top of page

Iechyd a Lles | Does Dim Cywilydd

Iechyd a Lles | Does Dim Cywilydd

Mae gan bawb iechyd meddwl, ac mae’n hollol normal i gael cyfnodau anodd. Ȃ hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n bwysig i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Dyma brofiad Niki Jones o Wynedd o’i brwydrau hi pan oedd hi’n ei harddegau.

Dyw bywyd ddim yn fêl i gyd, o bell ffordd, ond mae blynyddoedd yr arddegau yn arbennig o anodd. Dwi eto i gwrdd â rhywun sydd wedi hwylio’n esmwyth trwy eu harddegau! Byddai’r coctel rhwystredig o hormonau cynddeiriog a’r identity crisis afreolus eu hunain yn ansefydlogi hyd yn oed y rhai mwyaf penstiff. Felly dyma fi'n rhannu fy mrwydrau fy hun gyda chi.

Cyn i mi ddechrau, nodyn bach tyner, dwi’n dal i gael trafferth gyda chyfnodau iechyd meddwl gwael o bryd i'w gilydd. Mae’n normal i ni gyd, a does dim cywilydd.

Cefais fy magu mewn tlodi ofnadwy fel unig blentyn i riant sengl (fy Mam) mewn cymdeithas batriarchaidd iawn yn India. Roedd fy mam yn dipyn o rebel ei hun ond dwi'n meddwl gydag amser, fe ildiodd i'r pwysau cymdeithasol sy'n dod wrth fagu plentyn sy’n ferch. Yn sicr, mi gefais i fy streak gwrthryfelgar gan fy mam a byddwn i’n aml yn cwestiynu'r status quo. Do’n i ddim jyst yn derbyn pethau a ro’n i’n amlach na pheidio, yn cael fy niarddel oherwydd hyn. Cefais fy mwlio am fod lliw fy nghroen yn rhy dywyll.

Yn aml iawn hefyd, cefais fy nghywilyddio gan fy hyfforddwyr chwaraeon a hefyd fy mam a oedd yn poeni pe na bai fy mhwysau yn hollol berffaith, ni fyddwn yn llwyddo mewn bywyd. Pe na bawn yn ddigon benywaidd, mae'n debyg na fyddwn yn ddigon da i ddarpar ŵr. Pe na bawn i'n gwisgo colur, byddwn yn rhy hyll i fechgyn i fy ngweld i fel merch ddeniadol. Gan fy mod yn cicio yn erbyn y tresi, ro’n i bob amser yn ymladd yn erbyn yr holl safonau hyn a sefydlwyd ar gyfer merched yn ein cymdeithas.

Wrth gwrs, fe wnaeth hyn fi i fod yn amhoblogaidd iawn yn eu plith. Roedd gen i fwy o ffrindiau a oedd yn fechgyn nag oedd gen i o ferched, felly cefais fy nghywilyddio am hynny. Er i mi gwffio’r cyfan - ac rwy'n falch fy mod wedi magu nerth i wneud hynny - doedd o ddim yn hawdd bob tro.

Oherwydd y pwysau, roeddwn yn aml yn cael trafferth gyda materion delwedd corff dwys, sy'n parhau i effeithio arna i’n achlysurol hyd heddiw. Ro’n i’n dioddef o ddiffyg hyder, collais fy synnwyr o hunanwerth, roedd gen i orbryder gwael, yn aml iawn ynghyd ag iselder. Er nad oedd gen i anhwylder bwyta, roedd fy mhatrwm i gyda phrydau bwyd yn anhrefnus iawn ac roedd hynny'n fy ngwneud yn anhapus iawn. Roedd hyn yn effeithio dipyn ar fy iechyd meddwl bregus. Ro’n i'n teimlo mor anobeithiol ac yn aml iawn, doeddwn i ddim yn gweld ffordd allan.

Ystyriais i lawer i ddydd am ddod â fy mywyd i ben - fe geisiais weithredu ar hynny ar sawl achlysur. Fe wnes i fethu ac i fod yn hollol onest, dwi mor falch na lwyddais i. Dwi ddim yn gwybod os ydy hyn o gysur, ond gallaf ddweud un peth yn sicr, mae'n gwella.

Weithiau, efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hi'n haws rhoi'r gorau iddi a gallaf gydymdeimlo â'r teimlad hwnnw. Yn yr amseroedd hynny, rhowch seibiant i chi'ch hun. Dyw tynnu'ch hun o sefyllfa wenwynig ddim yn eich gwneud chi'n gollwr. Mae'n eich gwneud chi'n oroeswr. Trwy dorri cysylltiadau â phobl a sefyllfaoedd sy'n tynnu’r nerth allan ohonoch yn feddyliol a chorfforol, dach chi’n dangos eich bod chi’n ymladd dros eich hun.

A chyn gorffen, mae’n bwysig dweud un peth. Dach chi o werth yn y byd yma - mae’n werth i chi gwffio dros eich hun!

Gair o Gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

Meic Cymru - neu Rhadffôn 080880 23456

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Does Dim Cywilydd
bottom of page