top of page

Cymuned | Y Pump: Adolygiad Tim

Cymuned | Y Pump: Adolygiad Tim

Cip ar gyfres Y Pump

Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.

Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan pum awdur a chyd-awdur ifanc yw Y Pump sy'n dathlu amrywiaeth Cymru heddiw, gan archwilio pynciau fel hil, rhyw ac iechyd meddwl.

Cadwch lygad allan am sgyrsiau ac adolygiadau ar #LyshCymru yn ddyddiol yr wythnos yma. A dyma'r cyntaf!

Wedi ei swyno gan nofel 'gelfydd' sy'n gymysg o 'hiwmor ffraeth' ac 'emosiwn dwys', dyma adolygiad Glain Llwyd o Tim.


Elgan Rhys a Tomos Jones yw awduron Tim a dyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres newydd ‘Y Pump’ o wasg Y Lolfa. Mae’r ddau wedi cydweithio i greu nofel bwerus a ffres sy’n delio gyda phrofiadau arddegwr sy’n teimlo nad yw’n perthyn mewn cymdeithas.


Tynnodd glawr deniadol y cynllunydd Steffan Dafydd fy sylw yn syth, gyda’i liw oren llachar ac amlinelliad o ben Tim yn fwrlwm o ffrwydradau tân gwyllt. Credaf fod y clawr yn ffitio’n berffaith i naratif y nofel, gan awgrymu’r rhwystredigaeth sy’n bodoli ym meddwl y prif gymeriad.


Nofel ‘coming of age’ yw Tim a chawn ein tywys i fyd bachgen 16 oed awtistig wrth iddo geisio gwneud ffrindiau yn ei ysgol newydd. Mae’n nofel sy’n denu’r darllenwr i chwerthin gydag adegau o hiwmor ffraeth, ond yna yn sydyn, cawn ein cyffwrdd gan emosiwn dwys a chael ein llorio gan sefyllfa fregus y bachgen ifanc yma.

Mae Tim yn cymryd pob dim yn llythrennol, ac mae’r awduron yn llwyddo i gyfleu hyn yn gelfydd yn y nofel. Mae hon yn nofel gyfoethog o ran iaith, a chefais fy swyno gan y ffordd mae emosiynau a’r ffordd mae Tim yn gweld y byd yn cael eu cyfleu trwy liwiau gan yr awduron, ‘Mae Mam yn chwerthin oren tawel’ a ‘gwenu glas golau’. Gwnaeth y ffaith fod Tim yn dwlu ar gomics a byd cymeriadau Marvel apelio ataf yn syth gan fod gen i dipyn o ddiddordeb yn y maes yma hefyd.

Wrth i’r nofel ddatblygu cawn ein cyflwyno i griw ffrindiau newydd Tim, sef gweddill cymeriadau Y Pump; Tami, Aniq, Robyn a Cat. Y pump yma yw prif gymeriadau’r nofelau yn y gyfres, a gan i mi gael cymaint o flas ar ddarllen Tim, dwi wir yn edrych ymlaen at ddarllen y gweddill. Rwy’n hoff o’r ffaith ein bod yn cael ein cyflwyno i’r cymeriadau yn y nofel gyntaf yn y gyfres, ac rwy’n ysu i gael dod i’w adnabod yn well wrth ddilyn eu straeon personol nhw yn y pedair nofel arall. Mae’r pump yn gymeriadau difyr, ond roeddwn wrth fy modd gyda chyfeillgarwch Tim a Robyn yn arbennig. Mae Robyn yn gymeriad llawn hiwmor ac anwyldeb ac mae Tim yn ei ddisgrifio fel ‘mab Bobby o Queer Eye’!

Credaf fod y nofel hon yn rhoi sylw teilwng i awtistiaeth, gan annog y darllenwr i geisio gwella dealltwriaeth a rhoi sylw i’r lleisiau nad sy’n cael eu clywed ddigon aml yn ein cymdeithas heddiw. Fe wnes i fwynhau darllen Tim yn fawr iawn, gan chwerthin a chrio wrth ddilyn stori'r bachgen ifanc diddorol yma. Mae Elgan Rhys a Tomos Jones wedi llwyddo i wneud i mi deimlo fel rhan o griw Y Pump!

Tim gan Elgan Rhys a Tomos Jones

Rhan o gyfres Y Pump, gwasg Y Lolfa

£5.99

Cymuned | Y Pump: Adolygiad Tim
bottom of page