top of page

Cymuned | Melys, Moes, Matilda!

Cymuned | Melys, Moes, Matilda!

Matilda - ffilm sydd allan ers oes pys slwtsh (ers cyn fy ngeni!) ond i fi, mae’r ffilm oesol, ryfeddol a hudolus sy’n seiliedig ar nofel gan Roald Dahl yn dal i apelio i blant ac oedolion o bob oed heddiw. Mae’r cymeriadau’n cipio dychymyg. Yr erchyll Agatha Trunchbull, y llyfrgellydd caredig, Mrs. Phelps, y brawd mawr annifyr Mikey, yr athrawes ryfeddol, berffaith, Miss Honey. A phwy all anghofio’r hud? Mae’n freuddwyd i bob plentyn, mae’n siŵr gen i, i geisio gwyrdroi anghyfiawnderau bywyd gydag ychydig o hud a lledrith. Pe bawn i ond fel Matilda, yn gallu rhoi popeth yn iawn gyda phwerau hud!

Mae bywyd fel plentyn yn wych ac yn hapus (ar y cyfan) ac yn gyffrous ond yn frawychus hefyd. Ac yn Matilda fe welwn bob elfen o blentyndod yn disgleirio gan berfformiadau chwerthinllyd, dros-ben-llestri Danny DeVito (tad Matilda), Rhea Perlman (mam), a Pam Ferris (Ms Trunchbull, y pennaeth). Oes, mae yna elfen frawychus i'r ffilm - yr helfa yn nhŷ Ms. Trunchbull; y "Chokey"; yr olygfa arswydus o Matilda yn dwyn "Lizzie Doll" yn ôl oddi wrth Ms Trunchbull wrth ‘arswydo’ ei thŷ. Digon i roi llond twll tin o ofn ond er gwaethaf hyn, ry’n ni’n GWYBOD yn y bôn - Matilda a Miss Honey a'u ffrindiau i gyd fydd yn fuddugol.

FFILM SY'N TICLO'R 'FFANTASI'
Mae'r ffilm hon yn ffantasi hollol wych. Ro’n i wrth fy modd yn llwyr. Mae'r sgwrsio’n wych a’r hiwmor yn feiddgar, ac yn gynnil. Mae’n ffilm dwi’n mynd yn ôl ati dro ar ôl tro, ac sy’n gwneud i mi ‘Roald-io’ chwerthin! Mae Matilda yn cyfleu'n berffaith sut brofiad yw bod yn berson deallus, yn sownd yng nghorff plentyn, a'i amgylchynu gan dwmffatiaid sy'n rheoli llawer gormod o'ch bywyd.

Mae'r syniad hefyd bod pobl ddrwg (hyd yn oed oedolion) yn haeddu cael eu cosbi am eu ffyrdd drwg (hyd yn oed gan blant) yn wirioneddol wrthdroadol. Bydd unrhyw blentyn sydd wedi dioddef trwy gamdriniaeth nodweddiadol ddi-ri gan rieni di-feddwl, di-ofal ac anwybodus wrth eu bodd â'r ffilm hon. Mae'n debyg y bydd yr un rhieni di-feddwl, di-ofal ac anwybodus yn casáu'r ffilm hon, oni bai eu bod yn ddigon doeth i weld y gwir y tu ôl i'r ffantasi.

Er gwaethaf yr anawsterau y mae Matilda yn eu hwynebu, fel pob ffantasi da, mae diweddglo rhyfeddol o hapus i'r ffilm hon. Dymunaf yr un peth i bawb yn y byd!

Deg allan o ddeg, Da-hl iawn wir!

FFEITHIAU DIFYR CYN CAU PEN Y MWDWL...
• Mae rhannau rhieni Matilda yn cael eu hactio gan Danny Devito a Rhea Perlman, sy’n briod mewn bywyd go iawn.

• Roedd Pam Ferris yn amlwg yn gorfod actio’n flin ac yn gas yn ystod y ffilmio fel Agatha Trunchbull, ond fe wnaeth hi ‘actio’ yn yr un modd oddi ar gamera er mwyn i’r plant fod yn wirioneddol ofnus ohoni go iawn wrth ffilmio.

• Mae Danny Devito nid yn unig yn chwarae rhan Mr Wormwood, mae hefyd yn lleisio’r adroddwr ac ef oedd cyfarwyddwr y ffilm.

• Mae’r paentiad o Magnus yn nhy Trunchbull yn bortread go iawn o Roald Dahl, awdur Matilda cyn iddo ddod yn ffilm.

Cymuned | Melys, Moes, Matilda!
bottom of page