top of page

Iechyd a Lles | Lodes Lysh: Brogen Doyle

Iechyd a Lles | Lodes Lysh: Brogen Doyle

Mae Brogen Doyle wrth ei bodd gyda chrisialau a hynny ers oedd hi’n fach. Mae hi'n credu’n gryf eu bod nhw'n gwneud byd o les i'w hiechyd meddwl. Dyma ddysgu rhagor am y lodes Lysh yma...

Beth yw dy enw di?
Brogen Doyle

Oedran: 27

Ble wyt ti’n byw?
Borth

Dechreuodd fy antur gyda chrisialau pan roddodd fy Mam y grisial gyntaf i fi pan o’n i’n 8 oed. O’n i’n casáu gadael fy Mam a mynd i’r ysgol, ond roedd y grisial yn cynnig cymorth i fi, fel pe bai Mam yno gyda fi. O hynny ymlaen roedd bywyd yn yr ysgol yn haws, roedd yn hwyl.

Mae gan bob crisial ei egni a’i rinweddau ei hun. Rose Quartz oedd yr un ges i gan Mam; cariad yw’r egni sy’n cael ei rannu trwy’r grisial yma. Petai ti’n cael y crisial hwn, sut byddet ti’n defnyddio’r egni yna i helpu ti yn dy fywyd bob dydd?

Mae crisialu’n dod o’r ddaear - meddylia am y teimlad yna o fod allan yn yr awyr agored, y teimlad braf yna. Mae crisialau’n dy helpu i gario’r teimlad yna gyda ti, yn helpu sefyllfaoedd anodd a heriol i deimlo’n brafiach.

Dwi’n oedolyn ifanc erbyn hyn, a fy hoff grisial heddiw yw’r Blue Howlite. Dwi’n cadw’r grisial dan fy nghlustog yn y gwely, mae’n helpu fi i ymlacio ac yn arafu’r holl feddyliau a syniadau sy’n dod i’r meddwl yn y nos. Dwi’n defnyddio’i egni i ddweud wrthyf i fy hun - “Dwi’n chilled a heno dwi’n mynd i gael noson dda o gwsg...”, ac mae’n gweithio.

Dyna beth ti’n gwneud gyda chrisialau - ti’n dewis y grisial sy’n dod a’r egni ti ei angen, ti’n gwneud cynllun am sut i ddefnyddio’r egni yna, ac yn penderfynu sut gall yr egni yna helpu dy iechyd meddwl a lles er mwyn gwneud bywyd yn haws.

Mae crisialau yn fach ac yn hardd a gallu mynd a dy grisial i bobman heb i neb sylweddoli - mae’n antur!

Yn 2018, wnes i ddechrau rhannu crisialau a’r egni positif gydag eraill trwy sefydlu Wishing Well Crystals. Mae hi mor gyffrous i glywed sut mae’r crisialau yn helpu gymaint o blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru a gweddill y byd.

Roedd un ferch ifanc oedd wedi derbyn un o fy nghrisialau gan ei Mam yn dweud bod y grisial wedi ei helpu hi i deimlo’n llawer llai stressed yn yr ysgol, yn union fel gwnaeth fy nghrisial i! Amethyst gafodd hi, mae’n dod ag egni hapus i’r unigolyn. Mae’r grisial wedi magu ei hyder i siarad yn y gwasanaeth ysgol ac i fwynhau teithiau ysgol. Mae’n gwneud ei chynllun dyddiol ac mae’n helpu’r ferch ifanc bob un dydd.

Dydy crisialau ddim yn ‘hudolus’, ond mae cael crisial yn antur ac yn helpu’r unigolyn i fyw bywyd mwy positif a hapus.

Brogen x

Gwefan: www.wishingwellcrystals.com
Instagram: @wishingwellcrystals
Facebook: wishing well crystals
Twitter: WishingwellC

Iechyd a Lles | Lodes Lysh: Brogen Doyle
bottom of page