top of page

Iechyd a Lles | Galar a Fi: Elan Llwyd Jones

Iechyd a Lles | Galar a Fi: Elan Llwyd Jones

21ain Mehefin 2020. Diwrnod Sul y Tadau.
Fy nhrydydd Sul y Tadau heb Dad ac mae meddwl am yr holl flynyddoedd sydd wedi mynd heibio hebddo yn fy nychryn. Er bod yr amser yn teimlo mor bell yn ôl, mae’n teimlo mor agos hefyd rhywsut. I’r rheini ohonoch sydd ddim yn gwybod, mi gollais fy nhad wrth iddo ddioddef ag iselder.
Mae’r cyfnod ansicr yma wedi rhoi lot o bethau mewn persbectif i mi ac wedi gwneud i mi ddysgu lot fawr iawn am fy hun ac am alaru. Dwi am roi tri phwynt byr o bethau dwi’n teimlo sydd wedi fy helpu i wrth alaru dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n iawn i bod yn hapus, mae'n iawn i fod yn drist.
Un o’r pethau pwysicaf dwi’n teimlo ydi dysgu sut i reoli fy emosiynau. Dwi’n dueddol o drio cuddiad fy nheimladau wrth eraill oherwydd bo fi ddim isio i bobl boeni amdana i neu feddwl fy mod i’n wan. Un peth dwi’n teimlo fy mod i wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf ydi bod dangos emosiwn a bod yn drist ddim yn wendid ond yn gryfder ac yn rhywbeth hynod bwysig i’w wneud wrth alaru.
Ond hefyd rydw i wedi dysgu ei bod hi’n iawn i wthio’r emosiynau yma i un ochr weithiau pan fo angen. Mae meddwl am y teimladau dwys yma’n aml yn gallu bod yn flinedig ar brydiau ac yn gallu cael effaith mawr ar hapusrwydd rhywun. Dwi’n teimlo mai un o’r pethau pwysicaf dwi wedi’i ddysgu ydi sut i deimlo’r holl emosiynau dwys yma a bod yn drist pan fod angen, ond hefyd dallt bod o’n iawn i roi’r emosiynau yma i un ochr hefyd fel nad ydi o’n dod yn ormod.

Siarad, siarad, siarad.
Yr ail beth ydi ei bod hi MOR bwysig i siarad hefo pobl am sut dach chi’n teimlo. Mae’r holl deimladau dach chi’n ei deimlo yn gallu bod yn llethol ofnadwy yn enwedig os dach chi’n cadw’r teimladau i chi’ch hyn. Mae hi’n ofnadwy o bwysig eich bod chi’n siarad hefo teulu, ffrindiau neu hyd yn oed cwnselydd am sut dach chi’n teimlo. Does ‘na ddim cywilydd mewn siarad hefo unrhyw berson am eich emosiynau - mae o’n rhan mor bwysig o ddelio hefo galar.

Amynedd piau hi.
Ac yn olaf, un o’r pethau pwysicaf i mi oedd dysgu bod galar yn cymryd amser. Wrth i amser fynd yn ei flaen mae bob diwrnod yn dod yn haws ac mae meddwl yn ôl am yr holl atgofion yn fwy tebygol o’ch gwneud chi’n hapus yn hytrach na’ch gwneud chi’n drist. Mae amser hefyd yn gwneud i chi werthfawrogi'r cyfnod gafoch chi dreulio hefo’r person rydych chi wedi’i golli. Er bod hyn yn gallu bod yn anodd, mae angen bod yn amyneddgar a gwybod bod pethau yn gwella dros amser.
Dwi’n bell iawn o fod yn berffaith a dwi’m yn trio deud fy mod i’n expert ar sut i alaru, ond dyma rhai o’r pethau sydd wedi fy helpu i dros y blynyddoedd diwethaf ac sydd dal yn fy helpu i hyd heddiw. Mae galaru yn broses ofnadwy o anodd - ond mae o’n neud chi’n berson gymaint cryfach ac yn neud i chi werthfawrogi bywyd a’r bobl o’ch cwmpas gymaint mwy!

Elan x

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Meddwl
https://meddwl.org/cyflyrau/profedigaeth

Iechyd a Lles | Galar a Fi: Elan Llwyd Jones
bottom of page