top of page

Iechyd a Lles | Gofalu am y Meddwl: Tips Goroesi Gŵyl Fawr

Iechyd a Lles | Gofalu am y Meddwl: Tips Goroesi Gŵyl Fawr

Dros y penwythnos, bydd y byd a’i fam yn heidio i dre fach Tregaron ar gyfer gŵyl arbennig - yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal o’r 30ain o Orffennaf i’r 6ed o Awst.

Mae’r newyddion fod yr ŵyl fawr a’r traddodiad hynafol yma wedi dychwelyd wedi’r pandemig yn cael ei groesawu gan nifer fawr o bobl. Yn gyfle i ddychwelyd i’r hen arfer, bydd sawl un yn ymfalchïo mewn bod yng nghanol torf fawr ac yn sgwrsio gyda hen ffrindiau (ac yn sefyll yng nghanol y llwybr ac yn achosi tagfeydd o Eisteddfodwyr, ond mater at ddiwrnod arall yw hwnnw!).

Er iddi fod yn achlysur hapus i nifer, gall neidio yn ôl i mewn i dorf o faint o’r fath fod yn brofiad reit ofidus i rai. Mewn gwirionedd, mae’r teimlad llethol yna o or-bryder yn hollol ddilys. Am sawl blwyddyn bellach, mae’r genedl gyfan wedi bod yn hynod ofalus yn sgil y pandemig ac o ganlyniad mae bod mewn torf o bobl ddieithr yn gallu teimlo’n weddol annaturiol. Mae profiad ac emosiynau pob unigolyn yn wahanol.

Gwefan sy’n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl ydi Meddwl.org, gwefan cyntaf o’i fath sy’n cynnig cymorth drwy’r cyfrwng Cymraeg yn unig. Ers lansio yn 2016, mae’r wefan wedi bod yn adnodd pwysig i sawl un.

Holodd Meddwl ar eu cyfryngau cymdeithasol am tips eu dilynwyr ar sut o oroesi bod mewn gŵyl ddiwylliannol fawr, a dyma oedd y cynigion:

1. Does dim rhaid gwneud pethau ti ddim yn gyffyrddus yn gwneud. Paid â gwthio dy ffiniau dy hun yn rhy bell.
2. Peidio a gor-ymrwymo a sicrhau seibiant ar gyfer cyfnodau tawel.
3. Ysgrifenna dy deimladau i lawr.
4. Cynllunio amserlen a pharatoi o flaen llaw.
5. Gwybod ei fod o’n hollol iawn i wneud pethau ar gyflymder dy hun. Ti ddim yn colli mas, ti’n gwneud beth sy’n iawn i ti a bydd pawb arall ar eu hennill o ganlyniad.
6. Siarad am sut wyt ti’n teimlo. Mae’n debygol bydd eraill yn teimlo'r un peth.
7. Gwna beth wyt ti eisiau gwneud, nid beth ti’n teimlo y dylet ti wneud.
8. Paid â theimlo pwysau i ddilyn pawb arall. Gwna beth sy’n dy wneud di’n hapus!

Wrth gofio’r wyth tip uchod, fyddwch chi’n siŵr o joio ar y maes eleni a chofiwch un peth pwysig: Mae pawb yn symud ar gyflymder eu hunain.

Os fyddwch chi eisiau mwy o wybodaeth am Meddwl a’r gefnogaeth maen nhw’n ei gynnig, ewch draw i meddwl.org yn ogystal â’u gwefannau cymdeithasol:

Facebook: facebook.com/meddwl
Twitter: @gwefanmeddwl
Instagram: @gwefanmeddwl

Iechyd a Lles | Gofalu am y Meddwl: Tips Goroesi Gŵyl Fawr
bottom of page