top of page

Harddwch a Ffasiwn | Mynd Dan Groen

Harddwch a Ffasiwn | Mynd Dan Groen

Mae’n wyliau haf, a phawb yn mwynhau’r haul (pan nad yw Ifan y glaw yn chwarae ei hen driciau!) Ond beth mae oriau yn yr heulwen yn ei olygu i’r croen? Dyma flog gan Nia Edwards, therapydd harddwch o Gaerdydd...

Gall cyfnod yr arddegau fod yn eitha’ stressful, a dweud y lleiaf! Mae’n gorwynt o hormonau, arholiadau a gofidiau delwedd. Mae ein cyrff yn newid yn ystod y glasoed, gan gynnwys ein croen! Felly dyw e byth yn rhy gynnar i ddechrau edrych ar ôl organ mwyaf ein corff… y croen!

Wrth chwilota drwy’r silffoedd yn Superdrug (gol: mae yna siopau eraill ar gael!), gall chwilio’r gofal croen cywir fod yn dipyn o gamp. I allu gofalu am eich croen yn iawn, mae'n bwysig gwybod pa fath o groen sydd gennych. Dim ond wedyn y gallwch chi ddewis y cynhyrchion gofal cywir a mynd i’r afael â chroen problemus.

Pa fath o groen sydd gennych chi?

1. Cyfuniad (combination skin): Teimlo’n olewog ar y T-zone a sych/normal ym mhobman arall.

Yn syml, mae croen fel hyn yn golygu fod y croen yn olewog mewn ambell ran o'ch wyneb a chroen sych mewn ardaloedd eraill. Yn nodweddiadol, mae cymysgedd o ardaloedd olewog a sych ar wahanol rannau o'ch wyneb, gyda'r T-zone (talcen, trwyn, a gên) ychydig yn olewog.
Tip: Mae trin croen sydd â chyfuniad o ardaloedd olewog a sych yn ychydig mwy cymhleth gan fod angen gofalu am y ddau beth ar wahân, does dim one size fits all. Bydd y cynhwysion sy'n amsugno olew neu’n gweithio'n dda ar yr ardaloedd olewog yn achosi trafferthion ar yr ardaloedd sych.

2. Croen olewog: Teimlo’n olewog ym mhob ardal o’ch wyneb.

Wyneb sgleiniog a pores mawr? Mae croen olewog yn cael ei achosi gan sebum. Yn ystod glasoed, mae lefelau androgen uwch yn achosi chwarennau olew o'r croen i aeddfedu, dyma pryd mae’r corff yn dechrau cynhyrchu llawer mwy o olew croen.
Tip: Peidiwch â gwasgu’r smotiau - bydd hyn yn achosi iddyn nhw fynd yn boenus a bydd yn achosi creithiau parhaol! Defnyddiwch gynhyrchion gwrthfacterol.

3. Croen sensitif: Teimlo’n dyner ac yn goch.

Gall croen sensitif waethygu’n hawdd ac mae’n arbennig o sensitif i ddylanwadau amgylcheddol a straen. Gall hyn amrywio o ymddangos yn goch i deimladau o dyndra ac adweithiau alergaidd.
Gall y croen ymddangos yn arw. Mae amhureddau fel smotiau yn llai cyffredin felly.
Tip: Defnyddiwch gynhyrchion ar gyfer croen sensitif sydd ddim yn cynnwys ychwanegion fel persawr.

4. Croen normal: Ddim yn rhy sych nac yn rhy olewog

Dyw’r math yma o groen byth fel arfer yn sgleiniog. Efallai y byddwch chi'n cael smotyn bob hyn a hyn, ond mae hynny'n hollol naturiol pan ydych yn eich arddegau, gan eu bod yn cael eu hachosi gan hormonau. Mae'r cydbwysedd rhwng croen sych ac olewog yn ddelfrydol, mae’n golygu fod y chwarennau sebwm yn gweithio'n dda.
Tip: Mae hyd yn oed croen normal angen y gofal cywir, felly defnyddiwch moisturiser addas.

Gofal piau hi

Nawr eich bod yn gwybod pa fath o groen sydd gennych, dyma gyngor cyffredinol i helpu gyda’ch siwrne…
• Golchwch y croen yn rheolaidd, yn y bore a’r nos
• Peidiwch â defnyddio dŵr poeth i lanhau'r wyneb. Mae hyn yn ysgogi'r chwarennau sebwm i gynhyrchu mwy o olew.
• Cadwch eich dwylo i ffwrdd o’ch wyneb. Fel arall, bydd bacteria yn ymgasglu ar eich croen.
• Gwnewch ddigon o ymarfer corff yn yr awyr iach. Bydd hyn yn cael y gwaed yn llifo i'ch croen ac yn rhoi gwedd ffres i chi!

Eli haul amdani!

Gan gadw’r pwynt pwysicaf nes yr olaf… peryglon pelydrau UV!
Pan o'n i’n typical teenager, do’n i byth yn gwrando ar Mam pan oedd hi’n mynd ‘mlaen a ‘mlaen am wisgo SPF (sori mam!)… ond nawr, fel rhywun sydd wedi troi’n 30 allai ddim pwysleisio’r pwysigrwydd ddigon, yn enwedig gydag ymwybyddiaeth canser y croen ar gynnydd.
Mae croen plant a phobl ifanc lawer mwy sensitif a gan eich bod, yn gyffredinol, yn treulio rhagor o amser yn yr awyr iach, ry’ch chi’n llawer mwy agored i beryglon sy'n gysylltiedig â'r haul.

Mwynhewch yr haul mewn ffordd ddiogel:

• Cofiwch fod yr haul yn fwy peryglus o 11yb nes 4yh, felly cofiwch yr SPF (eli haul neu moisturiser sy’n cynnwys SPF)
• Gall pelydrau UV fod yr un mor niweidiol ar ddiwrnod cymylog
• Ewch i’r arfer o gadw eich eli haul gyda chi, a’i ddefnyddio’n rheolaidd

Mi fydd eich croen mewn 20 mlynedd yn eich diolch!

Nia x

Dilynwch Nia ar Instagram - https://www.instagram.com/beauty.nialowri

Harddwch a Ffasiwn | Mynd Dan Groen
bottom of page