top of page

Cymuned | Y Flwyddyn a Fu, ac Sydd i Ddod

Cymuned | Y Flwyddyn a Fu, ac Sydd i Ddod

gan Lleucu Non

Er gwaethaf bod Covid yn dal o gwmpas, mae 2021 wedi profi i fod cymaint gwell na 2020 i mi. Mae wedi bod yn flwyddyn fyrlymus, gyffrous (i gymharu â llynedd) ond wedi bod yn ychydig o rollercoaster a dweud y lleiaf.

Dyma flwyddyn sydd wedi dilyn blwyddyn eithriadol o flinderus, mewn ffyrdd gwahanol i bobl. Roedd rhai cyfnodau’n gallu teimlo’n anobeithiol, unig a hyd yn oed yn rhwystredig iawn. Ond, mae pethau da, os nad bendithiol, wedi dod o’r flwyddyn hon. Heb os, mae dyddiau gwael wedi bod o dro i dro fel pob blwyddyn, mae’n anochel, ond mae’r dyddiau hynny’n gyfle gwych i ddod i adnabod fy hun yn well a dysgu sut i barhau a goroesi.

Fel myfyriwr, rydw i wir wedi gallu mwynhau bywyd prifysgol ers y Pasg eleni. Ond, roedd wir wedi gwella ers mis Medi; dim rheolau chwe pherson i bob bwrdd, pob rhan o’r llyfrgelloedd ar gael, mwy o gyfleoedd i dreulio amser efo ffrindiau, rydw i wedi bod ar gampws bob dydd a wir wedi gallu dod i adnabod fy narlithwyr yn well (er gwaethaf y ffaith ein bod yn gwisgo mygydau o’u cwmpas). Llynedd, roedd gen i ofn cymdeithasu, roeddwn i’n nerfus i ddod i adnabod pobl, roeddwn i am y rhan helaeth o’r flwyddyn academaidd yn byw a bod yn fy ystafell ym Mhantycelyn yn syllu ar sgrin annynol. Y gwrthwyneb sy’n digwydd eleni. Yn sicr, rydw i’n berson llawer hapusach eleni! Wrth gwrs, mae Covid yn dal i fod o’n cwmpas fel melltith ond mae rhyddid gennym ni nad oedd yno gymaint yn 2020.

Wrth y llyw - Lysh Cymru
Wel, dyma brofiad bythgofiadwy! Braint lwyr oedd gweithio i Lysh fel golygydd gwadd dros yr haf. Rydw i’n ddiolchgar iawn o’r rhyddid a gefais i drefnu’r eitemau. Yr hyn oedd bwysicaf i mi oedd dewis a gweithio ar themâu neu faterion sy’n gyfoes a phwysig i ferched ifanc Cymru gyda’r gobaith o fod yn gymorth, yn ddarllen da, eich cynrychioli chi ac eich ysbrydoli. Cefais yr amser gorau’n trefnu’r holl eitemau!

Pan gafodd y syniad o gyhoeddi rhywbeth am gyfres ‘Y Pump’ ei gynnig i mi, roeddwn i’n gwybod ei fod yn syniad gwych! Roeddwn i’n benderfynol o wneud eitem am bob un o’r llyfrau yn hytrach na un neu ddau ohonynt yn unig. Mae cynrychiolaeth eiconig yn y gyfres a’r hyn a gawn ni ydi byd amrywiol pump o bobl sy’n arddangosfa o’r byd sydd o’m cwmpas. Ond byd mae llawer o bobl yn mynnu anwybyddu a thanseilio, fel mae llawer yn mynnu anwybyddu’r broblem cynhesu fyd-eang. Dyma gyfres sy’n addysgiadol a lle rydych chi’n mynd i weld eich adlewyrchiad mewn rhyw ffordd.

Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i Llinos a thîm Lysh Cymru, i’r holl gyfranwyr; Begw Elain, Rebecca Roberts, Mabli Siriol, Mari Gwenllian, Kayley Syndenham, Glain Llwyd, Brengain Glyn, Mahum Umer, Marged Elen, Elain Gwynedd, Mared Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Bronwen Clatworthy, Megan Angharad Hunter, Maisie Awen, Mirain Iwerydd, Llio Elain Maddocks a Meinir Mathias!

Peth gorau wnes i?
Ag eithro gweithio i Lysh? Ysgrifennu stori fer ar gyfer rhifyn gaeaf Codi Pais! Stori fer am ferch yn cael ei sbeicio – pwnc andros o bwysig. Roeddwn i’n nerfus ti hwnt wrth anfon y gwaith ac i weld ymateb pobl!

Peth mwyaf annisgwyl a wnes i?
Gwneud carioci am y tro cyntaf! Mewn bar yn canu Mamma Mia gydag un o’m ffrindiau gorau o flaen dwn i’m faint o bobl, wnes i synnu pawb gan gynnwys fi fy hun! Un o’r nosweithiau prin lle roeddwn i’n teimlo’n gwbl rydd, hyderus ac ysgafn heb boeni beth roedd pobl yn ei feddwl.

Gwers fwyaf o’r flwyddyn?
Fel 2020, wnes i barhau i ddysgu i beidio cymryd pethau’n ganiataol. Yn dilyn darganfyddiad yr amrywiolyn Omicron a mesuriadau’n dechrau cael eu rhoi mewn lle, rydw i wedi dysgu i barhau i weithredu’n ofalus i ddiogelu fy hun ac eraill. Mae rhai ohonom wedi mynd dros ben llestri ac mae’n rhaid i ni gofio bod pobl yn dal i ddioddef a marw o Covid.

Hoff lyfr Cymraeg?
Mae gen i 6. ‘Hen Chwedlau Newydd’ ac ‘Y Pump’. Straeon am ferched y chwedlau gwreiddiol yn ein byd modern ydi ‘Hen Chwedlau Newydd’ a dyma gyfrol wych sy’n rhoi llais i’r merched yna a gafodd eu gorthrymu gan y Batriarchaeth ac i godi ymwybyddiaeth am y problemau sy’n dal yn effeithio ar ferched.

Hoff lyfr Saesneg?
The Dinner Guest gan B P Walter. Mae pedwar wrth y bwrdd, dau bartner, eu mab a dieithryn. Erbyn diwedd y noson, tri sy’n goroesi! Cyffrous ta be?!

Hoff ffilm?
Yr unig ffilm newydd rydw i wedi’i weld eleni ydi ‘Eternals’, felly mae’r dewis yn un hawdd a diffwdan. Rydw i’n edrych ymlaen at ddal i fyny efo’r holl ffilmiau rydw i wedi methu megis Black Widow, y James Bond diweddaraf a Dune.

Hoff raglenni teledu Saesneg?
‘It’s a Sin’, ‘The Pursuit of Love’ a ‘Professor T’. Dyma gymysg o fathau o raglenni; bywgraffiadol, comedi, rhamant, teulu a throsedd. Wir yn argymell y tair rhaglen!

Hoff raglenni teledu Cymraeg?
‘Canu gyda fy Arwr’, ‘Ffit Cymru’ (cyfres eleni), ‘Iaith ar Daith’ (cyfres eleni). Yma mae cyfresi ysgafn ac adloniadol Cymreig. Yn sicr, ‘Iaith ar Daith’ ydi un o’m ffefrynnau gan ei fod yn dangos nad yw dysgu Cymraeg yn amhosib ac yn rhoi hyder i ddysgwyr dwi’n gobeithio!

Hoff gân/albwm Gymraeg?
Uno, Cydio, Tanio gan Sŵnami. Bop a hanner! Rydw i’n edrych ymlaen at fwy o waith gan y band gwych yma!

Hoff gân/albwm Saesneg?
‘Between Us’ gan Little Mix. Dyma fand sydd wedi gwneud hanes eleni: y grŵp benywaidd cyntaf i ennill gwobr Brit am Y Grŵp Orau! Mae’r albwm hwn yn dathlu eu deg mlynedd sy’n cynnwys y caneuon gorau/mwyaf poblogaidd ganddyn nhw. Mae caneuon newydd sbon hefyd ac maen nhw’n ganeuon llawn hunanhyder, agwedd ‘cymryd dim lol’ a girl power!

Cymerais 2021 fel cyfle anferthol i wireddu’r aduniadau a rois i mi fy hun ar ôl dysgu sawl gwers gan 2020. Mae mwy o aduniadau i’w gwireddu ac rwy’n gobeithio y bydd 2022 yn gyfle’r un mor anferthol. Rwy’n gobeithio eich bod chithau wedi cael blwyddyn dda ac yn gobeithio y cewch chi flwyddyn cystal os nad gwell yn 2022.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Lleucu Non x

Cymuned | Y Flwyddyn a Fu, ac Sydd i Ddod
bottom of page