top of page

Iechyd a Lles | Byw Mewn Byd o Bryder

Iechyd a Lles | Byw Mewn Byd o Bryder

Llio Angharad aeth i holi Glesni Prytherch am gyngor sut i ymdopi wrth weld holl erchyllterau rhyfel ar ein sgriniau ar hyn o bryd...

Mae’r newyddion ar y funud yn orlawn efo newyddion drwg ac erchyll. Tasg a hanner yw trio cael saib o’r newyddion yma, yn enwedig pan mae’r cyfryngau cymdeithasol yn mynnu ein bod ni’n ymwybodol o erchylltra’r byd.

Pan mae’r newyddion yn drwm fel hyn, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n edrych ar ôl ein hunain. Dwi’n gwybod fod hi’n haws dweud na gwneud, felly wnes i sgwrsio efo Glesni Prytherch, cwnselydd pobl ifanc, er mwyn ei holi am tips i’w rannu ar gyfer lleddfu ‘chydig ar y poendod a’r gorbryder.

Effaith Iechyd Meddwl

Yn ein byd ni heddiw, mae newyddion ar gael i’w ddarllen a’i wylio drwy'r dydd, bob dydd. Mae’r newyddion diweddaraf yn ein cyrraedd mewn eiliadau, ac roeddwn i eisiau gwybod os ydi’r newyddion cyson yma yn beth da i’n hiechyd meddwl ni.

“Mae o’n gymysgedd rili...” esboniodd Glesni. “Mae o’n bwysig dod o hyd i falans. Mae gwybod be sy’n mynd ymlaen yn bwysig a bod yn wybodus, ond dim i’r pwynt lle da ni’n ypsetio gormod. Ar gychwyn y pandemig, nes i orfod peidio gwylio’r newyddion. Oeddwn i’n eistedd yna yn gwylio’r ffigyrau yn mynd i fyny... Nes i feddwl ‘dydi hyn ddim yn dda i iechyd meddwl fi’ a pheidio gwylio gormod.”

Sonia Glesni ei bod hi’n wyliadwrus o ble y mae hi’n cael ei newyddion, gan fod cymaint o newyddion ffug ar wefannau cymdeithasol. “Y ffordd dwi’n osgoi newyddion ffug ydi dilyn cyfrif o’r enw Simple Politics. Maen nhw’n dadansoddi bob dim sy’n mynd ymlaen yn y newyddion mewn ffordd rili syml, felly dwi’n gallu darllen un post a dyna fo. Dwi’n gwybod be sy’n digwydd heb orfod ei wylio drosodd a throsodd ar y newyddion.”

Teimlo’n bryderus

Weithiau, mae gwylio’r newyddion yn gallu bod yn ormod i ni a dan ni’n gallu teimlo’n nerfus neu’n orbryderus ar ôl ei wylio. Weithiau dan ni’n gweld y newyddion heb fod eisiau, fel ar y cyfryngau cymdeithasol neu wrth gerdded heibio papurau newydd yn y siop. Mae Glesni yn pwysleisio fod ceisio aros yn y foment bresennol yn bwysig er mwyn lleddfu ‘chydig o’r poendod.

“Trïwch beidio poeni gormod am be sy’n mynd i ddigwydd a chymerwch un dydd ar y tro. Mae ymarfer meddylgarwch yn helpu, yn enwedig grounding techniques sy’n helpu chi i aros yn y foment bresennol, neu unrhyw ymarfer sy’n defnyddio'r pum synnwyr.”

Siarad

Mae pawb yn mynd i boeni weithiau, ond mae’n bwysig gwybod gyda phwy allwn ni drafod ein pryderon. Holais Glesni am elusennau sy’n gallu ein helpu.

“Mae elusennau fel Mind yn rili dda. Maen nhw on the ball efo bob dim! Mae ‘na elusen Young Mind i bobl ifanc hefyd ac maen nhw wastad efo ffynonellau defnyddiol sy’n helpu,” meddai.

Yn ogystal ag elusennau, mae’r bobl sydd o’n cwmpas ni hefyd yno i’n helpu, fel teulu a ffrindiau, hyd yn oed athrawon.

“Byddwch yn onest efo sut ydach chi’n teimlo,” meddai Glesni. “Mae cael sgyrsiau fel hyn yn bwysig. Os mae rhywun angen cymorth pellach am eu bod nhw’n pryderu gormod, does yna ddim byd yn bod efo estyn allan i siarad efo doctor neu rywun yn yr ysgol i ystyried cwnsela.”

Gorbryder

Dywedais wrth Glesni fy mod i’n berson sy’n pryderu’n aml. Pan dwi’n gweld unrhyw newyddion drwg, dwi bron yn awtomatig yn mynd i feddwl am y senario gwaethaf posib. Er erbyn heddiw dwi’n gallu ei reoli, gofynnais i Glesni be fyddai ei chyngor hi i ferched sy’n feddwl mewn ffordd debyg i fi.

“Mae o’n rhwbath mor, mor gyffredin,” meddai, cyn rhannu tip ar sut i dawelu’r meddwl. “Mae’n bwysig trio meddwl be ydan ni’n gallu ei reoli yn y sefyllfa. Dwi’n licio awgrymu creu rhestr efo dwy golofn yn nodi be sydd yn fy rheolaeth a be sydd ddim yn fy rheolaeth. Weithiau mae ‘sgwennu rhywbeth lawr i chi cael ei weld o, yn hytrach ‘na fod o i gyd yn troelli rownd ein pennau ni, yn helpu.”

“Ceisiwch feddwl yn fwy rhesymegol. Trïwch gwestiynu'r meddyliau yn eich pen a meddwl pa mor debygol ydi hyn o ddigwydd. Gofynnwch i’ch hun, os mae o’n digwydd, sut ydw i yn mynd i ymdopi efo fo? Be fyswn i’n dweud wrth ffrind os fysan nhw’n teimlo fel hyn... Mae cwestiynu fel hyn yn gallu tawelu pryderon.”

“A chofiwch, dydi bob dim sy’n mynd trwy ein pennau ni ddim yn ffaith.”

Cefnogi ein ffrindiau

Gan fod Glesni wedi awgrymu ein bod yn siarad efo rhywun fel ffrind petawn ni’n pryderu, holais sut i fod yn ffrind da pe bawn i’n sylwi bod fy ffrindiau yn pryderu am y newyddion.

“Y peth cyntaf fyswn i’n awgrymu ydi siarad yn onest, bod yn agored a dweud ‘Dwi’n sylwi dy fod di’n fwy pryderus nag arfer ag yn darllen yr erthyglau yma drwy’r amser... Dwi jest isho gwneud yn siŵr dy fod di’n iawn?’ neu’r math yna o beth. A chofiwch wrando! Gwrando ydi’r peth pwysicaf, peidio dirymu sut maen nhw’n teimlo drwy ddweud pethau fel ‘O paid a bod yn wirion, paid â phoeni’. Mae be maen nhw’n ei ddeud a’i deimlo yn hollol ddilys.”

“Byddwch yn ofalus i beidio deud petha fel ‘O wel, fydd petha’n iawn yn y diwedd,’ achos er bod y bwriad yn bur a ti jest isho nhw deimlo’n well, mae dweud petha fel hyn yn gallu cael yr effaith hollol groes.”

“Gwrando a siarad yn agored sy’n bwysig. Dydi pobl ddim yn sylwi ar y pŵer sydd gan jest gwrando. Mae o’n gwneud byd o wahaniaeth.”

Iechyd a Lles | Byw Mewn Byd o Bryder
bottom of page