top of page

Iechyd a Lles | Caethiwed

Iechyd a Lles | Caethiwed

Dyma gasgliad o gerddi gan Kayley Sydenham, disgybl o Ysgol Gyfun Gwynllyw, a enillodd y Gadair iddi yn Eisteddfod yr ysgol yn ddiweddar…

Rhybudd cynnwys: Mae’r gerdd yn cynnwys cyfeiriadau at hunan-niweidio.

23:47
Nos Iau. Dw i angen help.

Deffro i hunllefau yn y boreau.

O'n i’n gwella.
Ond
wedyn nes i gofio.
Nawr dw i nôl i’r dechreuad.

Yn y nos ma’n anodd cysgu.
Teimlo ‘mod i’n
boddi heb ddŵr,
llosgi heb dân.

Ystafell wag, tawelwch.
Pob tro
addo
“dyma'r tro olaf.”
Ond
yna, bydd yr ysfa’n dychwelyd.

Eisiau teimlo rhywbeth.

Un yn troi’n ddau
dau’n troi’n bedwar,
fy meddwl yn mynnu am ond un arall...

Pleser.
Yw gweld
y rhaeadr yn llifo,
gan ffurfio llinellau trefnus, clir
swigod rhuddgoch perffaith, ffres.

Sut i egluro?
Gwên ffug feunyddiol
i osgoi’r cwestiynau;
Ond
dw i ffili, jest
stopio-
Oherwydd ma’r gaethiwed ma
yn obsesiwn.

Dw i’n gaeth i’r creithiau,
ar fy mraich, bol, coesau...
Y ffordd maent yn tawelu fy meddwl.
Dw i’n gaeth i’r boen,
all neb arall roi i mi.
Ond
anodd iawn yw dianc
rhag crafangau cecrus y caethineb hwn.

Heno

Heno-

Ar ôl i mi dynnu fy llewys,
dw i am liwio fy mraich yn enfys.

Ar ôl i mi dynnu’r conselar,
dw i am ei ddisodli ‘da lliwiau llachar.

Ar ôl i mi dynnu fy mreichledau,
dw i am gysylltu pob llinell ‘da blodau.

A oes gobaith i’r dyfodol,
yn erbyn y düwch llethol?

“Mi hoffwn i allu credu yn hynna”

Ond, am heno...
Dw i dal yma.

Caethiwed

Rwyt wedi ymgartrefi
mewn i ‘mhen
hoelen hir
fel petai’n ddarn o bren.

Tan hynny

“Do you cut yourself?

I’m not going to tell anyone. Promise.”

Anodd di cadw cyfrinach,
sy’ di printio ar dy gorff.

Weithiau, dw i bron â dweud rhywbeth wrth…

Baichbaichbaichcywilydddoesdimotsdwiniawnaddo.

Hawdd ei guddio,
er, i wneud o’n anoddach yn y pendraw.

...Ond,
tan hynny-

Parhau i gerdded adre’n araf,
y dydd wedi hen ddod i ben-
fy nwylo’n crynu,
a’m llygaid yn wlyb.

Tan hynny-

Bydd y cleisiau dal i ymddangos- o nunlle...
Yn aml.

Bydd y gannwyll dal i losgi- heb ystyried y peth...
Bob hyn a hyn.

Bydd y gyllell yn parhau i ddisgyn- ar ddamwain...
Yn amlach.

Anghofio am bob dim arall,
canolbwyntio ar y boen.

Da ni gyd yn gaeth i rywbeth,
sy’n cymryd y boen i ffwrdd.

Gair o gyngor

Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

https://meddwl.org/erthyglau/technegau-ymdopi-gyda-hunan-niweidio
https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-a-chefnogaeth/hunan-niweidio/helpu-eich-hun-nawr
https://www.meiccymru.org/cym/dirgelwch-hunan-niweidio
https://meddwl.org/cymorth
http://www.lifesigns.org.uk/read-this-first
https://hatw.co.uk/things-to-try
https://giveusashout.org
https://meddwl.org/erthyglau/hunan_niweidio_helpu

Iechyd a Lles | Caethiwed
bottom of page