top of page

Iechyd a Lles | Byw Dan Gwmwl

Iechyd a Lles | Byw Dan Gwmwl

Gorbryder. Gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio teimladau o anesmwythyd, gofid ac ofn. Un sydd yn byw gyda’r cyflwr ers ei harddegau ydy Arddun Rhiannon o Ddinas, Llanwnda.

“Pam ein bod ni wastad yn cofio’r pethau drwg sydd wedi cael eu dweud amdanom ni? Prin ’dan ni’n cofio’r pethau da a chadarnhaol. Tasa rhywun yn gofyn imi restru’r holl sylwadau negyddol o unrhyw fath sydd wedi cael eu taflu ata i dros y blynyddoedd, dwi’n siŵr y byddwn i’n gallu bod yno am oriau yn eu diflasu nhw efo rhestr hirfaith.

Gofynnwch imi restru’r canmoliaethau ar y llaw arall, ac mi fyddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn rhoi llond llaw o enghreifftiau i chi. Dwi’n gwybod go iawn fod ’na’r un faint, os nad mwy o bethau da ’swn i’n gallu eu nodi – ond o, mam bach! Mae hi’n swydd llawn amser imi drio’u cofio nhw.

Dyna’r peth efo iselder – mae o’n gwmwl dros eich pen 24 awr o’r dydd, saith diwrnod o’r wythnos. Cwmwl sy’n llawn amheuon, ofn, ac un sy’n dileu unrhyw hunan-werth roeddech chi’n berchen arno cynt. Rai diwrnodau mae’r cwmwl yn sefydlog ac mae hi’n ddiwrnod braf, ond mae ’na rai diwrnodau lle mae o’n gwmwl du.

Os dwi’n cofio’n iawn, dwi’m yn meddwl y daeth un cyn y llall, fel y cyfryw. Hynny ydi, daeth yr iselder a’r gorbryder law yn llaw. Fel mae sawl un yn ymwybodol, mae ymladd un cyflwr yn flinedig ar y naw, ond fflipin ’ec, mae gorfod ymladd dau yn cymryd y mic, braidd. Does ’na ddim ffordd hawdd o’i esbonio...

Gair o gyngor
Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn profi gorbryder, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

Peidiwch â rhoi pwysau arnynt
Ceisiwch beidio â rhoi pwysau ar eich ffrind neu aelod o’r teulu i wneud mwy nag y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud. Mae’n bwysig iawn bod yn amyneddgar, gwrando ar eu dymuniadau a chymryd pethau ar gyflymdra sy’n iawn iddyn nhw.
Mae’n ddealladwy fod arnoch eisiau eu helpu i wynebu eu hofnau, ond gall fod yn drallodus i rywun os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i sefyllfaoedd cyn eu bod yn barod. Gall hyn waethygu eu gorbryder hyd yn oed.

Ceisiwch ddeall
Dysgwch cymaint ag y gallwch am orbryder. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall yr hyn maent yn ei brofi.
Gofynnwch iddynt am eu profiadau. Gallwch ofyn iddynt sut mae gorbryder yn effeithio arnynt o ddydd i ddydd, beth sy’n ei wneud yn well neu’n waeth. Gall wrando ar eu profiadau eich helpu chi i uniaethu â sut maen nhw’n teimlo.
Byddwch yn garedig, peidiwch â beirniadu… gadewch iddynt wybod y bydd yn mynd heibio, a dywedwch eich bod chi yno iddynt.

Gofynnwch sut gallwch chi helpu
Mae’n bosib bod eich ffrind neu aelod o’r teulu eisoes yn gwybod sut y gallwch chi eu cefnogi – er enghraifft, efallai ei fod yn eu helpu nhw os ydych chi’n eu cymryd allan o’r sefyllfa, i siarad â nhw yn addfwyn neu wneud ymarferiadau anadlu gyda nhw.
Drwy ofyn iddynt beth sydd angen arnynt, neu sut gallwch chi helpu, gallwch eu cefnogi i deimlo fod mwy o reolaeth ganddyn nhw. Mae gwybod bod rhywun yno sy’n gwybod beth i’w wneud os ydynt yn dechrau teimlo’n orbryderus neu’n mynd i banig yn eu helpu nhw i deimlo’n fwy diogel a thawel eu meddwl.

Cefnogwch nhw i gael cymorth
Os ydych chi’n teimlo bod gorbryder eich ffrind neu aelod o’r teulu yn dod yn broblem iddynt, gallwch eu hannog i geisio triniaeth addas drwy siarad â meddyg teulu neu therapydd. Gallwch hefyd:
Gynnig eu helpu i drefnu apwyntiad gyda’r meddyg.
Cynnig cefnogaeth pan fyddan nhw’n mynychu apwyntiadau.
Eu helpu i ymchwilio i fathau gwahanol o gefnogaeth, megis gwasanaethau cymdeithasol neu grwpiau cymorth.

Edrych ar ôl eich hun
Gall fod yn anodd iawn i gefnogi rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl – nid ydych ar ben eich hun os ydych chi’n teimlo hyn yn ormod weithiau. Mae’n bwysig cofio edrych ar ôl eich iechyd meddwl eich hun hefyd, fel bod gennych yr egni a’r amser sydd arnoch ei angen i helpu.

* Daw’r cyngor uchod oddi ar Meddwl.org - https://meddwl.org/erthyglau/gorbryder-panig-helpu/ - gwefan sy’n rhoi sylw ac sy’n taflu goleuni ar bob math o gyflyrau iechyd meddwl.

Am gymorth, dyma rai cysylltiadau:

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd
Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Y Samariaid
Ffôn: 08457 90 90 90 (24 awr y dydd)
E-bost jo@samaritans.org
Gwefan www.samaritans.org

Iechyd a Lles | Byw Dan Gwmwl
bottom of page