top of page

Iechyd a Lles | Ceri Lloyd: Bywyd Figan a Fi

Iechyd a Lles | Ceri Lloyd: Bywyd Figan a Fi

Mae’r actores Rownd a Rownd, Ceri Lloyd, ar fin lansio ei llyfr, O’r Pridd i’r Plât – y llyfr coginio figan cyntaf yn Gymraeg, sy’n llawn lluniau lliw. Dyma hi i sôn ychydig am ei stori bersonol hi o fod yn anhapus yn ei chroen ei hun yn ei harddegau – ond erbyn heddiw, mae’n stori wahanol.

https://www.youtube.com/watch?v=42BvomSpeyw

Rysáit
Pwmp uchel i’r pei pwmpen!
Bydd hi'n Ddiwrnod Figan y Byd Tachwedd y 1af - a mis Tachwedd ar ei hyd yn fis Figan! Beth am drio'r rysáit hyfryd, hwylus a hydrefol hwn gan Ceri Lloyd o’i llyfr, O’r Pridd I’r Plât...

CYNHWYSION Y CRWST
1½ cwpan o almonau
¼ llwy de o Halen Môn
¼ cwpan o olew cnau coco
3 llwy fwrdd o sudd masarn
2 lwy fwrdd o fenyn cnau almon
2 lwy de o rin coffi (opsiynol)

CYNHWYSION YR HAEN UCHAF
½ tun o laeth cnau coco
1 cwpan o biwrî pwmpen (o dun)
¾ cwpan o sudd masarn
½ cwpan o olew cnau coco
2 lwy de o rin fanila
2 lwy de o sbeis pwmpen
¼ llwy de o Halen Môn

DULL Y CRWST
1. Rhowch yr almonau mewn prosesydd bwyd a’u prosesu nes eu bod yn troi’n flawd.
2. Ychwanegwch weddill y cynhwysion at yr almonau a phrosesu’n dda nes eu bod yn creu pêl ludiog.
3. Irwch y tun cacen gyda’r olew cnau coco a gwasgu’r bêl almonau i lawr ar ei hyd gyda’ch dwylo. Yna, defnyddiwch gefn llwy i sicrhau bod y cyfan yn llyfn.
4. Rhowch e i’r naill ochr a symud ymlaen i baratoi’r haen uchaf.

DULL YR HAEN UCHAF
1. Rhowch holl gynhwysion yr haen uchaf mewn cymysgydd a chymysgu’n dda am 40–50 eiliad nes eu bod yn troi’n hylif trwchus a llyfn.
2. Nesaf, arllwyswch yr haen uchaf ar ben y crwst a’i roi yn y rhewgell i galedu am tua 3 awr neu dros nos. Unwaith mae’n barod, fe allwch gadw’r pei yn yr oergell.

Bydd lansiad y llyfr yn Pant Du ar 6 Tachwedd 7pm

Gwefan: www.saib.yoga
Instagram: www.instagram.com/ceri_lloyd
O’r Pridd I’r Plât, £14.99, Y Lolfa

Iechyd a Lles | Ceri Lloyd: Bywyd Figan a Fi
bottom of page