top of page

Iechyd a Lles | Mwy Na Digon

Iechyd a Lles | Mwy Na Digon

Mewn byd llawn ffilters – bydda’n ti dy hun. Own it, meddai merch sydd eisiau aros yn ddi-enw.

Do’n i'm yn arfer meddwl fy mod i'n cael fy nylanwadu’n ormodol gan y cyfryngau. O’n i'n ymwybodol ‘mod i ddim yn edrych, nac yn byw, fel y models / dylanwadwyr sydd ar Instagram ag o’n i'n derbyn hynny. Oeddwn, pan o’n i allan, o’n i'n gofyn i bobl dynnu sawl take achos do’n i byth yn 100% hapus efo'r cwpl o lunia cynta - ond dim byd mawr – a beth bynnag, ma ca’l ffotoshŵt allan yn beth normal dyddia yma, dydi?!

Ond un noson, dwi'n cofio cau drws fy stafell a dechra crio allan o nunlla. Beichio crio.

Wnes i ista ar y llawr, syllu ar fy adlewyrchiad yn y drych, a phwyntio allan pob un dim oedd yn 'bod' arna i. Pob un flaw oeddwn i'n ei weld. O mhen i 'nhraed, wnes i allu ffeindio rhywbeth o'i le efo litryli pob rhan.

Dyna pryd wnes i sylweddoli bod y delweddau o’n i’n ei consumio, y sylwadau o’n i’n eu clywed, a safona cymdeithas ar y cyfan, yn cael effaith arna i mewn modd negyddol. Yn isymwybodol, o’n i wedi gadael i’r rheiny distortio y ffordd o’n i’n gweld fy hun.

Es i'n flin efo'n hun wedyn. Rhwystredig ac euog achos 'mod i'n teimlo'n vain. Ma 'na betha erchyll yn digwydd i bobl yn y wlad yma, ac o gwmpas y byd a dwi'n ypset dros rywbeth fel hyn?
Pa gân wyt ti'n hoffi ei pherfformio?

Ond mewn byd lle mae ‘na gymaint o bwysa'n cael ei rhoi ar ddelweddau, a rhoi ffilters ar agweddau o dy fywyd di, dwi’n ei ffeindio hi’n anodd peidio weithia. Dwi’n casau pan mae pobl yn rhoi eu hunain, ac eraill i lawr, felly pam ’mod i’n gwneud o i fi’n hun?

Dros y misoedd / blwyddyn dwytha’, dwi ‘di cychwyn derbyn a charu pwy ydw i. Tu mewn a thu allan. Dio'm yn hawdd, a ma ‘na setbacks, ond dwi bendant ar fy ffordd. Dwi’n dilyn pobl sy’n fy ysbrydoli ar y cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd yn trio torri lawr ar yr amser dwi’n ei dreulio arnyn nhw. Dwi’n bod yn fwy caredig efo fi’n hun, yn atgoffa’n hun o bob dim anhygoel ma fy nghorff i’n gwneud drosta i a’r holl betha dwi ’di gallu’u cyflawni. Ma treulio amser efo pobl sydd ar yr un wavelength â chi, ac sy’n gwneud i chi deimlo’n dda hefyd yn helpu gymaint. Ma pobl yn mynd a dod, ond dwi’n grediniol neith y bobl sydd i fod yn eich bywyd chi aros yno.

Ma bod yn eich arddegau yn gallu bod yn gyfnod heriol a dryslyd ar brydiau, felly os ’dach chi'n darllen hwn ac ella’n teimlo'n ddi-hyder eich hun, plis byddwch yn ymwybodol;
- Tydi cael sbots ar eich wyneb neu'ch corff ddim yn flaw.
- Tydi stretch marks ddim yn amherffeithrwydd.
- Ma cael cellulite yn beth normal.
- Does na'm angen i chi brynu pob un cynnyrch harddwch sy’n bodoli, er ei bod hi’n anodd osgoi’r hysbysebion lu sy’n popio fyny ym mhobman ar y we.
- Ond yn bwysicach na dim, peidiwch wastio’ch amser prin yn cymharu'ch hun efo pobl eraill, achos ar ddiwedd y dydd, does ’na'm pwynt. Fyddwch byth yr un peth â neb arall a pham bod yn carbon copy beth bynnag?

Dach chi’n fwy na digon fel mae hi – peidiwch gwrando ar unrhyw un sy’n deud fel arall! Dim ond un ohona chi sydd yn y byd, a dyna ydi'ch pŵer chi. Own it.

Iechyd a Lles | Mwy Na Digon
bottom of page