Hwyl a Hamdden | Animeiddio a Fi
Helô! Enw fi ’di Lleucu a dwi’n gobeithio bod pawb sy’n darllen hwn yn iach ac yn cadw eu hunain yn brysur. Mae gorfod aros adre drwy’r dydd a pheidio mynd i’r ysgol yn 100% rhywbeth doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai’n digwydd y flwyddyn yma, ond dyna ni. Dwi’n cymryd bod y rhan fwyaf o bobl fan hyn wedi, ar ryw bwynt, rhedeg allan o bethau i’w gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf ac felly dwi yma i gyflwyno syniad newydd i chi (wel, dau syniad newydd a dweud y gwir). Yn gyntaf, gwylio anime.
Enw: Lleucu Siôn
Oed: 13
Byw: Llandre, Aberystwyth
"...os ydych yn creu sioe ffantasi neu sci-fi mae animeiddio yn rhoi cymaint mwy o ryddid i chi weithio gyda’ch creadigrwydd..."
Os nad ydych yn gyfarwydd gyda beth mae anime’n ei feddwl, yn syml, animeiddiad o Siapan ydi o. Gwnes i gyflwyniad ar hyn yn yr ysgol ddim llawer yn ôl felly mae gen i lot gormod o ffeithiau am anime yn hedfan o gwmpas fy mhen. Ond wir yr, dwi’n meddwl y dylsai pawb roi cynnig ar wylio anime. Mae prif stiwdio anime’r byd, Studio Ghibli, wedi gadael i lawer o’u ffilmiau gael eu rhyddhau ar Netflix yn ddiweddar, felly os oes gyda chi amser dylsech chi roi cynnig ar un neu ddau ohonynt (mae Spirited Away yn un enwog ac wedi ennill Oscar, neu beth am My Neighbour Totoro?). ’Sdim rhaid i chi orffen ei wylio - falle na fydd pawb yn ei hoffi, ond os ydych chi... wel, ’da chi newydd ddarganfod diddordeb newydd!
Mae yna gwpl o animeiddiadau Americanaidd da hefyd - dwi a fy mrawd newydd orffen gwylio Voltron ac mae’n sioe anhygoel i’w gwylio os ydych chi’n hoffi stwff sci-fi. Ond ’nôl at anime. Dwi ’mond di dechrau gwylio ers mis Ionawr, felly dwi bendant heb wylio pob anime posibl. Ond o’r rhai dwi wedi’u gwylio, My Hero Academia yw’r un gorau. Dyma’r anime cyntaf i mi wylio ac mae’n un da i unrhyw un sy’n newydd i sut mae storïau anime’n gweithio (dydi hwn ddim ar Netflix felly mae’n gallu mynd yn boen i ddarganfod lle da i’w wylio). Ond cyn i chi gael sioc, gwyliwch allan - mae llwythi o’r animes ar Netflix wedi cael eu marcio fel rhai â thystysgrif oedran 15. Mewn rhai achosion, mae hyn yn benderfyniad call ond y rhan fwyaf o’r amser dwi’m yn deall pam y byddech chi’n dod ar draws problem
Dwi’n gwybod bod llawer o bobl yn gweld anime fel rhywbeth bach yn od, ond unwaith rydych chi’n dechrau ei wylio fo, rydych chi’n dysgu nad ydi o ddim. Mae animeiddio yn ffurf o ddangos stori sydd yn cael ei gamddefnyddio llawer gormod mewn sioeau teledu. Dwi’n credu bod pobl yn ei weld fel rhywbeth ar gyfer plant ifancach pan, yn y bôn, os ydych yn ei ddefnyddio’n gywir, mae animeiddio’n gallu creu sioeau teledu a ffilmiau sydd yr un mor ddiddorol â rhai sy’n cael eu ffilmio gan ddefnyddio actorion. Ocê, ella na fyddai rhai sioeau, fel operâu sebon, yn gweithio mewn anime, ond os ydych yn creu sioe ffantasi neu sci-fi mae animeiddio yn rhoi cymaint mwy o ryddid i chi weithio gyda’ch creadigrwydd, nid gyda’r hyn sydd yn bosibl gyda ffilmio arferol. Dyma beth mae anime’n ei wneud yn iawn, a’r rheswm pam mae cymaint o bobl yn gwylio anime yw achos bod y storïau yn gymaint, gymaint gwell nag unrhyw animeiddiad sy’n cael ei greu yn y Gorllewin.
Fe wnes i ddweud y byddwn i’n rhoi dau syniad i chi, felly dyma’r ail un - tynnu lluniau neu sgetsio. Dwi wastad wedi mwynhau gwaith celf ond yn ddiweddar dwi wedi dechrau sgetsio cymeriadau mewn steil anime. Os ydych chi wedi trio tynnu lluniau fel hyn heb ddefnyddio unrhyw beth i’w gopïo y tro cyntaf, ’da chi’n gwybod pa mor anodd ydi o. Neu ella mai dim ond fi oedd hynny. Ond unwaith ’da chi wedi dechrau, mae tynnu lluniau, yn enwedig mewn steil anime, yn rhywbeth eitha hawdd i’w wneud, yn enwedig os oes gyda chi rywbeth i’ch helpu - gyda hyn dwi’n golygu’r llyfrau sydd wedi cael eu hysgrifennu’n arbennig i helpu pobl dynnu lluniau anime. Ac ydw, dwi’n sylweddoli bod hynny’n rhywbeth anodd i’w ddarganfod achos bod y siopau i gyd wedi cau, ond mae yna gwpl o wefannau gyda help cam-wrth-gam i chi dynnu lluniau. Cyn i fi orffen, dyma gwpl o syniadau am beth i dynnu lluniau ohonynt:
· Lluniau o sioe deledu ’da chi’n hoffi ei gwylio (dwi’n gwneud hyn o bryd i’w gilydd, mae’n ffordd dda o ddysgu sut mae pobl eraill yn tynnu lluniau o lygaid/gwallt ac ati...)
· Yr un person, ond o onglau gwahanol
· Dillad (byddwch yn greadigol! Dyluniwch ddillad y byddech chi’n hoffi eu gwisgo neu crëwch rai ffantasi/sci-fi)
· Cymeriadau newydd, ac yna ysgrifennwch stori iddyn nhw
Os ydych chi’n gyfforddus â gwneud hynny, rydych yn gallu rhoi lluniau o’r rhain i fyny ar-lein. Dwi’n defnyddio instagram, ond byddai apiau eraill yn gweithio hefyd, dwi’n cymryd.
Diolch am ddarllen hwn i gyd!
Lleucu Siôn x