top of page

Hwyl a Hamdden | Dathlu Hwyl Dan Do

Hwyl a Hamdden | Dathlu Hwyl Dan Do

Mae hi’n fis Pride! Mae Mehefin yn cael ei adnabod fel mis allweddol i ddathlu Pride, er mae dathliadau dros y flwyddyn gyfan. Mae Pride yn cael eu gweld fel parti mawr, ond ddechreuodd hi fel ymateb i derfysgoedd Stonewall yn 1969 yn Efrog Newydd. Wnaeth protestio digwydd fel ymateb i sawl tafarn LHDTC+ cael eu hysbeilio a sawl person LHDTC+ cael eu harestio gan yr heddlu am fod yn hoyw. Mae rhaid bod yn ddiolchgar am y bobl wnaeth protestio amdanyn 51 mlynedd yn ôl, yn enwedig y menywod traws o liw a lesbiaid roedd ar y blaen fel Stormé DeLarverie, Sylvia Rivera a Marsha P. Johnson.

Yn ystod y mis yma fydd y gymuned LHDTC+ a chynghreiriad yn dod at ei gilydd i brotestio, partio, cynnal digwyddiadau gwleidyddol, celfyddydol a siarad cyhoeddus, a llwyth mwy! Rydym yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth, creu newid ac i ddod mewn undod.

Am fod Cymru dal yn y clo mawr, ni allwn ni fynychu llawer o’r digwyddiadau sydd yn arfer mynd ymlaen yn ystod mis Pride, ond mae yna lwyth o bethau allen ni wneud i ddathlu a chefnogi o’n tai!

Dyma restr o bethau allech chi wneud fel aelod o’r gymuned LHDTC+ neu fel cynghreiriad i’r gymuned yn ystod y clo mawr:

1. Gwylio ffrydiau byw a dathliadau Pride ar-lein:
Mae ffrydiau byw a dathliadau digidol yn digwydd y mis yma er mwyn dechrau trafodaethau, rhannu hanes a darparu dathliad Pride ar-lein. Dyma linciau i rai allech chi wylio:
https://www.glaad.org/pridelive
http://www.sfpride.org/celebration
https://www.brighton-pride.org/we-are-fabuloso/?fbclid=IwAR0BXYhXJoGL9lde-cQxvxRq50ub4KV8-0Vbya1AY32Zpr1TVvuUQTWWCac
https://prideinlondon.org/event/pride-inside-3vaLnI78ZArYV6vGbhcPfn

2. Gwylio rhaglenni dogfen ar Netflix, iPlayer, YouTube a Channel 4 i ddysgu mwy am fywydau eraill.
Netflix - Circus of Books (2019), A Secret Love (2020), The Death and Life of Marscha P. Johnson (2017), Disclosure (2020)
iPlayer - Olly Alexander: Growing up Gay (2017), Queer Britain (2017), Leo: Becoming a Trans Man (2017)
YouTube - State of Pride (2019), Stonewall Forever (2019), The True Story Behind The Stonewall Riots gan i-D (2019)
Channel 4 - Mae yna gategori newydd ar gael ar 4od o’r enw Pride Month, mae hi’n werth checio allan

3. Darllen llyfrau hanesyddol am bobl, bywydau a hanes LHDTC+. Dyma lond llaw o’r rhai sydd ar gael, mae yna lyfr am bopeth os ewch i siop lyfrau neu ar-lein i chwilio.
A Little Gay History of Wales - Daryl Leeworthy
The Stonewall Riots: Coming Out in the Streets - Gayle E Pitman
Life Isn’t Binary - Meg-John Barker
Redefining Realness: My Path to Womanhood, Identity, Love & So Much More - Janet Mock
Black on Both Sides: A Racial History of Trans Identity - C. Riley Snorton
Pride: The Story of Harvey Milk and the Rainbow Flag - Rob Sanders
Transgender Warriors: Making History from Joan of Arc to Dennis Rodman - Leslie Feinberg
How We Fought for Our Lives: A Memoir - Saeed Jones
Real Queer America: LGBT Stories from Red States - Samantha Allen

4. Cefnogi elusen LHDTC+
Mae yna sawl elusen allwch gefnogi yn ystod Pride, ac mae pa un dewiswch yn lan i chi. Mae yna elusennau LHDTC+ sbesiffig fel rhai sy’n rhoi cymorth cymdeithasol, gofal iechyd, gwasanaethau cyfreithiol ac yn eirioli, ag elusennau sbesiffig am grwpiau sbesiffig yn y gymuned LHDTC+.

5. Gwylio arddangosfeydd ar-lein
Mae mynychu arddangosfeydd yn amgueddfeydd yn ffordd hwyl a rhyngweithiol i ddysgu am hanes y gymuned LHDTC+, ond gan rydym fethu fynychu nhw ar hyn o bryd dyma ddolenni i arddangosfeydd rhyngweithiol digidol ar-lein!
50 Years of Pride: https://www.glbthistory.org/50-years-of-pride
Celf Mickalene Thomas https://thebass.org/art/mickalene-thomas
LGBTQ+ Histories - British Library https://www.bl.uk/lgbtq-histories

6. Cael parti Zoom a’ch ffrindiau yn chwarae artistiaid LHDTC+
Rhan o Pride yw cael parti ag ymuno â’r gymuned yn gorfforol, ac fel na allen ni wneud hynny ar hyn o bryd, beth am gael parti ar Zoom efo’ch ffrindiau? Gallech roi cerddoriaeth LHDTC+ arno yn y cefndir a gwisgo i fyny. Mae hyd yn oed artistiaid yn creu cefndiroedd Pride ar gyfer Zoom, dyma linc:
https://www.itsnicethat.com/features/fredrik-andersson-zoom-backgrounds-pride-2020-converse-illustration-160620
Tip: Ewch i Spotify a chwiliwch am ‘LGBTQ+’ neu ‘Pride Party 2020’, mae hyd yn oed categori Pride nawr ar yr ap!

7. Creu celf
Mae mynegi eich hun yn gallu fod yn cathartig iawn ac yn gallu codi pwysau oddi eich ysgwyddau a bod yn lot o hwyl. Gallech greu collage allan o bapurau, peintio, creu sgets efo pensil, creu crys-T, ysgrifennu cerdd neu gân, canu, dawnsio - arbrofwch gyda beth sydd yn wneud i chi deimlo’n dda!

8. Gwrando ar bodcastiau LHDTC+
Mae poblogrwydd podcastiau wedi ffynnu yn ddiweddar, ac mae sawl sydd yn cael ei rhedeg gan bobl LHDTC+ ac ar gyfer pobl LHDTC+, dyma restr o lond llaw o’r rhai sydd ar gael:

One from the Vaults
Food 4 Thot
Las Culturistas
Queery with Cameron Esposito
The Dorothy Project
Nancy
Bonus: LGBTQ&A

9. Cefnogwch fusnesau/artistiaid LHDTC+
Mae sawl person yn gwerthu dillad, celf, llyfrau ag ati ar gyfer Pride, felly cefnogwch nhw yn lle prynu o gwmnïau fwy - cefnogwch freuddwyd a pherson o’r gymuned! Tip: Os prynwch gynnyrch Pride o fusnes, gwiriwch os mae arian yn mynd i elusen LHDTC+/faint.

10. Ysgrifennwch lythyr i’ch hun neu ffrind:
Gallech ysgrifennu llythyr caredig i’ch hun neu i rywun arall er mwyn edrych drosto pan rydych yn teimlo’n drist neu angen atgoffa pa mor ffab ydych chi. Gall y llythyr fod yn hir neu’n fyr, ac am un rhywbeth. Tip: Ewch ar Pinterest a chwiliwch am ‘self-love letter prompts’ am syniadau.

Elinor Lowri x

Hwyl a Hamdden | Dathlu Hwyl Dan Do
bottom of page