top of page
Blwyddyn Newydd Well
Wyt ti wedi gwneud adduned Flwyddyn Newydd eleni? Neu, cwestiwn gwell, faint o dy addunedau wyt ti wedi eu torri yn barod?!
Mae gosod addunedau wedi bod yn draddodiad dibwys ers tro byd. Dyma gyfnod pan mae cwmnïau ffitrwydd a harddwch yn mynd amdani i’n hudo, a hynny ar ôl cyfnod o hudo i wario adeg y Nadolig – oes llonydd i’w gael? Daw pwysau i golli pwysau, i wella’ch croen gyda rhyw serwm gwyrthiol ac i drawsnewid eich bywyd drwy ddilyn rhyw ddeiet arbenigol (ar yr amod eich bod chi’n tanysgrifio i raglen ffitrwydd dylanwadwr sydd heb fath o gymwysterau. Wel, beth am wneud addewid i ddweud “digon yw digon”?!
Os wyt ti am osod addunedau eleni, mae’n hollbwysig eu bod nhw’n rai sydd o werth i ti, rhai sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol, sydd ddim yn costio ffortiwn! Er nad oes rhaid i ti osod unrhyw adduned, dyma dri syniad all fod o fudd i ti:​
​
Adduned 1 – “Dwi’n ddigon yn union fel ydw i”
Waeth beth mae’r cylchgronau a’r cyfryngau yn ei ddweud, rwyt ti’n ddigon yn union fel wyt ti. Does dim rhaid i ti newid unrhyw ran ohonot ti er lles neb arall. Efallai dy fod eisiau gosod addunedau sy’n cynnwys trawsnewid edrychiad neu ddatblygu steil newydd, ond er mwyn cadw’r adduned mae’n rhaid i ti sicrhau dy fod yn creu’r adduned er dy les di, neb arall.
Adduned 2 – “Mae’n iawn i mi ddweud ‘na’”
Mae dweud ‘na’ i bethau dwyt ti ddim eisiau eu gwneud yn swnio’n hawdd, ond coelia neu beidio, mae’n hen beth slei, a llawer mwy anoddei wneud na’i ddweud! Does dim o’i le mewn dweud ‘na’ ac, i ddweud y gwir, mae’n sgil sy’n rhaid ei ddysgu i nifer, gan nad ydi o’n dod yn naturiol i bawb. Cytuno a dweud ‘ia, iawn’ ydi’r peth hawsaf i’w wneud yn aml, achos mae rhywun eisiau bod o gymorth i eraill a gwneud pobl yn hapus. Wrth ddweud ‘na’ i bethau does gen ti ddim amser iddyn nhw, neu i bethau dwyt ti wirioneddol ddim eisiau eu gwneud, yn diogelu dy iechyd meddwl di, yn rheoli straen ac yn rhoi amser i ti ganolbwyntio ar yr hyn sydd wir yn bwysig i ti.
Adduned 3 – “Er mwyn edrych ar ôl eraill, rhaid i mi edrych ar ôl fy hun yn gyntaf”
Mae hunanofal yn bwysig, mae pawb yn gwybod hynny! Y peth ydi, mae’n gymaint haws edrych ar ôl pobl eraill yn hytrach na chanolbwyntio ar edrych ar ôl ein hunain. Yn y tymor hir, dydi hynny ddim yn gynaliadwy ac yn hwyr neu’n hwyrach, daw’r burn out. Does dim byd o’i le ar eisiau helpu pobl eraill – mae’n nodwedd arbennig! Er mwyn parhau i edrych ar ôl dy deulu, dy ffrindiau a hyd yn oed dy anifeiliaid anwes, mae’n RHAID i ti edrych ar ôl ti dy hun yn gyntaf.
bottom of page