top of page

Beth Sy’ ‘Mlaen?!

TV Remote

I’r carwyr cyfresi yn ein plith, mae’n anodd coelio fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers yr ail gyfres o Bridgerton ac mae’n fwy anodd fyth i goelio fod mis arall i ddisgwyl tan y gyfres nesaf! Ydi Colin yn haeddu cariad Penelope? Mae hynny’n ddadl ar gyfer diwrnod arall a chawn ddarganfod y cyfan mewn ychydig o wythnosau ond, am y tro, mae yna ddigon o gyfresi ar gael i dy gadw di’n brysur!
 

Tanwen ac Ollie

Mae
lodes Lysh Tanwen yn wyneb cyfarwydd i ni gyd wrth iddi gyflwyno rhagolygon y tywydd draw ar S4C. Efallai dy fod wedi sylwi fod Tanwen wedi bod ychydig yn ddistaw ar y sgrin, a hynny oherwydd bod rhywbeth llawer iawn fwy pwysig yn hawlio ei sylw i gyd, sef Neli fach!

Yn y gyfres hon, dilynwn Tanwen a’i phartner Ollie, chwaraewr pêl-droed Abertawe, wrth iddyn nhw fynd ar y siwrne heriol o ddod yn rhieni am y tro cyntaf. Gyda digon o chwerthin a llond y lle o gariad, cawn fewnwelediad i’r realiti o fagu teulu bach. Tybed sut bydd Cayo y ci yn ymdopi gyda bod yn frawd mawr?

 

Tanwen ac Ollie.jpg

© S4C

Ar Brawf.jpg

© Darlun TV / S4C

Ar Brawf

Wyt ti’n hoff o gyfresi drama sy’n canolbwyntio ar drosedd? Mae digon ohonyn nhw ar gael! Ond, wyt ti wedi ystyried sut brofiad ydi gweithio yn y maes go iawn? Beth mae swyddogion yn ei wynebu o ddydd i ddydd?

Mae’r gyfres newydd Ar Brawf yn mynd â ni y tu ôl i len y Gwasanaeth Prawf Gwynedd a Môn i weld yn union sut mae pethau’n gweithio pan mae unigolyn yn gadael y carchar ac yn gorfod dilyn amodau penodol ar eu cyfnod prawf. Y Swyddogion Prawf sydd â’r gwaith pwysig o gefnogi a monitro’r unigolion sy’n wynebu bywyd wedi’r carchar, a chawn gwrdd â rhai o’r swyddogion hynny, fel Sian, Lois, Elin ac Angharad.

 

Rycia o ‘Ma

Mae cryn dipyn o sôn ar y cyfryngau am rygbi - o’r Chwe Gwlad i Gwpan y Byd, y realiti ydi mai gemau’r dynion sydd yng nghanol y llwyfan ar y cyfryngau. Serch hynny, mae yna glybiau rygbi merched ledled y wlad a’r merched hynny ar dân a dyma i chi gyfres sy’n taflu golau ar y genod penderfynol yma.

Draw yng Nghaernarfon, mae cyfres realiti Rycia o ‘Ma yn dilyn Tîm Rygbi Caernarfon, ar y ffordd i’w gemau ac yn cofnodi’r holl helynt a sbri eu taith i’r Alban. Ar gychwyn y gyfres, mae’r tîm ar waelod y gynghrair, felly’r mae yna frwydr o’u blaenau. Gyda gwaith tîm a brwdfrydedd, digon o joio ac ychydig o densiwn, mae’n gyfres sy’n siŵr o roi gwên ar dy wyneb a phwy â ŵyr, efallai fyddi di’n chwilio am dy glwb rygbi lleol i roi cynnig arni dy hun cyn diwedd y gyfres!

 

Rycia o 'Ma.jpg

© Hansh / S4C

bottom of page