Harddwch a Ffasiwn | Fi Mewn Tri - Mirain Iwerydd
Mae wardrobs merched Cymru yn orlawn, o fargeinion siopa elusen i hen hen ddillad does gynom ni ddim mo’r calon i'w rhoi i ffwrdd. Ond, yn fwy ‘na jest cist llawn defnydd, mae wardrobs merched Cymru llawn storis. Mae pob dilledyn yn geidwad i hanesion difyr ac atgofion melys.
Ymysg y ffasiynol yn swyddfa Radio Cymru Mirain Iwerydd, cyflwynydd o fri sy’n diddanu’r genedl ar ei sioe frecwast penwythnosol.
Cefais y cyfle i sgwrsio gyda Mirain i’w holi pa drysorau sy’n byw yn ei wardrob hi. Cychwynnais drwy ofyn be ydi’r fargen ora’ mae hi wedi dod ar ei draws, ac yna ymddangoswyd siaced yn y piws mwyaf llachar erioed!
Mirain Iwerydd:“Wnes i gael hwn mewn siop elusen yn Aber am £5! Fi jest yn meddwl fod e’n hyfryd achos mae e’n fully-lined, mae e’n rili safonol a oedd e’n £5! Stori ddoniol... nath ffrind fi ffeindio fe’n wreiddiol, ond oni ‘di cwympo mewn cariad ar ôl i fi weld e, nes i snatchio fe mas o'i dwylo hi! Mae o fel stolen jacket dipyn bach, ond nes i ofyn iddi ‘ti’n siŵr ti ddim moyn e?’ a odd hi fel ‘na mae o’n fine, gei di fe’ ond dwi wedi cynnig bod hi’n gallu rhannu’r siaced. Dwi yn absolutely caru’r siaced yma a oedd e ‘mond yn £5!”
Llio Angharad: Pan ti’n disgyn mewn cariad efo dilledyn, does ‘na ddim byd yn gallu cal yn y ffordd nagos?
MI: Yn union, oni jest fel OMG ‘ma rhaid i fi gal hwnna, ma rhaid i fi gal e!
LA: Be ydi’r dilledyn efo’r atgofion mwyaf melys?
MI: Fi ‘di dewis y par o ddyngarîs ‘ma. Wnes i wnïo’r rhain allan o hen gyrtans yn ystod y lockdown cyntaf. Odd dim syniad be oni’n neud efo peiriant wnïo yn ystod y lockdown cyntaf, wnes i jest gweld y rhain [y cyrtans] yn tŷ fi a meddwl ‘hei, fydda nhw’n neud dilledyn rili col’. Ac wedyn wnes i fideo Hansh, ac wedyn dyna sut wnes i ddechre yn y byd cyflwyno. Ma’ rhain wastad yn dod ag atgofion rili rili melys i fi achos dyna’r tro cynta pan wnes i rain oni fel ‘hei, fi’n actually rili joio cyflwyno a ma’ pobl eraill yn meddwl dwi ddim too bad yn neud e’, ma’ popeth fi di neud yn y byd cyflwyno ar y radio a phethe fi fel kind of yn diolch am hwnna i gyd i'r rhain. A ma nhw’n rili cosy a’r peth cynta wnes i wnïo! Dwi wedi cwympo mewn cariad efo gwnïo ar ôl creu'r rhain.
LA: Ma’ cyrtans yn neud y dillad gora’!
MI: Ma’r defnydd mor safonol, yn eitha trwchus rili. Ond fi ‘di dinistrio'r rhain trwy roi nhw yn y golch gormod! Wnes i wneud y rhain cyn i fi ddysgu shwt i drin ffabrig yn iawn felly fi’n madda’ i fi’n hunan am hwna! Fi ddim rili’n gwisgo nhw lot rŵan achos fi moyn cadw nhw.
LA: Pa ddilledyn ti’n ei wisgo fwya?
MI: Odd ‘na lot o betha gallen i wedi ei ddewis i hwn achos bo fi yn dueddol o jest wisgo’r run outfits, ond dwi wedi dewis siaced o Lucy and Yak. Fi jest constantly gwisgo achos fi jest yn caru’r siaced yma. Un, mae o jest rili cyffyrddus ac er mae o’n rili blodeuog, mae o’n mynd efo popeth. A dwi’n caru dillad Lucy and Yak. Ma’ hanner wardrobe fi ar hyn o bryd yn Lucy and Yak! Os ti’n edrych ar Instagram fi (@mirainiwerydd), fi’n gwisgo’r siaced yma fel pum gwaith! Ond ma’ ‘na loads o bethe gallen i wedi ei ddewis achos fi’n gwisgo’r run outfits on repeat a fi’n cal y mwyaf mas o ddillad fi fi’n gallu. Os dyw e ddim yn cwympo ar led wedyn fi’n cadw fe ac yn ei wisgo fe!
Wrth edrych drwy gyfrif Instagram Mirain, mae’n amlwg iawn tasa ei dillad yn gallu siarad fydda nhw byth yn stopio siarad am ei anturiaethau. Tybed pa atgofion fydd ei dillad yn hel wrth iddi fynd o nerth i nerth fel cyflwynydd dros y blynyddoedd nesaf?