top of page

Iechyd a Lles | Hunan-Ofal Hanfodol

Iechyd a Lles | Hunan-Ofal Hanfodol

Caru eich hunain yw’r cariad gorau erioed – rhaid cymryd yr amser i ofalu am eich hunain. Dyma bump uchaf #LyshCymru ar sut i ofalu ar ôl dy hun yn dda...

1. Cwsg

Er mwyn cael bywyd iach, mae cwsg yn hanfodol. 8 awr os allwch chi – ac os oes rhaid, cymerwch nap bach ganol dydd! Be well ar brynhawn dydd Sul ar ôl llond bolied o ginio rhost, na hoe fach o flaen y teledu, a chysgu ci bwtshwr?!

2. Rhoi’r ffôn bach yna i gadw!

Ie, fe glywsoch chi’n iawn - rhowch eich ffôn naill ochr. Anodd, ond mae mor bwysig i’ch lles a’ch iechyd meddwl. Mae’n gyfle i ddatgysylltu a threulio amser gwerthfawr gyda chi eich hun, gyda ffrindiau neu gyda’r teulu. Mae perthnasoedd rhyngbersonol mor angenrheidiol ar gyfer bywyd iach, ond mae bod ar eich ffôn yn cyfyngu ar hynny.

3. Diwrnod o faldodi adre

Does dim rhaid gwario’n wirion, ond gall bach o faldod wneud byd o wahaniaeth, a hynny yng nghysur eich cartref eich hun. Beth am drin eich ewinedd? Rhedeg bath cynnes, braf a gwrando ar gerddoriaeth? Mwgwd wyneb? Yn dibynnu ar eich croen, gallwch gymysgu ychydig o bethau sydd gyda chi yn y gegin – et voila! Llosgi eich hoff gannwyll? Llesol iawn i’r enaid.

4. Myfyrio

Mae myfyrio mor bwysig i'ch iechyd meddwl. Dim ond 10-15 munud y dydd y mae angen i chi ei wneud a gall y rhestr o fuddion newid eich bywyd. Mae'n lleihau straen, yn rheoli pryder ac yn gwneud i chi ddod yn fwy ymwybodol a hunan-ymwybodol. Mae'n wych gwneud pan fyddwch yn deffro, fel eich bod yn dechrau eich diwrnod mewn gofod pen cadarnhaol, neu cyn mynd i’r gwely er mwyn clirio’r meddwl. Gall hyd yn oed ychydig o anadlu dwfn gyda'ch llygaid ar gau yng nghanol eich diwrnod helpu i leddfu straen. Mae yna lawer o appiau perthnasol fel Calm a Headspace, ond cofiwch am yr un cyfrwng Cymraeg, sef app Cwtsh.

5. Creu!

Byddwch yn greadigol. Oes gennych chi hobi ry’ch chi’n torri eich bol eisiau ei wneud? Neu rywbeth roeddech chi'n arfer ei wneud ond mae amser yn brin? Ceisiwch ail-ddechrau. Gellir gwneud llawer o hobïau a phrosiectau creadigol yng nghysur eich cartref eich hun ac o flaen y teledu. Mae AMRYW o diwtorialau am ddim ar-lein a all eich helpu gyda'ch cosi creadigol, ceisiwch chwilio ar YouTube.

Nawr yw’r amser i ddechrau gofalu am eich hun. Hunan-ofal yw’r ffordd ymlaen. Gallwch hyd yn oed greu rhestr wirio hunan-ofal bob dydd, yn wythnosol neu'n fisol. Byddwch yn garedig â chi'ch hun a chanolbwyntio ar eich iechyd meddwl, corfforol ac emosiynol.

Unrhyw syniadau newydd? Beth ydych chi’n ei wneud i ymlacio ac edrych ar ôl eich hunain? Cysylltwch gyda llinos@lysh.cymru.

Iechyd a Lles | Hunan-Ofal Hanfodol
bottom of page