top of page

Iechyd a Lles | Os mêts, mêts...

Iechyd a Lles | Os mêts, mêts...

Mae cael ffrindiau da mor werthfawr ag erioed yn y byd sydd ohoni ond sut mae bod yn ffrind da? A sut mae adnabod ffrind da? Dyma bwyntiau pwysig gan #LyshCymru i gnou cil arnyn nhw ...

Naw wfft i ffrind fel hyn:

Rhywun sy’n siarad amdanat y tu ôl i dy gefn, neu’n rhannu dy gyfrinachau gydag eraill.
Rhywun sy’n rhoi pwysau arnat i wneud pethau sy’n groes i dy natur ac sy’n dy orfodi i wneud penderfyniadau gwael.
Rhywun sy’n dy feirniadu drwy’r amser ac yn gwneud i ti deimlo’n isel am dy hun.
Rhywun sydd yn mynnu cael dy gefnogaeth di bob amser ond sydd ddigon pell pan fo’r esgid ar y droed arall.
Rhywun sydd ond yn siarad â ti pan maen nhw eisiau rhywbeth gennyt.
NAW WFFT IDDYN NHW!

I wneud ffrindiau newydd:

Bydd garedig a bydd yn ti dy hun.
Bydd yn glust i wrando.
Siarada’n glên.
Bydd ystyriol a pharchus.
Bydd ddibynadwy a gonest.
Bydd yr un i annog a lledaenu’r cariad gyda gweithredoedd hapus.
Ond yn bwysicach fyth - gwna’n siŵr bod gen ti ffrindiau fel hyn hefyd.

Insta-ffrindiau #LyshCymru:
Beth mae cyfeillgarwch yn ei olygu i ddilynwyr Instagram Lysh Cymru?

“Rhywun chi’n gwybod sydd yna i chi hyd yn oed os nad ydych chi’n siarad bob dydd.”

“I mi mae cyfeillgarwch mewn ffrindiau a theulu yn golygu eich bod yn gallu fod yn chi eich hunain o gwmpas eich gilydd, yn gallu trystio eich gilydd a’ch bod yn gallu fod yna i rywun os oes gennych broblem. Ond mae llawer o bobol yn anghofio am fod yn gyfeillgar i ddieithriaid hefyd, hyd yn oed y pethau lleiaf fel cynnig eich sedd ar y bws neu roi gwên neu ddweud helo wrth rywun, Gall bethau fel yma fynd yn bell.”

“Mae ffrindiau yn hynod o bwysig. Mae bod yng nghwmni eich ffrindiau ar adegau caled yn feddyginiaeth ynddo i hun. Mae ffrindiau fel teulu ychwanegol dw i’n meddwl. Wastad yno i chi beth bynnag yw’r mater. Mi fyswn i’n bersonol ar goll heb fy ffrindiau wrth fy ochr. I mi yr elfennau pwysicaf mewn ffrind yw: bod yn gefnogol, yn hwylus, wastad yn barod i wrando, peidio fod yn feirniadol a bod yn barod i oriau o chwerthin a barod i greu miloedd o atgofion melys! Dw i’n ddiolchgar iawn i fy ffrindiau am bob dim.”

“Pedio â bod ofn bod yn chi'ch hunain. Aros efo pobl rydych chi'n teimlo'n hapus efo nhw.”

“Mae ffrind da yn eich trin chi’n dda, bob amser. Gas gen i rai toxic – os oes rhai yn gwneud i chi deimlo’n ddi-werth a hollol crap, dy’n nhw ddim werth eu hadnabod. Ta-ta!”

Gair o gyngor
Eisiau cymorth wrth drafod cyfeillgarwch a ffrindiau? Siarada gydag athro, rhiant, aelod o dy deulu neu mae modd cael cymorth ar-lein hefyd:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/ neu Rhadffôn 080880 23456

Iechyd a Lles | Os mêts, mêts...
bottom of page