top of page

Iechyd a Lles | Coronfeirws: Vox Pops

Iechyd a Lles | Coronfeirws: Vox Pops

Coronafeirws: Vox Pops
Mae nifer o bobl ifanc yn gofidio am y cyfnod nesaf wrth i’r Coronafeirws ledaenu. Dyma bryderon rhai o ddilynwyr Instagram #LyshCymru...

Nel Angharad
“I mi mae’r firws yn achos reit fawr ar hyn o bryd gan ein bod yn gorfod rhoi'r gorau i gymaint o bethau er lles ein diogelwch. Dwi’n meddwl fod o’n bwysig i gymryd unrhyw gyngor posib gan ei fod yn gallu stopio’r firws rhag lledaenu. Gall wneud y pethau symlaf fel golchi eich dwylo neu beidio mynd i lefydd gyda thorfeydd o bobol yno wneud byd o wahaniaeth. Meddyliwch amdano; os wneith y 7 biliwn o bobol y byd wneud y pethau lleiaf gall wneud gymaint o wahaniaeth i’r ysbytai. Diolch i’r doctoriaid, maen nhw’n gweithio mor galed i helpu’r firws yma, maent yn haeddu clod am ei gwaith caled.”

Holly
“Y prif bryder sydd gen i yw'r effaith mae'n cael ar aelodau o'r gymdeithas sydd o dan anfantais fel y rhai efo problemau iechyd parhaol. Hefyd mae’n bryder wrth weld bod y llywodraeth yn awgrymu osgoi ond ddim yn rhoi cynlluniau yn eu lle i gefnogi busnesau bach a fydd yn ddioddef fwyaf yn sgil sefyllfa. Mae angen iddynt wneud penderfyniadau clir. Mae'r ansicrwydd am y dyfodol yn anodd, boed arholiadau, trefniadau prom neu wyliau’r haf, dydyn ni ddim yn gwybod am ba mor hir fydd hyn yn para.”

Elliw Siân
Fel myfyrwraig sydd yn y flwyddyn gyntaf mae hyn yn gyfnod pryderus i bawb yn y brifysgol. Pawb yn poeni sut yr ydym am gael ein hasesu a ballu. Yn poeni am ein hiechyd yn gyffredinol. Y peth gora sydd wedi digwydd yw gohirio darlithoedd gan fod hun yn lleihau'r risg o ledaenu'r firws. Ond mae'n gyfnod pryderus i ni gyd ar draws y wlad.

Nel Rhys
“Dwi’n poeni am yr hyn sydd yn digwydd ar y funud, yn enwedig wrth weld y nifer o bobl ar draws y byd yn dioddef o’r haint yma. Hyn, a'r ffaith fod e'n gwasgaru o gwmpas ein gwlad ac yn mynd i effeithio nifer o bobl eraill yn yr amser hynny, sy’n gwneud i mi boeni am fy nheulu fy hun a fy ffrindiau. Mae'n debyg fydd hyn yn effeithio ar addysg miloedd o blant ledled y wlad ac yn gorfodi pobl i stopio'r hyn maen nhw'n eu gwneud o ddydd i ddydd. Os bydd yn rhaid i'r ysgolion gau yn y dyfodol a phawb i aros yn eu cartrefi, bydd yn effeithio ar fusnesau bach a lleol fel gyrwyr tacsis a phobl hunangyflogedig, oherwydd ni fyddant yn cael eu talu.

Manon Elin
“Mae’n gyfnod mor frawychus a does dim modd dianc rhagddo. Dwi’n teimlo mwy o orbryder a phanig dros y dyddiau diwethaf, a dwi’n poeni am effaith yr holl ansicrwydd, gorbryder, panig, diffyg strwythur a diffyg cyswllt cymdeithasol ar fy iechyd meddwl.
Dw i hefyd yn casáu’r ansicrwydd, y teimlad bod pawb mewn panig a ddim yn gwybod beth i wneud, y teimlad fod popeth allan o fy rheolaeth a bod popeth yn newid.
Yn ogystal dwi’n teimlo’n ddiflas heb ddigwyddiadau i edrych ‘mlaen atyn nhw, a dwi’n poeni am aelodau hŷn a bregus yn y teulu.
Mae’n anodd rheoli’r gorbryder a theimladau o banig pan fo pawb yn poeni ac mewn panig. Mae fel teimladau cyffredin gorbryder, ond ar raddfa eang: anobaith, diymadferthedd, teimlo bod popeth yn gwaethygu, nad oes diwedd i’r diflastod, ddim yn teimlo’n ddiogel, ac na all neb helpu.
Dwi’n ysu i rywun ddweud ‘Bydd popeth yn OK’, ond mae pawb yn rhannu’r ansicrwydd a’r gofid.

Cyngor Manon, sy’n rhan o wefan Meddwl, am bethau bach sy’n gallu helpu...

Cofio mai dim ond cyfnod yw hyn. Bydd hyn yn pasio ac fe ddaw dyddiau gwell. Byddwn ni’n edrych yn ôl ar y cyfnod du hwn o gyfnod gwell. Bydd yn ein hatgoffa i beidio â chymryd dim yn ganiataol eto ac i werthfawrogi’r pethau bychain.
Cymryd pethau un dydd ar y tro
Cadw mewn cysylltiad gyda phobl eraill yw un o’r pethau pwysicaf, ac mae’n haws nag erioed o’r blaen i wneud hyn.
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu, ac i ail-gysylltu, â phobl.
Cofio ei fod yn iawn i deimlo sut bynnag chi’n teimlo. Gadewch i’ch hun deimlo’r emosiynau anodd yn hytrach na cheisio brwydro yn eu herbyn.
Blaenoriaethu hunanofal. Mae’n hawdd cael eich llethu gan bopeth. Byddwch yn garedig i’ch hun. Digon o gwsg, bwyta’n dda, yfed digon o ddŵr, ymlacio. Dyw hyn ddim yn bosib i bawb, ond blaenoriaethu hunanofal dros weithio. Peidio trio gweithio fel normal; dyw hyn ddim yn gyfnod normal. Gwneud beth bynnag gallwch chi i godi eich calon.
Cofio nad chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Mae pawb yn yr un sefyllfa (er yn amlwg yn anoddach i rai). Ni’n brwydro drwy hyn gyda’n gilydd.
Rhannu sut chi’n teimlo, ac annog eraill i wneud yr un peth. Mae’n bosib y byddwch chi’n sylweddoli eich bod yn rhannu gofidiau tebyg.
Gwneud y mwyaf o’r pethau sy’n aros yr un peth: mynd am dro, darllen, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio rhaglenni chi fel arfer yn eu gwylio.
Chwilio am y pethau bach positif ym mhob diwrnod. Mae pethau da yn dal i ddigwydd yng nghanol hyn i gyd.
Cyfle i sylweddoli beth sy’n bwysig mewn bywyd.
Ysgrifennu sut chi’n teimlo. Does dim rhaid i chi ei rannu, ond gall fod o gymorth i gael popeth allan.
Mynd i’ch hoff gaffi neu siop leol = treat i chi a chefnogi busnes sydd angen pob cymorth yn ystod y cyfnod hwn.
Sylwi ar yr holl bobl sy’n barod i helpu eraill.
Chwarae gemau ar-lein gyda ffrindiau, e.e. Words with Friends, gemau ar Facebook.
Edrych ar luniau a fideos o anifeiliaid.
Gweld hyn fel cyfle i wneud pethau chi wastad wedi bod eisiau eu gwneud ond heb gael yr amser, e.e. darllen, gwylio cyfres deledu, dechrau hobi newydd, dysgu iaith.
Cadw cofnod o’r pethau bach sy’n gwneud i chi wenu a’r pethau chi’n ddiolchgar amdanyn nhw.

Iechyd a Lles | Coronfeirws: Vox Pops
bottom of page