top of page

Hwyl a Hamdden | Staco Bola’n Dynn!

Hwyl a Hamdden | Staco Bola’n Dynn!

Mae’n gwpwl o wythnosau ers i’r ysgol ail-ddechrau. Wyt ti wedi cael llond bol ar dy frechdanau soeglyd yn barod? Dyma rysáit am rywbeth gwahanol i ti ei fwyta yn dy becyn bwyd gan Cadi Mars Jones. Mae hi’n rhedeg blog #Bwyd ac yn feistres yn y gegin! Rho wybod i #LyshCymru os wyt ti’n rhoi tro ar wneud y tameidiau blasus yma...

Tameidiau Pitsa

• 1 Nionyn (Winwnsyn) Coch
• ½ Pupur Coch
• 2 Clof o Arlleg
• Llond llaw o Domatos (wedi torri yn 1/4)
• 70g o Chorizo
• 12 pêl Mozzerella bach
• 2 Wŷ
• 2 llwy fwrdd o Besto Gwyrdd
• 150ml o Lefrith (Llaeth)
• 250g o Flawd Codi

1. Cynhesa’r popty i 180°C ac estyn tin cacennau bach yn barod.
2. Mewn padell ffrio ychwanega’r pupur, nionyn, garlleg, tomatos a chorizo, y cyfan wedi eu torri yn fân.
3. Mewn powlen ychwanega’r wŷ, llefrith, blawd a pesto a’i gymysgu’n dda. Ychwanega’r llysiau wedi ffrio i’r gymysgedd.
4. Ura’r tin hefo casys cacennau bach neu bapur gwrthsaim. Llenwa’r tins cacennau bach hyd at hanner ffordd.
5. Yng nghanol y gymysgedd rho belen mozzarella bach, cyn ei orchuddio hefo fwy o gymysgedd.
6. Rho’r gymysgedd yn y popty am 20-25 munud, neu nes ei fod wedi brownio.

Hwyl a Hamdden | Staco Bola’n Dynn!
bottom of page