Iechyd a Lles | Iselder a Fi: Stori Lleucu Non
Gan gofio ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, penderfynais i rannu rhan dywyll o fy mywyd i ar y cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf. Pwysigrwydd y mis yma ydi siarad. Siarad am ein teimladau a’r mathau o bethau sy’n mynd trwy ein meddyliau ni. Mae 2/3 o bobl yn cadw’n ddistaw ac mi oeddwn i’n arfer bod yn un o’r rheiny. Wnes i ddioddef mewn distawrwydd am amser hir cyn iddi fynd yn rhy bell a derbyn fy mod i angen help. Creda neu beidio, mae siarad ag un person yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i dy iechyd meddwl.
Y ferch ‘wahanol’ yna
O gwmpas Medi/Hydref 2017, roeddwn i’n isel iawn. Roeddwn i yng nghanol fy TGAU i ac wedi meddwl mai dyna oedd y rheswm dros y newid sylweddol yn fy ymddygiad. Er bod llawer yn dioddef oherwydd arholiadau a phwysau i lwyddo, roedd fy mhroblem i wedi’i wreiddio yn ddyfnach na hynny. Fi oedd y ferch yna rydych chi’n ei weld mewn rhaglenni teledu/ffilmiau’n aml; Marianne yn Normal People ond heb y rhyw i gyd; Hermione Granger yn Harry Potter, pen mewn llyfr a wastad yn adolygu; Kat Stratford yn 10 Things I Hate About You, barn am bron i bopeth ond dim hogyn a gafodd ei dalu i wneud i mi ddisgyn amdano, diolch i Dduw!
Fi oedd y ferch yna oedd yn wahanol i bawb arall, felly’n amhoblogaidd, ddim yn dlws ac yn rhoi addysg o flaen fy mywyd cymdeithasol. Fel arfer, mae’ch blwyddyn chi wedi cael ei rannu i grwpiau o ffrindiau ond doedd gen i ddim grŵp (roedd gen i ffrindiau ond dim rhai andros o agos). Doeddwn i byth yn teimlo’n gyffyrddus, felly roedd cymdeithasu tu allan i wersi’n sialens fawr o dro i dro gan nad oeddwn i’n rhannu’r un diddordebau neu’n gallu sgwrsio am yr un math o bethau.
Cefais fy nhargedu gan sawl person yn y flwyddyn oherwydd fy mod i’n ffeminyddes (Do, cefais fy sbeitio yn ddyddiol am bron i dair blynedd oherwydd fy mod i’n ffeminyddes). Ar ben hynny, roedd wastad sylw’n cael ei daflu ataf: y ffaith mod i’n gwneud yn dda yn addysgiadol, fy edrychiad i, fy neiet i, y ffaith mod i wedi bod yn sengl trwy fy nghyfnod i yn yr ysgol (hyd y gwyddon nhw) a’r ffaith fy mod i’n cadw fy mywyd personol yn breifat. Cychwynnodd bobl sibrydion amdanaf; am y pethau oeddwn i’n ei wneud yn fy amser rhydd i sut fath o gorff oedd gen i a phwy roeddwn i’n ffansïo (er doedd ddim un hogyn yn y flwyddyn yn apelio - sori hogs). Roedd gan rhai o’r bobl oedd yn annifyr â fi yn ystod y dydd y wyneb i gysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Doedd gen i ddim ffordd o ddianc, roeddwn i’n teimlo fel y petaswn i o dan ficrosgop, eu bod nhw wastad yn ceisio dod o hyd i beth oedd yn bod efo fi. Datblygais baranoia, roedd cerdded o gwmpas yr ysgol ar fy mhen fy hun yn hunllef ac yn frwydr fawr i fy hyder i, roeddwn i’n teimlo llygaid arnaf drwy’r adeg, hyd yn oed mewn gwersi. Wrth gwrs roedd pethau yn cael eu dweud i fy ngwyneb i a thu ôl i fy nghefn i (a nhw’n meddwl nad oeddwn i’n gallu clywed) ac roedd yr holl eiriau yn fy erbyn i yn mynd i fy mhen i.
Roedd fy hunan-hyder yn diflannu’n sydyn a’n hunan-barch yn dirywio. Ar ben hynny, roeddwn i’n llusgo fy nhraed i bob man roeddwn i’n mynd ac roeddwn i’n dechrau cael llond bol ar fy mywyd i. Roeddwn i’n casáu nad oeddwn i wir wedi teimlo’n hapus am fisoedd. Roedd yr holl bethau roedden nhw wedi’i ddweud amdanaf yn chwyrlïo yn fy mhen i a doeddwn i ddim yn gallu dianc oddi wrth fy meddwl fy hun. Penderfynais yn fuan iawn i’r driniaeth roeddwn i’n ei dderbyn fy mod i’n mynd i gadw fy nheimladau i’n breifat i brofi fy mod i’n gryf (doedden nhw ddim yn cael gweld y niwed roedden nhw’n achosi). Ond yn sydyn iawn roedd hynny wedi ôl-danio; doedd fy meddwl i ddim yn gallu ymdopi.
Yn fy marn i, yr arf fwyaf yn y byd ydi geiriau. Mae pobl yn gallu defnyddio geiriau fel y fynnen nhw; i achosi niwed, perswadio pobl (am y gorau neu’r gwaethaf), i roi cymorth neu i gysuro rhywun. Yn ychwanegol at hynny, mae pobl yn gallu dweud beth bynnag y fynnen nhw, am unrhyw beth i unrhyw un! Roeddwn i’n crio fy hun i gysgu oherwydd bod yr holl eiriau ‘na yn diollwng (fel yn y ffilmiau, yr holl drosleisiau).
Roeddwn i wedi blino; yn feddyliol ac yn gorfforol ac roeddwn i eisiau popeth i stopio. Mewn achosion fel hyn, mae’r meddwl yn ddiffygiol, ac yn fy achos i, wnes i ddechrau hunan-anafu. Am ryw reswm, wnes i feddwl y buasai hynny yn cael gwared â’r boen roedd pawb arall yn ei achosi. Roedd pethau’n mynd yn rhy bell, doedd gen i ddim gafael cadarn ar fy meddwl i ac roedd fy nheimladau yn dal i fod yn fewnol. Arweiniodd hyn i mi fod yn hunanladdol (suicidal) a wnaeth y newid yma fy nychryn i. Mae bod yn hunanladdol yn deimlad afiach iawn oherwydd does dim rhan o’r meddwl yn neidio i mewn i dy rwystro di a deud ‘Fedri di ddim gneud hyn! Be am y bobl ti’n mynd i adael?’. Pan wnes i ddechrau teimlo fel ma, wnes i’m meddwl am neb arall (sy’n swnio mor hunanol) oherwydd roedd byw efo’r boen (meddyliol a chorfforol) yma’n dechrau mynd yn amhosib.
Troi am gymorth
Rydw i’n un o’r rhai andros o lwcus oherwydd mi gefais gyfle i gamu’n ôl a chyfaddef bod pethau wedi mynd yn rhy bell. Wnes i ddychryn gymaint ac roedd gen i gymaint o ofn cael fy meirniadu gan bawb (ffrindiau, teulu, bwlis), felly wnes i ysgrifennu popeth roeddwn i’n ei deimlo a’i roi i fy mhennaeth blwyddyn i. Roeddwn i wedi cael sgwrs hir â’r athrawes a Mam ac yna roeddwn i ar restr disgwyl i weld cwnselydd ysgol am bron i fis. Ar ôl disgwyl, cefais sesiwn cwnsela unwaith yr wythnos am 8 wythnos.
Newidiodd pob dim ar ôl dwy sesiwn. Doeddwn i ddim yn hunanladdol, ddim yn hunan-anafu ac wedi agor fy nghalon i’n ffrindiau agosaf ac yn fwy agored â Mam am fy nheimladau i. Cefais siarad ag arbenigwr oedd wedi gweld sawl un fel fi. Roedd hi’n gwybod mod i’n casáu fy hun oherwydd bod pobl wedi gwneud i mi deimlo fel yna. Mae siarad ag arbenigwr yn brofiad mor rhyfedd oherwydd maen nhw’n bobl ddieithr ond rwyt ti’n barod i adael bob dim allan o dy system di (dwi’n meddwl mai’r polisi cyfrinachedd ydi’r rheswm). Dysgodd yr arbenigwr i mi ddechrau caru fy hun eto, sy’n swnio’n egotistaidd ond roeddwn i’n gwella ac roedd y niwed meddyliol yn dechrau iachau.
Fi, heddiw – dwi dal yma
Hyd heddiw, mae’r ofn o gael fy meirniadu am fy mhrofiad ag iselder yn dal yn bodoli. Mae gen i ofn bod pobl oedd yn ysgol/pobl ddieithr yn mynd i ddarllen hwn a fy nghyhuddo i o ddweud celwyddau neu fy ngalw i’n drama queen oherwydd rydw i’n rhyddhau’r rhan tywyllaf o fy mywyd i i’r byd a does gen i ddim rheolaeth dros beth mae pobl yn ei ddweud.
Gofynnais i Mam sut blentyn oeddwn i; hapus (pob tro’n gwenu neu’n chwerthin), hyderus ond swil weithiau a phlentyn bodlon. Mi bwysleisiodd hi fy mod i’n blentyn hapus a dyna sut rydw i’n cofio fy mhlentyndod i cyn cychwyn ysgol uwchradd. Doedd Lleucu 2017 ddim yn hapus, bodlon na hyderus ddim mwy. Roedd hi’n casáu ei hun a’i bywyd hi. Wrth feddwl am hyn yn realistig, dydw i byth yn mynd i fod fel y Lleucu cyn 2017, oherwydd mae’r pethau a gafodd ei ddweud amdanaf i’n mynd i aros efo fi am byth.
Am y tro cyntaf mewn amser hir, rydw i’n teimlo’n eithaf cyffyrddus yn fy nghroen fy hun. Dwi’n gwenu’n amlach, dwi’n chwerthin a dwi’n hapus. Ers fy mrwydr ag iselder, dydw i’m yn gallu edrych ar f’adlewyrchiad i a meddwl ‘Dwi’n edrych yn neis’. Mae gen i ryw fath o anxiety pan mae’n dod at y math o ddillad dwi’n gwisgo... mae’n rhaid i bopeth dwi’n gwisgo orchuddio fy nghoesau i (hyd at fy mhengliniau, o leiaf). Prynodd Mam ffrog ddenim i mi fel anrheg a dwi’n ei weld o’n anodd peidio gwisgo rhywbeth o dan y ffrog oherwydd bod gen i ofn mawr dangos rhyw fath o cleavage a bod rhywun yn mynd i ddweud rhywbeth felly dwi’n tueddu i wisgo cardigan drosto. Ond, dwi’n hapus a dwi dal yma.
Pwysigrwydd siarad
Plîs, os wyt ti’n teimlo’n isel, siarada efo rhywun. Siarada efo dy deulu, ffrindiau, athrawon, arbenigwyr... hyd yn oed dy anifeiliaid! Mi wnaeth cyfaddef bod problem gen i a siarad amdano wneud cymaint o wahaniaeth i’n sefyllfa i. Yndw, rydw i’n dal i deimlo’n isel weithiau, ond rydw i’n fwy parod i siarad â rhywun ac felly’n ailgodi ar fy nhraed yn sydyn. Pe bawn i heb siarad a gofyn am help, dwi’m yn meddwl y byswn i yma heddiw.
Y peth pwysig i gofio ydi nad wyt ti ar dy ben dy hun. Os fysa Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wedi bod mor fawr â hyn yn 2017, buasai Lleucu 2017 wedi teimlo’n llai unig a llai ofnus i siarad. Plîs siaradwch. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn le andros o dywyll lle mae gan bawb y rhyddid i ddweud be bynnag maen nhw eisiau, ond os ydyn ni i gyd yn ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth a chynnau golau, mi allwn ni helpu pobl sy’n dioddef o iechyd meddwl.
Diolch,
Lleucu Non x
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk