top of page

Cymuned | Lodes Lysh: Lili Jones

Cymuned | Lodes Lysh: Lili Jones

Mae creadigrwydd yn rhan o Lili Jones erioed, ac er i'r Coronafirws darfu ar ei chwrs TGAU, mae hi wedi bod yn ddigon prysur gyda'i busnes, Bodoli, dros y cyfnod diwethaf. Dyma ddysgu rhagor am y lodes Lysh yma...

Beth yw dy enw di?
Lili Jones

Oedran: 16

Ble wyt ti’n byw?
Tycroes, Rhydaman

Prynais i Bodoli ym mis Hydref 2018 pan o’n ni’n 14 mlwydd oed. Ry’n n’n gwerthu llawer o bethau hyfryd sydd wedi’u personoli fel addurniadau Nadolig, bangles, keyrings, mwclis a gemwaith. Ond y gwerthwr mwyaf yw’r fframiau cerrig bach, neu pebble art. Mae popeth ry’n ni’n eu gwerthu wedi cael eu gwneud neu eu ffynhonellu’n lleol yng Nghymru. Mae’r cwmni wedi bod yn llwyddiant enfawr wrth i mi gymryd drosodd.

Mae’r gefnogaeth wrth fy nheulu a chymunedau Cymraeg wedi bod yn anhygoel. Enillais ganmoliaeth uchel yn y categori entrepreneur ifanc o Fenywod Cymraeg mewn busnes a hefyd enillais entrepreneur ifanc yng ngwobrau cyflawnwr ifanc Bae Abertawe. Mae’r busnes wedi agor llawer o ddrysau i mi ar gyfer y dyfodol, a ges i’r cyfle i gwrdd â Theresa May yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn 2019.

Mae rhedeg busnes a bod yn ysgol trwy’r wythnos yn anodd iawn, ond gyda llawer o gymorth wrth deulu a ffrindiau dwi’n gweithio’n galed iawn i lwyddo. Wrth i mi gwpla TGAU ym mlwyddyn 11 roedd hi’n anodd i jyglo’r gwaith, ond yna daeth y coronafirws a chanslo’r arholiadau. Y flwyddyn nesaf dwi’n gobeithio mynd i’r Chweched i wneud lefel A a bydd y gwaith jyglo yn heriol dwi’n siwr ond wna i weithio’n galed i gadw cwsmeriaid ac athrawon yn hapus!!

Mae’r coronafirws wedi effeithio pawb, rhai yn dda a rhai yn wael. Ni’n lwcus iawn i ddweud fod neb ni’n eu hadnabod wedi cael y firws yn wael ac mae pawb yn iachus. Roedd y feirws wedi canslo fy arholiadau TGAU, felly mae’r lockdown wedi bod bach yn nerve wracking ar gyfer y canlyniadau. Mae wedi bod yn anodd iawn i beidio rhoi cwtsh i fy mherthnasau a fy ffrindiau. Roedd y lockdown wedi cwmpo dros fy mhenblwydd yn anffodus ond wnaeth fy nheulu gwneud e’n benblwydd anhygoel.

Beth nesaf? Wel dwi’n gobeithio parhau i ddod a rhagor o gynhyrchion allan yn y blynyddoedd nesaf ac wrth gwrs, cadw cwsmeriaid i wenu. Fi yw’r unig un sy’n gweithio yn y busnes ar hyn o bryd, felly pan dwi’n mynd i’r Brifysgol dwi’n gobeithio cael aelod o staff mewn i helpu.

Dwi wastad wedi bod yn greadigol, ac mae creadigrwydd yn rhedeg yn y teulu. Roedd fy mhlentyndod yn llawn celf a chrefft. Ar gyfer fy nghwrs Tecstilau TGAU fe wnes i ffrog allan o ffabrig fy hen nain ar gyfer fy narn olaf. Mae tecstilau yn rhywbeth sydd wedi cael ei fwynhau ar draws cenedlaethau o fy nheulu.

Yn ystod lockdown dwi wedi bod yn fishi iawn gyda gwaith Bodoli. Ond mae hefyd llawer o amser rhydd ar fy nhwylo. Dwi wedi bod yn gwylio Netflix, coginio fwy i’r teulu, cael cwis Zoom yn wythnosol gyda’r merched, glanhau a gwella fy ystafell wely a threulio llawer o amser gyda’r teulu!

Y dyfodol? Wel mae’n llawn cwestiynau cyffrous, a dwi’n edrych ymlaen.

Lili x

Gwefan: www.bodoli.co.uk
Instagram: @bodoli_
Facebook: @Bodoliart

Cymuned | Lodes Lysh: Lili Jones
bottom of page