top of page

Iechyd a Lles | Switsh Off, Genod!

Iechyd a Lles | Switsh Off, Genod!

gyda Llio Angharad

Dwi isho dechrau’r pwt bach yma drwy ddeud da iawn chi. Wir yr ‘wan, dydi’r ‘cyfnod’ yma ddim yn un hawdd, ond dan ni wedi addasu'r gorau gallwn ni a dan ni wedi gwneud joban reit dda arni hyd yn hyn. Felly da iawn ni.
Mae dysgu o adref yn gallu bod yn anodd, yn enwedig ar ôl i’r nofelti o gael aros adra drwy’r dydd ddiflannu. Diffyg mynadd neud dim byd a llu o bethau i ddenu’n sylw ni i ffwrdd o’r gwaith dysgu.
Fyswn i’n licio rhannu ychydig o dips i chi ar sut i ddysgu o adref. Dyma be sy’n gweithio i mi a fyswch chi’n gallu addasu i’ch siwtio chi.

Byddwch yn ffeind
Ar ddiwrnod dysgu, cofiwch rhaid bod yn ffeind efo’ch hun. Mae’n bwysig trin eich hun fel byswch chi’n trin ffrind.
Tydi awr ar ôl awr o waith ddim yn realistig, ac mewn gwirionedd dydi o ddim yn ddisgwyliedig gan neb. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael egwyl go iawn. Fydd cymeryd saib a snac bob hyn a hyn yn helpu chi i wneud eich dysgu gorau yn y pen draw.

Ymlacio Go Iawn
Ar ôl diwrnod o ddysgu neu ar y penwythnos, mae hi’n gallu bod yn anodd cael switch off. Ella dydach chi ddim yn meddwl am waith ysgol neu’r newyddion ar bwrpas, ond mae’r meddwl dal yn gallu bod eithaf prysur efo meddyliau heb i chi sylwi.
Allwch chi ddod o hyd i weithgaredd sy’n galluogi chi i ymlacio go iawn? Er enghraifft, dwi’n ffan fawr o grosho. Mae crosho yn weithred sy’n ailadrodd lot ac ar ôl ychydig mae o’n weithred reit ddifeddwl, felly mae o’n gyfle i mi allu prosesu gwybodaeth gyda meddwl llonydd tra mae fy nwylo yn brysur. Tydi crosho ddim yn gweithio i bawb yn amlwg, ond dwi’n meddwl fod gan bawb ei ffordd ei hun o brosesu gwybodaeth, llonyddu’r meddwl ac ymlacio go iawn. Gall hynny fod mor syml a darllen, gwrando ar gerddoriaeth neu greu celf.

Myfyrdod y Pum Synnwyr
Ewch am dro. Boed hi’n haul neu’n law, ewch am dro, dewch o hyd i le bach distaw a gwnewch yr ymarfer bach yma:
Nodwch 5 peth allwch chi eu gweld.
Nodwch 4 peth allwch chi eu clywed.
Nodwch 3 peth allwch chi eu teimlo.
Nodwch 2 peth allwch chi eu hogleuo.
Nodwch 1 peth allwch chi ei flasu.

Mae hyn yn helpu arafu a thawelu’r meddwl. Sylwch be sy’n wahanol yn y tymor yma i gymharu â’r tymor cynt. Oes arwyddion o’r tymor sydd i ddod?
Wrth gwrs daw diwrnodau lle dydach chi rili RILI ddim isho mynd am dro. Dydi o ddim bwys, achos allwch chi wneud yr ymarfer yma yn edrych trwy’r ffenest. Ella fydd fory’n ddiwrnod gwell i fynd am dro.
A wyddoch chi, mae’n debyg fod edrych ar lunia anifeiliaid ciwt yn lleihau lefelau straen… felly dyma anifail ciwt i chi!

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Switsh Off, Genod!
bottom of page