top of page

Iechyd a Lles | Greta: Gelyn y Gwrth-amgylcheddwyr

Iechyd a Lles | Greta: Gelyn y Gwrth-amgylcheddwyr

gan Lleucu Non, o Ddyffryn Nantlle

Mae’n debygol iawn eich bod wedi clywed am araith Greta Thunberg, y ferch 16 oed o Sweden ddechrau’r wythnos hon. Fel ymgyrchydd hinsawdd ifanc, mae Greta wedi taro’r newyddion a’r cyfryngau’n galed gyda’i geiriau doeth, gonest a rhybuddiol i arweinwyr rhyngwladol, gan achosi cymysgedd o ganmoliaeth a gwrthwynebiad. Mynychodd Greta Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Weithredu dros yr Hinsawdd gan ein cynrychioli ni; y bobl ifanc... o’r diwedd!

“We’re in the beginning of a mass extinction and all you can talk about is the money and fairy tales of eternal economic growth... How dare you!”

O fy mhrofiad personol, rydw i wedi clywed gan gymaint o oedolion ar y teledu, cyfryngau ac wyneb-yn-wyneb nad oes gan bobl ifanc ein hoedran ni (o 11 i hyd yn oed 17) ddiddordeb neu “ddim yn deall y petha’ ‘ma”... Ond edrychwch ar beth mae Greta’n ei gynrychioli! NI sy’n protestio, NI sy’n gweiddi a NI sy’n gorfod newid y byd oherwydd camgymeriadau pobl farus ar draws y byd dros y ganrif ddiwethaf!

Ond lle gychwynnodd Greta? Yn yr ysgol! Cyn iddi gychwyn blwyddyn academaidd arall yn yr ysgol, penderfynodd Greta beidio mynd i’r ysgol ar yr 20fed o Awst,2018 tan yr etholiad cyffredinol Swedaidd ar yr 9fed o Fedi yn dilyn tanau gwyllt yn ystod yr haf poethaf mae Sweden wedi ei gael ers 1756! Protestiodd drwy eistedd o flaen yr Riskdag (Llywodraeth Sweden) bob dydd am dair wythnos gyda’r arwydd yma. (Skolstrejk för klimatet = Streic ysgol ar gyfer yr hinsawdd)

Mae’r ferch 16 oed wedi derbyn sawl canmoliaeth gan ‘selebs’ megis Anne Hathaway oedd wedi defnyddio’r hashnodau ar Instagram gyda fideo o araith Greta, #ImWithGreta #SchoolStrike4Climate. Roedd Priyanka Chopra wedi trydaru “Thank you @gretathunberg for giving us the much needed punch in the face, for bringing your generation together and showing us that we need to know better, do more to save what is most critical. At the end of the day, we only have this one planet. #HowDareYou.”

Felly, mae Greta wedi gadael ei marc ar y byd ac wedi defnyddio ei llais i’n cynrychioli a dangos i’r byd ein bod yn ymwybodol o’r argyfwng mae’r blaned yn ei wynebu. Ond, mae Greta wedi wynebu gwrthwynebiad hefyd gan bobl sydd wir yn wrth-amgylcheddwyr. Arlywydd Donald Trump er enghraifft, oedd wedi defnyddio ei ffrindiau gorau, Twitter a choegni, “She seems like a very happy young girl looking forward to a bright and wonderful future. So nice to see!” Ar ben hynny, dywedodd Michael Knowles ar Fox News bod Greta yn “mentally-ill Swedish girl.” Mae Fox News bellach wedi ymddiheuro i Greta ers y cyfweliad teledu.

Fy neges i chi ferched ydi: Codwch eich llais! Peidiwch â bod ofn mynd yn erbyn y stereoteip o “bobl ifanc ddim yn deall”! Mae Greta wedi agor drysau i nifer fawr ohonom ni i godi ein lleisiau. Yn anffodus, mae’n rhaid i ni gymryd y baich a’r cyfrifoldeb i newid y byd ac mae’r chwyldro wedi cychwyn yn barod! Ymunwch â’r chwyldro dros hinsawdd!

Dyma ymgyrchwyr hinsawdd ac amgylcheddol ifanc eraill i chi eu dilyn:

Autumn Peltier, merch 15 oed o Ganada, ymgyrchydd am ddŵr glân
Isra Hirsi, merch 16 oed o UDA
Holly Gillibrand, merch 13 oed o’r Alban
Leah Namugerwa, merch 14 oed o Uganda
Haven Coleman, merch 13 oed o UDA

Cadwch lygad allan yn y flwyddyn newydd os hoffech ddysgu rhagor am Greta. Ym mis Chwefror 2020 bydd Rily Publications yn cyhoeddi llyfr o’r enw ‘Mae Ein Tŷ Ni Ar Dân’, a bydd stori Greta a’i llwyddiannau yn cael eu hadrodd trwy ddarluniau.

Iechyd a Lles | Greta: Gelyn y Gwrth-amgylcheddwyr
bottom of page