top of page

Iechyd a Lles | Gwlychu Pig: Slysh Lysh

Iechyd a Lles | Gwlychu Pig: Slysh Lysh

Does dim byd gwell na diotyn bach iach. Dyma ‘Llymaid Diiii-lish Lysh’!

Cynhwysion Slysh Lysh
● Melon ddŵr
● Twba 225g o fefus, torra’r gwyrddni i ffwrdd
● Sudd 2 leim

Dull
1. Torra’r melon ddŵr i mewn i ddarnau, gan waredu’r croen a’r hadau. Rho hanner y darnau mewn bag rhewgell, a’u rhewi am gwpwl o oriau
2. Ar ôl i’r darnau hynny rewi, chwyrlia’r darnau gyda gweddill y melon ddŵr, mefus a sudd leim tan ddaw’r slysh yn lysh. Arllwysa’r cyfan i mewn i wydrau, a cher amdani.

Cofia dynnu llun o dy Slysh a defnyddio #LyshCymru

Iechyd a Lles | Gwlychu Pig: Slysh Lysh
bottom of page