top of page
Arholiadau... Amdani!
%20(4).png)
Gens, mae'r haf o fewn cyrraedd! Gyda llai 'na 100 diwrnod nes yr Eisteddfod Genedlaethol (tocynnau Maes B yn barod!), y tywydd yn ein temtio gyda haul cynnes (er iddi fwrw glaw bob yn ail ddiwrnod) a phlaniau hafaidd di-ri yn cael eu cynllunio mewn group chats, mae'n amhosib peidio edrych ymlaen!
Wel, nes i chi gofio bod arholiadau ar y gweill...
Pan fyddi di'n edrych ar dy amserlen arholiadau, mae'r cyfan yn edrych yn ormod. A phan fo dau arholiad ar yr un diwrnod, mae'n ddigon i droi stumog rhywun. Fyddi di'n siŵr o glywed rhywun yn dweud y dylet ti gymryd "un diwrnod ar y tro" a fydd pethau'n edrych llawer gwell pan fyddi di wedi dod drwyddi. Ond, mae arholiadau yn achosi gymaint o straen, waeth pa lefel academaidd rwyt ti arni a waeth sut mae rhywun yn penderfynu rhamantu'r profiad.
Felly, digon o wylo - dewch i ni weithio'n fwy clyfar, nid yn galed.
Snacs!
Mae tamed i'w fwyta wastad yn syniad da, ond mae'n bwysig dewis y rhai iawn sy'n mynd i roi digon o egni i ti allu adolygu'n effeithiol. Paid â chuddio'r siocled i ffwrdd chwaith - mae angen ychydig o hapusrwydd yn y cyfnod yma, does? Ychwanega ffrwythau gwahanol wrth aros pryd, neu cer amdani i drio ffrwythau hollol wahanol na fysa ti'n mynd amdanyn nhw fel arfer. Mae angen amrywiaeth, weithiau!
Sôn am fwyd, os wyt ti'n un sy'n gweld hi'n anodd cymryd saib o adolygu, mae coginio bwyd yn gallu cynnig ysbaid neis. Rho'r nŵdyls ennyd i un ochr, a cher i goginio rhywbeth sy'n cymryd amser i'w goginio. Er lles dy lygaid, dy ymenydd a dy fol!
​
%20(3).png)
%20(6).png)
Dydi bywyd ddim yn dod i stop
Mae bywyd dal i fynd yn ei flaen tra byddi di'n adolygu, a dylet ti ddim gadael iddo fynd heibio heb bipio dy ben i mewn. Hynny yw, wrth gwrs fod adolygu'n bwysig, ond i rai mae syllu ar wybodaeth yn dragwyddol yn ofer, y profiad undonog ac unig yn gwasgu bob dyfyniad a hafaliad i mewn i un twmpath cymysglyd. Felly, paid â gwrthod mynd am baned gyda dy deulu oherwydd dy fod angen dysgu'r gerdd 'na ar dy gof. Pwy â ŵyr, efallai mai'r saib a phaned yna o ti angen er mwyn cael y geiriau'n sownd yn dy ben, o'r diwedd!
Pwnc yn ei hun
Mae'n deg dweud bod dysgu sut i wneud arholiad yn bwnc yn ei hun - fyddwch chi'n siŵr o glywed hyn dros eich cyfnod o sefyll arholiadau, ac am reswm da! Wedi cwpwl i flynyddoedd, fyddi di'n siŵr o fod wedi sefyll digon o arholiadau i ddod i'r arfer a'r drefn, ond os nad wyt ti wedi gwynebu papur arholiad o'r blaen yna mae'r cyfan yn gallu bod bach yn gymhleth. Er bod hyn yn broses hir, does dim ond un peth sy'n gallu dy baratoi di - cyn papurau! Mae hyn, wrth reswm, yn cymryd amser maith ond drwy berffeithio dy dechneg o ateb cwestiynau byddi di'n hen law arni cyn cychwyn arholiad cyntaf y tymor.
Yn olaf, dydi methu arholiad ddim yn ddiwedd y byd - wir yr.
​
bottom of page