwystrau, mae yna uchelfannau. Mae yna bethau sy’n hollti’r galon, a phethau sy’n llonni’r galon.
​
Yn y flwyddyn newydd, dwi am ganolbwyntio ar un peth - sef gwneud y pethau bychain.
Gall pob un ohonom newid y byd trwy wneud pethau bach bob dydd, er bod llawer gormod yn credu nad oes gennym unrhyw bŵer i wneud gwahaniaeth. Dw innau wedi bod yn yr un cwch, credwch chi fi, lle dwi’n meddwl ‘mod i’n hollol anobeithiol.
​
Does dim angen gweithredoedd mawrion. Gall y pethau bychain newid popeth.
Gyda geiriau caredig a gwên fach, gallwn wirioneddol wneud gwahaniaeth - boed hynny i un person, neu lawer. Yn bwysicach fyth, gall hynny wneud gwahaniaeth i chi eich hunain.
Camwch i’r flwyddyn newydd fel chi eich hun - a gwnewch y pethau bychain sy’n iawn i chi.
Dyma fi’n eich gadael chi gyda rhai o bigion poblogaidd Lysh Cymru am eleni. Diolch i bob cyfrannwr a darllenydd. Chi wirioneddol werth y byd. A rydych chi’n ddigon.
Llinos x
bottom of page