Iechyd a Lles | Cwïar yn y Cyfryngau gyda Elinor Lowri
Mae’n gallu teimlo yn unig iawn os edrychwch o gwmpas a welwch chi neb sydd yn uniaethu yn LHDTC+ sydd yn ffrind agos neu’n deulu i chi. Weithiau rydym angen cymorth wrth bobl rydym yn ymddiried ynddyn nhw i siarad am ein teimladau. Mae sawl model rôl allan yn y byd os ewch i Google, ond weithiau mae clywed caneuon am brofiadau pobl eraill sydd yn cwïar neu allu uniaethu â chymeriadau LHDTC+ ar ein sgriniau yn jyst y peth i ni deimlo’n well. Dyma dri artist a thair rhaglen deledu dylech chi wylio'r Hydref yma!
Girl in Red
Cantores o Norwy yw Girl in Red, ac mae hi’n creu cerddoriaeth Indie yn ei stafell wely! Mae hi ond yn 20 mlwydd oed ac yn ysgrifennu am fod ei phrofiad hi fel menyw ifanc sy’n hoyw, am gariad hoyw ac am ei phrofiad hi ag iselder.
Caneuon i wrando arnyn nhw:
1. Girls
2. I wanna be your girlfriend
3. We fell in love in October
Lex Allen
Mae Lex yn dod o Milwaukee, y UDA ac yn creu cerddoriaeth Soul-Pop. Mae e’n disgrifio ei hun fel canwr sy’n cysylltu pob oedran, rhywioldeb, genre a hil yn ei sioe byw yn ôl ei wefan. Mae e’n creu lle cerddorol i bobl sydd angen rhywbeth i’w helpu nhw trwy boen ac yn cysylltu’r rheini sydd angen clywed rhywbeth ysbrydoledig i’w helpu nhw weld eu hunanwerth.
Dyma ganeuon gwerth eu gwrando arnyn nhw:
1. Colors in Bloom
2. I.D.E.N.T.I.T.Y
3. Never Look Back
Sir Babygirl
Mae cerddoriaeth Sir Babygirl yn cael eu disgrifio fel ‘Bubblegum pop’ a grëwyd gan berson hoyw am bobl hoyw ac yn dod o’r UDA. Dyw Sir Babygirl ddim yn cydymffurfio tuag at ryw, ac yn eicon Cwîar am greu cerddoriaeth tu allan i ffiniau traddodiadol.
Caneuon i wrando arnyn nhw:
1. Flirting With Her
2. Praying
3. Heels
The Bold Type
Mae’r rhaglen yma ar gael ar Amazon Video, ac yn debyg i raglen fel Ugly Betty neu hyd yn oed Devil Wears Prada weithiau! Mae’r naratif yn ffocysu ar fywydau Kat, Jane a Sutton sy’n gweithio ar gylchgrawn ffasiwn o’r enw Scarlett. Mae’r sioe yn ddoniol, yn llawn drama ond hefyd yn trafod pynciau pwysig fel eich hunaniaeth, cariad, marwolaeth, problemau iechyd a gwneud penderfyniadau mawr. Mae Kat yn dod allan fel Menyw Ddeurywiol yn ystod y rhaglen, ac mae gwylio ei phrofiad hi (er bod hi yn gymeriad ffuglennol) yn holl bwysig i fenywod Cwïar, yn enwedig merched sydd yn hil gymysg.
Workin’ Moms
Nid rhaglen oeddwn i’n disgwyl ei mwynhau, am nad ydw i’n fam, ond mae’r rhaglen yma yn dangos profiadau gwahanol o famolaeth a chyfeillgarwch, ac mae’r cymeriadau yn hawdd iawn eu hoffi. Mae’r menywod i gyd yn mynd i ddosbarth ‘Mami a Fi’ sydd yn eu bondio nhw, ac mae’r rhaglen yn profi (er ei fod yn amlwg) pa mor anhygoel yw menywod. Mae Frankie yn fenyw lesbiaidd, ac mae ei phartner hi, Giselle wedi cario eu babi nhw. Mae’n adfywiol i weld cynrychiolaeth o ddwy fenyw lesbiaidd sydd yn magu babi ar raglen sydd ar gael ar Netflix, ac nad oes sylw yn cael ei dalu at y ffaith eu bod nhw’n fenywod lesbiaid - maen nhw’n cael eu gweld fel cwpwl sydd â babi a dyna’r oll. Erbyn cyfres tri, mae yna sawl cymeriad lesbiaidd yn y rhaglen, cymysg o ran oedran, sy’n gynrychiolaeth sydd eu hangen arnom yn y cyfryngau heddiw, un positif ac amrywiol o oedran, hil ac edrychiad personol.
RuPaul’s Drag Race UK
Sut alla i sôn am beth i’w wylio sy’n cwïar heb sôn am Drag Race? Mae’r gyfres gyntaf o Drag Race ym Mhrydain yn lansio heno! Mi fydd deg yn cystadlu er mwyn ennill y ras i fod yn Frenhines Drag gynta’r rhaglen Brydeinig. Mae’r rhaglen yn llawn heriau, chwerthin, drama, cweryla a sbort ac mae’r rhaglen wedi dod â drag mewn i’r brif ffrwd yn y cyfryngau. Y prif feirniaid yw RuPaul wrth gwrs, Michelle Visage, Alan Carr a Graham Norton – X Factor pwy? Mae un Frenhines o’r enw The Vivienne yn dod o Ogledd Cymru, felly tybed os fydd enillydd cynta’r rhaglen yn Gymraes y flwyddyn yma?