top of page

Iechyd a Lles | Camau Bychan Ond Nerthol

Iechyd a Lles | Camau Bychan Ond Nerthol

Taclo’r argyfwng hinsawdd gyda Poppy Stowell-Evans

Aeth Poppy Stowell-Evans i gynhadledd COP26. Dyma oedd ei hargraffiadau - a dyma hi’n myfyrio ar y pethau sy'n ei chadw ar y ddaear fel actifydd hinsawdd.

Yn aml, fel actifydd hinsawdd ifanc, mae pobl yn gofyn sut mae pryder hinsawdd wedi effeithio arna i. Fel arfer byddaf yn trafod sut mae ofn diffyg gweithredu wedi achosi llawer o nosweithiau di-gwsg i fi, o hunllefau i’r teimlad llethol o ddiffyg grym. Fodd bynnag, yr ateb parod sydd gen i yw hyn. Wrth frwydro yn erbyn pryder hinsawdd rhaid gweithredu eich hun ac, yn bwysicaf oll, deall pam yr ydych am gymryd y camau hyn.

Wrth ystyried yr hyn sy'n fy ngyrru fel actifydd, dwi’n aml yn cael fy nhynnu at ddau beth. Y cyntaf yw, er y gall yr argyfwng hinsawdd wneud i chi deimlo'n ddi-rym ac wedi'ch llethu, mae pob un ohonom yn rhan ohono. Gall ac fe fydd pob penderfyniad a wnawn yn effeithio ar y blaned mewn rhyw ffordd, boed hynny yng nghyd-destun y diwydiant prynu, bwyta cig neu wleidyddiaeth. Felly, cyflwynir i ni lu o gyfleoedd i weithredu mewn ffordd sy’n rhoi’r blaned a chenedlaethau’r dyfodol yn gyntaf.

Yn y pen draw, efallai mai dim ond un unigolyn ydych chi, ond fel unigolyn mae gennych chi gymaint o bŵer ac, yn bersonol, mae’r cysyniad hwnnw’n ysbrydoledig i fi. Mae hon yn ddelfryd dwi wedi’i chadw yng nghanol fy ngweithgaredd ers blynyddoedd, gan wybod, er fy mod ond yn teimlo’n fach yn wyneb argyfwng o’r fath, y gallaf innau hefyd weithredu mewn ffordd nerthol.

Mae tyfu i fyny fel Cymraes wedi golygu bod fy atgofion hapusaf wedi’u treulio wedi’u hamgylchynu gan wyrddni prydferth y Cymoedd lle dwi wedi gallu gweld y cytgord y mae cymunedau Cymreig a byd natur yn byw ynddo erbyn hyn. Fel cenedl o ddim ond dwy filiwn hectar, bach ydym ni, ond mae’r dylanwad y mae ein cymuned a’r ysbryd Cymreig wedi’i gael ar fy magwraeth wedi bod yn nerthol. Bob dydd dwi'n deffro'n ddiolchgar am y ddwy filiwn hectar yma o dir Cymru; dwi’n ddiolchgar am y diwylliant a’r natur sydd wedi helpu i greu fy hunaniaeth Gymreig.

Fodd bynnag, y llynedd, ar draws y byd, collwyd deng miliwn hectar o dir oherwydd datgoedwigo. Efallai ei bod yn anodd dychmygu, ond collwyd tirfas bum gwaith maint Cymru oherwydd trachwant, ac oherwydd ein hanallu i wrando ar y blaned.

Ym mis Tachwedd 2021, cefais y cyfle rhyfeddol i fynychu COP26 fel Cynrychiolydd y Parth Glas ar ran Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru. Er i mi baratoi ar gyfer y gynhadledd hon ers misoedd, wrth i mi gamu ar y trên o Gasnewydd i Glasgow, doedd gen i ddim syniad beth fyddai’n ei gynnal yn ystod y pythefnos nesaf.

Roeddwn i’n gwybod bod fy mhwrpas yn COP yn glir: cynrychioli ac ehangu llais ieuenctid Cymru er mwyn creu newid gwirioneddol a dysgu o brofiadau’r cynrychiolwyr, yr ymgyrchwyr, a’r cyrff anllywodraethol y byddwn i’n fy amgylchynu.

Roeddwn yn gobeithio y byddai’n dod â phythefnos o uchelgais gan arweinwyr y byd i greu’r camau gweithredu y mae angen i ni eu gweld i liniaru newid yn yr hinsawdd. Roeddwn yn gobeithio y byddai cynrychiolaeth o bobl ifanc, pobl frodorol a’r rheini o’r De Byd-eang. Roeddwn yn gobeithio y byddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngrymuso, yn cael gwrandawiad ac y byddai llais ieuenctid Cymru yn cael ei gynrychioli’n gywir fel y grym anhygoel ydyw.

Fodd bynnag, ar ddiwrnod cyntaf COP26, roeddwn yn teimlo wedi fy llethu'n aruthrol.

Roedd hi'n ymddangos bod mynychu COP wedi datgelu pob emosiwn dwi wedi'i deimlo fel actifydd hinsawdd ifanc. Wrth i'r gynhadledd fynd yn ei blaen, roeddwn yn teimlo'n rhwystredig fy mod yn teimlo bod yn rhaid i mi fod yn COP a bod yn rhaid i mi ddibynnu ar fy ngweithredoedd unigol i frwydro yn erbyn fy mhryder yn yr hinsawdd. Roeddwn yn grac na allwn ymddiried yn arweinwyr y byd i wneud y penderfyniadau cywir. Cefais fy siomi gan y diffyg cynrychiolaeth enfawr o'r De Byd-eang.

Wrth i’m rhwystredigaeth gydag addewidion a oedd yn edrych yn wag barhau, felly hefyd y gwnaeth fy nheimlad cynyddol fod angen i mi barhau i ymladd am yr hyn rwy’n ei garu, a’r ymdeimlad o rymuso a ddaeth yn ei sgil. Byddwn yn aml yn syllu ar y glôb crog uwch fy mhen yn y Ganolfan Weithredu. Siawns bod y Ddaear yn werth ymladd drosti?

Wrth i’r pythefnos fynd yn ei flaen, sylwais ar lawr gwlad fod newid yn digwydd pa un a oedd arweinwyr y byd am sylwi arno ai peidio. Gwelais hefyd, er nad oedd gan Gymru ddirprwyaeth swyddogol yn COP, roedd yr ysbryd Cymreig yn sicr yn bresennol ac yn sicr wedi gwneud argraff. O weithredwyr ieuenctid anhygoel eraill, i’r gwaith o ysbrydoli cyrff anllywodraethol a hyd yn oed yr ymrwymiad adfywiol gan ein Llywodraeth nid yn unig i gymryd rhan mewn sgwrs ond i ymrwymo i weithredu.

Gwelais Gymru yn mynd ati i ymgorffori’r ymadrodd ‘Newid System nid Newid yn yr Hinsawdd’ a gwelais angerdd yn dod o amrywiaeth o sectorau nid yn unig i amddiffyn pobl Cymru ond i amddiffyn y byd.

Ar fy niwrnod olaf, wrth syllu ar y glôb, gwelais Gymru o'r diwedd. Yn ganiataol, roedden ni'n ymddangos yn fach o gymharu â gweddill y byd. Ond gallwn weld gwlad nerthol. Profodd COP i fi er ein bod yn fach, mae ein hangerdd yn enfawr. Credaf pan fydd yr angerdd hwn yn cael ei gymhwyso ym mhob sector, y gallwn gyrraedd dim datgoedwigo, gallwn ddod yn wirioneddol Sero Net o ran allyriadau carbon (gan gynnwys mewnforion ac allforion), a gallwn gefnogi'r rhai y mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio arnynt. Er bod gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd fel gwlad o ran gweithredu ar yr hinsawdd, credaf y bydd cadw’n sylfaen i’n hunaniaeth Gymreig yn amhrisiadwy. Dwi’n credu mai cadw’n sylfaen mewn balchder sydd wedi’i adeiladu ar gofleidio ac amddiffyn cymunedau yw’r gyfrinach i rysáit o newid cadarnhaol ac yn rhywbeth y dylai gweddill y byd edrych arno fel ysbrydoliaeth.

Ymddangosodd y blog yma’n wreiddiol ar wefan IWA Wales.

Iechyd a Lles | Camau Bychan Ond Nerthol
bottom of page