top of page

Iechyd a Lles | Hunan-ofal y cyfnod clo

Iechyd a Lles | Hunan-ofal y cyfnod clo

gyda Lois John

Gyda’r byd yn dal i fod ben-i-waered, a mwy a mwy o bobl ifanc yn dioddef o salwch meddwl, mae hunan-ofal mor bwysig ag erioed. Fel un sydd wedi dioddef o anorecsia, mae Lois John yn gwybod yn iawn sut beth yw hi i frwydro. Dyma ei chyngor hi am sut i oroesi’r dyddiau llwm.

1. Gwnewch y pethe chi o hyd wedi moyn eu gwneud ond heb gael amser ee ail addurno ‘stafell wely, cerdded ryw lwybr lleol, paentio neu goginio rhywbeth.

2. Awyr iach. Mae gwyddoniaeth hyd yn oed yn ei gefnogi. Mae awyr iach yn allweddol er mwyn gallu meddwl yn glir ond hefyd yn cynnig rhyw fath o antur, rhywbeth estron yn y cyfnod ailadroddus hwn.

3. Cwmni! Peidiwch a dianc i’r ystafell wely am orie ar ei hyd. Cesiwch dreulio amser gyda aelodau o’r teulu wrth chwarae gêm o Monopoly neu hyd yn oed mynd am wac deuluol.

4. Darllen. Mae darllen wedi fy helpu i’n enwedig i ddianc o’r byd ar y foment. Mae’n bwysig i allu ymestyn eich dychymyg ac mae darllen yn cynnig hyn. Bydd hefyd yn help i aros mewn cyswllt gyda’r ochr academaidd o bethe.

5. Zoom, diolch byth am Zoom yn wir! Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn lle ma llawer wedi gorfod dad-gysylltu wrth bobl, ond yn ffodus mae Zoom yn cynnig y cyswllt hwn. Paratowch gwis i’ch ffrindie, dwi’n siŵr byddan nhw ddigon bodlon i gymryd rhan.

6. Defnyddiwch eich creadigrwydd. Efallai eich bod yn teimlo rhwystredigaeth ac wedi blino gyda’r holl syniad o lockdown. Ewch ati i ysgrifennu cân, stori neu gerdd. Mae hwn yn ffordd i allu cael eich holl deimladau allan, dwi’n sicr yn teimlo'n well ar ôl bod yn greadigol.

7. Edrychwch ar ôl eich hunan. Dwi a fy chwaer, Mared, yn sicr wedi gofalu ein bod yn cael pamper bob hyn a hyn. Peintiwch eich ewinedd, rhoi face mask ymlaen, unrhyw beth fydd yn dod â phleser i chi. Trowch yr Xbox bant am bach ac ewch allan i’r ardd am awyr iach a chicio pêl neu rywbeth.

8. Cynlluniwch eich dyfodol. Meddyliwch beth hoffech ei gyflawni pan fydd yr amser hyn drosodd. Pa wlad yr hoffech ymweld â hi, pa swydd hoffech chi yn y dyfodol. Mae’n hawdd i feddwl fydd byth diwedd i’r lockdowns a’r cyfyngiadau, ond fi’n siŵr bydd pendraw i hyn i gyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod amdano!

9. Peidiwch â rhoi gormod o straen ar eich hunan. Mae pawb yn diflasu ac yn ei gweld hi’n galed, felly dydych chi ddim ar ben eich hunain!

10. Ffoniwch Mamgu neu Datcu, eich cefnder neu gyfnither, unrhyw berthynas. Fi’n siwr bydd yr alwad yn dod â’r un faint o bleser i chi ac y byddai iddyn nhw! Pob lwc!

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Hunan-ofal y cyfnod clo
bottom of page