top of page

Iechyd a Lles | Cydraddoldeb a Chwarae Teg

Iechyd a Lles | Cydraddoldeb a Chwarae Teg

gan Hanna Evans

Meddyliwch am fyd pan fyddwch chi’n troi’r teledu ymlaen, mae ‘na ddewis i wylio gêm pêl droed menywod yn rheolaidd. Meddyliwch am fyd ble mae dynion a menywod yn cael eu talu'r un cyflog am yr un swydd. Meddyliwch am fyd ble nad oes 65% o fenywod yn mynd i’r gym yn llawn ofn am beth all ddigwydd.

Mae ymdrech anferthol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, ac mae’n amlwg bod ‘na gynnydd at y nod yma wedi bod. Ond a ydyn ni wir wedi cyrraedd cydraddoldeb?

Yn ôl arolwg gan Ipsos, mae 45% o fenywod yn credu bod ganddynt gyfleoedd cyfartal i ddynion, tra bod 60% o ddynion yn credu bod y ddau ryw yn cael cyfleoedd cyfartal.

Profa hyn yn glir bod y ddau ryw yn gweld cyfleoedd cyfartal yn ddau wahanol beth. Ond mae yna arwyr allan yna sydd yn ddigon parod i beidio ufuddhau i gyfyngiadau menywod mewn chwaraeon.

Un seren ddisglair sydd wedi bod yn arwain y ffordd i lawer yn y 12 mis diwethaf yw Emma Raducanu. Ar ôl ei pherfformiad anhygoel yn Wimbledon ac ennill yr US Open heb golli 1 set, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint o athletwyr ifanc.

Merch benderfynol cafodd ei geni yn Toronto i fam Chineaidd a thad o Rwmania. Mae Raducanu yn enghraifft anhygoel o ferch wnaeth ymladd yn frwd i beidio â disgyn yn gaeth i bwysau cymdeithas yn ôl safle menyw yn y byd chwaraeon.

Nid cyfrinach yw hi fod pobl dal i feddwl mai ond dynion sydd â’r hawl i lwyddo mewn chwaraeon, ond mae’n amlwg bod Raducanu heb adael i hyn effeithio arni.

Ond sut gwnaeth hi hyn? Mae cymaint o ferched yn breuddwydio am gael gyrfa mewn chwaraeon, ond mewn byd cafodd ei ddominyddu gan ddynion am gymaint o amser, mae hyn yn gallu newid meddwl rhai ynglŷn â’r sefyllfa.

Felly, beth allwch chi ei wneud?

• Ei wneud am hwyl! Ewch i nofio, chwarae hoci, rygbi, pêl-droed, karate, canŵio am eu bod e’n gwneud i chi deimlo’n dda! Peidiwch â rhoi pwysau ar eich hunan mewn unrhyw ffordd, i orfod cyrraedd rhyw nod neu berfformio i lefel penodol; ewch i fwynhau ac os mai dyna beth sy’n digwydd, beth mwy sydd ei hangen?

• Ewch â ffrind gyda chi. Mae cael y cysur ac wyneb cyfarwydd wrth eich ochr yn cynnig yr hwb mewn hyder sydd angen arnoch i deimlo’n gyfforddus.

• Dewch o hyd i glwb sydd yn cynnig cyfnodau i fenywod yn unig. Byddwch chi gyd yn yr un cwch - yn barod i fod y gorau ac i wneud beth rydych CHI eisiau gwneud!

• Canolbwyntiwch ar eich llwybr chi. Dydy ble mae rhywun arall ddim yn effeithio ar ble rydych chi i fod. Mae’n syndod beth all rhywun wneud pan mae eu hegni nhw i gyd yn mynd i ganolbwyntio ar eu hunain.

• Peidiwch â chymryd beirniadaeth wrth bobl na fyddech chi’n cymryd cyngor wrthyn nhw.

• Cofiwch, yn aml mae rhywun sydd yn dweud nad yw merch yn gallu llwyddo mewn unrhyw faes, yn ofni cael eu trechu gan fenyw, yn y maes penodol yna! Mae e’n dweud llawer mwy am eu personoliaeth nhw fel person na’ch gallu chi.

Nid yn unig cydraddoldeb rhywiol sydd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, ond bod pob math o gorff yn cael yr un chwarae teg. Nad ydych chi’n gadael i beth bynnag sydd ar y tu allan, effeithio beth sydd ar y tu fewn - eich caredigrwydd, hyder, hapusrwydd.

Mae’n bwysig cofio i barchu eich corff am beth rydych chi’n gallu gwneud. Mae eich corff yn rhywbeth anhygoel; sydd yn cynnal nifer o brosesau yn ystod y dydd sydd dal i adael i chi wneud beth rydych chi’n ei garu. Ddydd ar ôl dydd.

Felly mae’n bwysig cofio i wneud beth rydych chi’n ei garu.

Mae bywyd llawer rhy fyr i boeni am y pethau bychain, sydd yn y pendraw ddim yn mynd i’ch poeni chi ymhen rhai blynyddoedd. Gwnewch beth sy’n dda i'ch meddwl a’ch corff! Gwnewch beth sy’n gwneud i chi wenu! Gwnewch beth sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda!

Iechyd a Lles | Cydraddoldeb a Chwarae Teg
bottom of page