top of page

Harddwch a Ffasiwn | Cwrls gyda Bethan Wyn

Harddwch a Ffasiwn | Cwrls gyda Bethan Wyn

Ar ôl treulio fy arddegau a blynyddoedd wedi hynny yn casáu fy ngwallt cwrl naturiol, dwi wedi dysgu i gofleidio a charu fy nghwrls dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wir wedi gwneud bywyd yn haws!

Pwy sy tu ôl i @cwrls_?
Bethan Wyn ydw i a dwi’n rhedeg tudalen instagram @cwrls_ lle dwi’n rhannu fy nhaith yn dilyn dull y ferch gyrliog (the curly girl method) gan rannu gwybodaeth a gwersi dwi wedi - ac yn parhau - i’w dysgu! Dwi wedi bod yn dilyn y dull o ddifrif ers mis Awst 2019 ac mae wedi trawsnewid fy ngwallt a (heb drio sowndio’n rhy cheesy!) fy mywyd. Soniaf ymhellach am y dull islaw, ond yn gyntaf, ychydig mwy am gefndir y dudalen!

Cymuned y Cwrls
Bellach, gyda dros 1,000 o ddilynwyr, mae gennym ni gymuned o gwrls ar instagram yn rhannu awgrymiadau, triciau, technegau, adolygiadau ac argymhellion. Bydden i’n awyddus iawn i herio unrhyw un sy’n meddwl mai rhywbeth ‘arwynebol’ yw’r dudalen - nid dyma’r lle i ddathlu delweddau “perffaith” ond yn hytrach i ddathlu ein bod ni oll yn wahanol, bod pob cwrl yn wahanol, a bod hynny yn rhywbeth i’w glodfori. Mae ein gwallt yn rhan annatod o’n hunaniaeth ni - ac mae derbyn eich gwallt naturiol o oedran ifanc - waeth pa bynnag wallt sydd gennych chi - yn holl bwysig, yn angenrheidiol y bydden i’n ei ddadlau nid yn unig i’r hunan hyder ond hefyd i greu byd sy'n llawer mwy derbyniol.

I fi yn bersonol, fel y soniais ar y dechrau, treuliais flynyddoedd o oedran ifanc yn casáu fy ngwallt, yn meddwl bod gen i wallt anffodus. Ond dydych chi ddim yn gallu fy meio am fod wedi meddwl hynny wrth ystyried y negeseuon mae cymdeithas yn ei rhoi am wallt cwrl. Rydych chi ond yn gorfod rhoi mewn i Google, er enghraifft, beth y dylech ei wneud a’ch gwallt ar gyfer cyfweliad neu gyflwyniad proffesiynol, ac yn fwy aml na pheidio, yr hyn sy’n dod lan yw y dylid sythu’ch gwallt ac osgoi ei adael yn ei stad naturiol oherwydd yr ystyron mae cymdeithas wedi’u benodi iddo. Ond, diolch i’r drefn, mae’r negeseuon rheiny yn dechrau newid. Boed yn ginc, yn donnau, yn ringlets neu’n afro, mae gennym ni wallt sy’n wahanol bob dydd, gwallt sy’n gwbl unigryw i ni, ac mae’n bwysig i ddysgu i ddathlu ac i garu ein cwrls.

Dull y Ferch Gyrliog
Mae dull y ferch gyrliog (DFG) yn gyfres o arferion ar gyfer eich gwallt sy'n bennaf yn addo ehangu’r cwrl naturiol. Cyhoeddwyd y dull yn 2007 gan Lorraine Massey mewn llyfr sydd bellach yn enwog; ‘Curly Girl: The Handbook’. Mae'n ddull gofal gwallt sy'n cyfnewid arferion niweidiol gyda gwallt cyrliog iach, gan ddefnyddio cynnyrch maethlon yn unig heb sylffadau a silicon. Mae llawer o bobl sydd â gwallt tonnog yn cychwyn ar eu taith ar DFG ac yn darganfod mewn gwirionedd bod ganddyn nhw wallt cyrliog!

Mae yna GYMAINT o wybodaeth mas yna am y dull, mae'n hawdd iawn mynd ar goll. Mae’n deg i ddweud bod y dull yn daith ac yn ffordd o fyw yn hytrach na quick fix. Er fy mod wedi bod yn dablo ers 2017, yn Awst 2019 wnes i ddechrau cymryd y peth o ddifrif a does dim mynd nôl rhagor. Ar ôl blynyddoedd o drio brwsio gwallt cwrl sych fel plentyn (naaaaaa!!), i’r gwallt extra crispy yn fy arddegau cynnar, i’r sythwyr ac yn benodol i fi - y cyrlyrs, y lliw ac yna’r blow dry’s, mae fy ngwallt wedi bod drwy lot! Wrth ddilyn y DFG, mae fy ngwallt y mwyaf iach a’r mwyaf cyrliog y mae e wedi bod erioed ac megis dechrau mae’r siwrne mewn gwirionedd!

Cyngor y Cwrls
Un o’r pethau cyntaf i dalu sylw iddo wrth ddechrau ar ddull y ferch gyrliog ydy’r set o reolau creiddiol isod sy’n cynnwys pa gynhwysion i'w hosgoi a'u cofleidio. Drwy ddilyn y rheolau yma, byddwch yn gwella ac yn annog patrwm cyrlio naturiol eich gwallt.

Felly, i’ch rhoi ar ben ffordd, dywedwch NA wrth y pethau yma:

NA i gynnyrch sy’n cynnwys sylffadau!
NA i gynnyrch sy’n cynnwys silicon!
NA i wres, po uchaf y gwres, po fwyaf bo’r difrod!
NA i frwsio’ch gwallt yn sych!
NA i dywelion!
NA i alcoholau sy’n sychu!

Dywedwch 'IE'
IE i grys-T cotwm neu dywel microfibre i sychu’ch gwallt!
IE i grib dannedd llydan neu frwsh Denman - yn y gawod yn unig!
IE i lanhawr di-sylffad!
IE i ddefnyddio olew i ychwanegu lleithder!
IE i gynnyrch sy’n cynnwys protein!
IE i wasgu cynnyrch i mewn i’ch gwallt er mwyn annog y cwrl!

Ac yn bwysicach oll...

IE i garu eich cwrls!

Cofiwch, gallwch chi sythu eich gwallt ac efallai y byddwch yn hapus ag e am ddiwrnod, ond dysgwch i ofalu am eich gwallt naturiol a byddwch yn hapus am weddill eich oes!

Bethan Wyn
Instagram: @cwrls_

Harddwch a Ffasiwn | Cwrls gyda Bethan Wyn
bottom of page