Iechyd a Lles | Anhwylder Bwyta a Fi
gyda Nia Elin
Siarad a rhannu - dyna'r ffordd ymlaen yn ôl un sydd wedi dioddef o anorecsia. Â hithau’n wythnos codi ymwybyddiaeth i anhwylderau bwyta, dyma Nia Elin i rannu ei stori gyda Lysh Cymru.
https://www.youtube.com/watch?v=Uz8KfZLGwgY
Sut i gefnogi ffrind sydd â phroblem bwyta
Os ydych chi'n poeni am ffrind sy'n ei chael hi'n anodd bwyta, gwrandewch arnyn nhw. Efallai bod ganddyn nhw bethau anodd yn digwydd yn eu bywyd sy'n achosi'r newidiadau i'w bwyta.
Anogwch eich ffrind i siarad â'u meddyg teulu fel y gallant ddarganfod pa gymorth proffesiynol sydd ar gael iddynt.
Cofiwch, os ydych chi'n poeni amdanyn nhw, does dim rhaid i chi gadw eu cyfrinach oherwydd os nad ydyn nhw'n cael yr help sydd ei angen arnyn nhw gall pethau waethygu'n gyflym iawn. Efallai y bydd dweud wrth aelod o’r teulu, athro neu rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo yn teimlo’n anodd i’r ddau ohonoch, ond mae’n bwysig oherwydd po gyflymaf y bydd eich ffrind yn cael cefnogaeth, y mwyaf tebygol y byddant o wella.
Edrychwch ar ôl eich hun. Gall fod yn anodd iawn cefnogi rhywun sy'n mynd trwy amser anodd a gall hyn effeithio ar eich lles a'ch iechyd meddwl eich hun. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywun y gallwch chi siarad â nhw am sut rydych chi'n teimlo, fel aelod o'r teulu neu ffrind dibynadwy.
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Beat - www.beateatingdisorders.org.uk
Mae yna hefyd gyngor da ar gael yn Gymraeg ar wefan Meddwl.org - https://meddwl.org/cyflyrau/anhwylderau-bwyta/