top of page
Aros yn lleol, a chreu dyfodol
Alaw Rees, Llwyddo’n Lleol 2050
Dwi’n gwybod sut mae'n teimlo. Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, mae’n hawdd meddwl bod yn rhaid i ti adael i “wneud dy farc.” Mae dinasoedd fel Caerdydd, Llundain a thu hwnt yn ymddangos yn fwy, yn well, ac yn llawn cyfleoedd. Gall deimlo nad oes bywyd cymdeithasol yma, dim llwybrau gyrfa, a dim llawer i bobl ifanc. Ro’n i'n meddwl yr un peth unwaith. Ond beth pe bawn i'n dweud wrthot ti nad yw aros yn lleol yn golygu colli allan - mae'n golygu adeiladu rhywbeth anhygoel lle rwyt ti nawr?
Drwy weithio ar brosiect Llwyddo’n Lleol 2050, dwi wedi gweld yn union beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n dechrau buddsoddi yn ein cymunedau. Cymer y clybiau rygbi yng Ngheredigion, er enghraifft. Maen nhw wastad wedi bod yn rhan fawr o fywyd lleol, ond nawr maen nhw’n dod yn gymaint mwy – yn cynnal cerddoriaeth fyw Gymraeg, nosweithiau comedi, nosweithiau syllu ar y sêr, a digwyddiadau go iawn sy’n dod â phobl ynghyd.
Mae ffrind i fi, Mared Jones, a symudodd yn ôl i Aberaeron ar ôl astudio yng Nghaerdydd, yn ei grynhoi yn berffaith:
"Ro’n i bob amser yn meddwl y byddai'n rhaid i mi symud i ffwrdd i gael unrhyw fath o fywyd cymdeithasol neu yrfa, ond mae'r digwyddiadau hyn wedi dangos i mi bod cymaint yn digwydd yma. Mae'n wych gweld y clwb yn byrlymu gyda phobl fy oedran i, ac mae wedi gwneud i mi eisiau aros a bod yn rhan ohono."
A dyna'r pwynt - mae pethau'n digwydd yma. Mae’n ymwneud â newid y ffordd rwyt ti’n gweld dy filltir sgwâr. Nid yw aros yn lleol yn golygu jyst setlo, a gwneud dim byd. Mae’n golygu bod yn rhan o rywbeth mwy: cadw’r Gymraeg yn fyw, adeiladu gyrfa a chysylltiadau i dy hun, cefnogi dy gymuned, a dal i gael hwyl gyda dy ffrindiau.
Does dim rhaid i ti adael i ddod o hyd i'r hyn rwyt ti'n edrych amdano. Os wyt ti'n meddwl nad oes unrhyw beth yn digwydd, cymera ran - trefna ddigwyddiad, dechreua glwb, neu cer i rywbeth sydd eisoes yn digwydd. Mae'r cyfleoedd yma, ac felly hefyd y bywyd rwyt ti ei eisiau.
Dyma sydd i ddod yng Nghlybiau Rygbi Ceredigion dros y cyfnod nesaf gyda chefnogaeth prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 sy’n rhan o Raglen ARFOR. Wela i di ‘na?
-
Clwb Rygbi Llambed (26/12): Diwrnod Darbi yn erbyn Llanybydder, gyda cherddoriaeth fyw gan Llew Davies.
-
Clwb Rygbi Aberteifi (26/12): Gemau iau a cherddoriaeth fyw gyda Jonathan White i godi arian i adran ieuenctid y clwb.
-
Clwb Rygbi Llambed (28/12): Darbi Llambed v Aberystwyth, ac yna Newshan yn fyw ar gyda’r nos
-
Clwb Rygbi Llanybydder (4/1): Noson codi arian gyda Baldande, Disgo Elfyn, sgetsys comedi gan y chwaraewyr, ac ocsiwn.
-
Clwb Rygbi Aberaeron (11/1): Noson gomedi ac adloniant Cymraeg.
-
Clwb Rygbi Tregaron (16/1): Noson syllu ar y sêr ac astroffotograffiaeth.
-
Clwb Rygbi Aberaeron (18/1): Noson adloniant Cymraeg gyda Llew Davies.
-
Clwb Rygbi Tregaron (31/1): Trafodaeth banel Gymraeg yn dathlu pen-blwydd y clwb yn 50 oed, gyda sylfaenwyr a chwaraewyr y tymor cyntaf.
bottom of page