top of page

Cymuned | Pawen Lawen i Little Women

Cymuned | Pawen Lawen i Little Women

Mis Rhagfyr, cafodd ffilm wedi’i selio ar lyfr Louisa May Alcott, Little Women ei ryddhau, ac rydw i wedi cael y pleser o fynd i’w weld!

Cefndir
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1868 ac 1869. Stori am deulu a bywydau Jo March, ei chwiorydd; Meg, Amy a Beth a’i mam, Marmee March ydyw. Mae’r llyfr wedi ei seilio yng nghyfnod Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783) ac mae’r merched tlawd yn ceisio byw eu bywydau heb eu tad, sy’n brwydro yn y rhyfel. Ar draws y stori, maen nhw’n cyfarfod Laurie (Teddy) sy’n ŵyr i’r dyn cyfoethog (Mr Lawrence) sy’n byw ar draws y cae, John Brooke a Frederick Bhaer, sy’n newid bywydau’r merched.

“Women... They have minds, and they have souls, as well as just hearts and they’ve got ambition and they’ve got talent as well as just beauty. And I’m so sick of people saying that love is just all a woman is fit for. I’m so sick of it!” – Jo March (Little Women)

Y Cast Delfrydol
Jo March – Saoirse Ronan
Meg March – Emma Watson
Amy March – Florence Pugh
Beth March – Eliza Scanlen
Marmee – Laura Dern
Laurie/Teddy – Timothée Chalamet
John Brooke – John Norton
Friederick Bhaer – Louis Garrel
gyda
Aunt March – Meryl Streep

Gyda’r cast gwych yma, mae’r actorion, gydag arweiniad Greta Gerwig wedi creu campwaith sydd wir yn cynrychioli naturioldeb y llyfr. Mae trysor Louisa May Alcott wedi cael ei drin fel diemwnt llenyddol gan yr actorion i gyd. Oherwydd bod y stori amserol yma wedi cael ei ymgorffori mewn ffordd mor naturiol yn y ffilm, mae naturioldeb bywyd cyffredin y cymeriadau o’r nofel yn neidio ar y sgrîn sy’n ei wneud yn ffilm gofiadwy. Nid oes unrhyw actor yn sefyll allan fel y gorau, mae pob un actor yn gwneud cyfiawnder â'r cymeriadau mae pobl yn eu caru ers 1869.

Yn enwedig â’r prif gymeriadau, mae’r actorion i gyd wedi gwneud yn siŵr bod gwahaniaeth clir ym mhersonoliaethau’r merched. Cawn weld amrywiaeth rhwng y pedair o ran tymer a thalent. Mae Meg (yr hynaf) yn theatraidd ac yn gyfrifol; mae Beth yn gerddorol ac yn annwyl; mae Amy yn arlunydd ac mae Jo yn awdures. Y neges gref ac amserol mae hyn yn ei gyfleu i ni, ac yn enwedig yn yr oes yma ydi nad ydi pres yn arwain i dalent. Roedd y merched yma’n byw mewn tlodi ond nid oedd hynny wedi rhwystro un o’r chwiorydd i fyw eu bywydau fel y roedden nhw eisiau.

Cyfarwyddwr
Mae Greta Gerwig wedi dod yn gyfarwyddwr adnabyddus yn y ddegawd ddiwethaf, yn enwedig gyda’r ffilm Lady Bird (2017) lle cafodd enwebiad Oscar am y Cyfarwyddwr Gorau. Er na chafodd Greta Gerwig enwebiad Oscar am y Cyfarwyddwr Gorau am Little Women eleni cafodd enwebiad am y Sgript Ffilm Orau wedi’i Haddasu, sy’n ddyledus i’w chrefft unigryw. Mae cyfarwyddo Gerwig wedi creu darn annibynnol ac unigryw yn y diwylliant poblogaidd yma. Stereoteip ar gyfer y math yma o ffilm a llyfr (sef un â merched yn brif gymeriadau) ydi mai dim ond stori gariad cymhleth a thlodi sy’n mynd i fod ynddi. Wrth gwrs, mae hyn yn allweddol yn y llyfr a’r ffilm, ond mae themâu megis teulu, cyfeillgarwch a chymdeithas yn amlwg yma ac mae Greta Gerwig wedi cymryd yr awenau i ddangos hyn yn glir iawn, ynghyd ag ychwanegu’r hiwmor naturiol sy’n deillio o’r llyfr.

Yn dilyn strwythur y ffilm, mae Gerwig wedi gwneud gwaith rhagorol ar y ffilm ac yn amlwg wedi rhoi ymdrech i ail-ddweud y stori mewn ffordd newydd. Yn bersonol, dylai bod Greta Gerwig wedi cael ei henwebu am Bafta, Oscar a Golden Globe ar gyfer Cyfarwyddwr Gorau a Sgript Ffilm Orau wedi’i Haddasu.

“Greta is a wonderful writer... Greta is so emotionally intelligent which is key for something like this.” – Saoirse Ronan

Strwythur
Yn wahanol i’r llyfr ac addasiadau eraill, yr addasiad yma yw’r unig un sy’n neidio o’r presennol i’r gorffennol. Egyr y ffilm wrth gyflwyno Jo saith mlynedd ar ôl cychwyn y stori. Nid ailwneuthuriad o addasiad 1994 mohoni. Credaf yn gryf fod y strwythur yma’n dangos meddwl creadigol a gwreiddiol Greta Gerwig gan ein bod yn gweld datblygiad y cymeriadau a sut mae eu bywydau yn y presennol yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau’r gorffennol fel mae’r stori’n mynd yn ei flaen. Mae’r defnydd o olau rhwng y ddau gyfnod (y presennol a’r gorffennol) yn andros o effeithiol oherwydd ei fod yn cyfleu sut rydyn ni’n cofio ein hoff adegau mewn ffordd neu mewn golau mwy positif na’r byd rydyn ni’n byw ynddi yn y presennol. Nid yn unig mae’r strwythur yn rhoi egni newydd i’r stori ond mae’n gwneud i’r gynulleidfa dalu sylw hefyd.

Cawn ymdeimlad o fywyd y 19eg ganrif ond ag ymdeimlad modern hefyd. Wrth gwrs, mae hyn yn cael ei deimlo wrth ddarllen y llyfr sydd yn fwy na thebyg yn ffactor fawr i lwyddiant y llyfr a’r ffilm. Trwy’r ffilm, roeddwn i’n gallu cydymdeimlo neu cyd-ddeall yr hyn roedd yn digwydd i’r merched cryf yma.

Cerddoriaeth a Gwisgoedd
Fel gweddill y ffilm, roedd y gerddoriaeth a’r gwisgoedd yn gampwaith hefyd. Mae Alexandre Desplat yn gyfarwyddwr gwych sydd wedi cyfarwyddo cerddoriaeth ar gyfer amryw o ffilmiau enwog fel The Imitation Game, The Guardians of the Galaxy a Suffragette, felly mae cyfarwyddo ar gyfer y ffilm yma ond yn cyfleu ei dalent fel cyfarwyddwr. Gwelwn ei ddylanwadau Ffrengig yng ngherddoriaeth y ffilm ac wrth gwrs mae hyn yn berffaith ar gyfer y ffilm i gyfleu a chyfosod pob emosiwn sy’n cael ei gyflwyno yn y ffilm ac i gyfleu’r cyfnod o’r deunawfed ganrif. Mae’r gwisgoedd yn gwneud hyn hefyd gan ddefnyddio deunyddiau cywir ar gyfer y gwahanol adegau yn y ffilm ac ar gyfer y cymeriadau gwahanol. Gwelwn ddisgwyliadau cymdeithas yn glir drwy’r dillad a thrwy agwedd y cymeriadau tuag at eu gwisgoedd. Yn sicr, roedd Jacqueline Durran yn haeddu’r Oscar am y gwisgoedd.

Felly, rydw i WIR yn argymell i chi fynd i weld y ffilm gan ei fod yn dangos datblygiad Louisa May Alcott fel dynes i ysgrifennu am ferched gan roedd y syniad o gael merched fel awduron yn newydd ar y pryd. Yn sicr, mae’r neges gref bod angen datblygiad pellach yn y gymdeithas i dderbyn merched ym mhob maes neu ym mhob ffordd yn glir yn y ffilm. Ffilm wych am ferched wedi’i wneud gan lawer o ferched!

Cymuned | Pawen Lawen i Little Women
bottom of page